{"id":291,"date":"2023-05-30T18:22:33","date_gmt":"2023-05-30T17:22:33","guid":{"rendered":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/?post_type=news&#038;p=291"},"modified":"2025-06-12T13:06:42","modified_gmt":"2025-06-12T12:06:42","slug":"pam-fy-mod-in-gwirfoddoli-yn-y-llys-teulu","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/news\/pam-fy-mod-in-gwirfoddoli-yn-y-llys-teulu\/","title":{"rendered":"Pam fy mod i\u2019n gwirfoddoli yn y llys teulu"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Dywedwch ychydig amdanoch eich hun.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dwi&#8217;n 39 oed ac yn byw gyda fy ngwraig a dau o blant ifanc yn Swydd Bedford. Yn fy swydd bob dydd, rwy\u2019n uwch reolwr yn y diwydiant rheilffyrdd.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydw i hefyd yn gwirfoddoli yn fy nghymuned, yn cadeirio elusen pobl h\u0177n yn Swydd Buckingham ac yn Ymddiriedolaeth Academi ysgol yn Swydd Hertford.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2019, deuthum yn ynad yn y llys teulu, i ychwanegu at fy amserlen sydd eisoes yn brysur!<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth wnaeth ichi benderfynu rhoi hyd yn oed mwy o&#8217;ch amser gyda hyd yn oed mwy o waith gwirfoddol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Roedd rhai cydweithwyr yn y gwaith wedi cofrestru i ddod yn ynadon ac maent bob amser yn siarad am eu profiad, felly roeddwn i&#8217;n hyderus y byddai&#8217;n ddefnydd gwych o fy amser.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn hefyd yn ei weld yn gyfle gwych i ennill sgiliau a defnyddio\u2019r hyn y byddwn yn ei ddysgu fel ynad yn fy swydd bob dydd. Edrychais ar y 13 diwrnod sydd ei angen i fod yn y llys bob blwyddyn yr un mor werthfawr \u00e2 mynychu cyrsiau hyfforddi gwaith allanol. Felly, roedd gwirfoddoli wir yn teimlo fel senario \u2018win-win\u2019 i mi a&#8217;r gymuned rydw i wedi ymrwymo i\u2019w gwasanaethu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pam wnaethoch chi benderfynu dod yn ynad yn y llys teulu yn hytrach na\u2019r llys troseddol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Rwy&#8217;n fwy cyfarwydd \u00e2\u2019r penderfyniadau a wnaed mewn llys teulu oherwydd roeddwn i&#8217;n rhan o achos mewn un pan oeddwn i tua phump oed. Bu i\u2019r penderfyniadau a wnaed osod cynsail ar gyfer fy mywyd ac yn y pen draw yn golygu fy mod i&#8217;n mynd ymlaen i fyw gyda fy nhad.<\/p>\n\n\n\n<p>Er fy mod yn rhy ifanc i ddeall beth oedd yn digwydd ar y pryd, gwnaed penderfyniadau ar fy rhan gan bobl oedd eisiau y gorau imi. Gan edrych yn \u00f4l fel oedolyn, atgyfnerthodd fy mhrofiad llys teulu bwysigrwydd gwneud y penderfyniadau cywir i blant.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y pen draw, roeddwn i eisiau helpu i wneud gwahaniaeth diriaethol ym mywydau plant sy&#8217;n rhan o&#8217;r system llysoedd teuluol am fod eraill wedi gwneud yr un peth i mi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw&#8217;r elfen fwyaf buddiol o&#8217;ch r\u00f4l fel ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bob tro dwi&#8217;n camu allan o&#8217;r llys &#8211; boed hynny ar \u00f4l gwrandawiad cyntaf neu olaf &#8211; dwi&#8217;n gwybod fy mod i wedi chwarae fy rhan mewn proses fydd yn effeithio ar fywydau plant, rhieni, a phawb arall sy&#8217;n rhan o&#8217;r broses.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hynny&#8217;n fraint mawr imi.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Mae&#8217;n rhaid bod adegau pan rydych chi\u2019n clywed straeon emosiynol iawn \u2013 sut ydych chi\u2019n delio gyda hynny?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cefais fy nysgu mewn hyfforddiant ei bod mor bwysig meithrin gwytnwch a dod o hyd i ba bynnag fecanwaith sy&#8217;n gweithio i chi fynd trwy achosion emosiynol. Byddwn i&#8217;n dweud celwydd pe bawn i&#8217;n dweud ei bod hi&#8217;n hawdd peidio meddwl am achos unwaith rydych chi adref gyda munud i chi&#8217;ch hun. Ond dwi&#8217;n trio cymaint ag y galla\u2019i i ymlacio ychydig bach pan dwi&#8217;n cyrraedd adref, ac mae fy mhlentyn bach a\u2019m mab saith oed yn fy nghadw i&#8217;n gorfforol ac yn feddyliol brysur yn dyfeisio gemau newydd!<\/p>\n\n\n\n<p>Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth gan ynadon eraill, sydd yn help mawr. Mae&#8217;r gefnogaeth honno hefyd yn bresennol pan fyddwch chi&#8217;n dechrau fel ynad ac yn cael mentor sy&#8217;n ynad profiadol. Byddant yn eich arsylwi yn ystod rhai o&#8217;ch eisteddiadau ac mewn gwirionedd yn eistedd ar y fainc gyda chi, yn barod i&#8217;ch helpu os oes angen hynny arnoch.<\/p>\n\n\n\n<p>Cefais y gefnogaeth honno hyd yn oed y tu allan i&#8217;r ystafell llys, gan fod fy mentor yn unigolyn gwych i siarad ag o yn ystod achosion arbennig o emosiynol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut mae bod yn ynad wedi effeithio ar eich swydd bob dydd? Oes unrhyw sgiliau trosglwyddadwy y mae eich cyflogwr yn elwa ohonynt?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae pethau yn y gwaith yn achosi llai o straen imi nawr oherwydd, yn y llys, rwy&#8217;n gwneud penderfyniadau sy&#8217;n cael effaith llawer mwy personol a hir dymor ar eraill. Felly, mae hyn yn helpu i roi persbectif a hyder i mi y gallaf ddelio \u00e2 heriau a allai ddod i&#8217;r wyneb tra yn y gwaith.<\/p>\n\n\n\n<p>Fel ynad yn y llys teulu, rwy&#8217;n ymwneud ag achosion emosiynol sy&#8217;n golygu fy mod yn gallu meithrin a datblygu sgiliau o ran datrys gwrthdaro, cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, ymchwil a gwaith t\u00eem, i enwi rhai. Rwyf hefyd wedi meistroli sgiliau os oes anghytundeb ymysg pobl, sy&#8217;n sgil ardderchog i unrhyw un sy&#8217;n gweithio mewn t\u00eem.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth fyddech chi&#8217;n ei ddweud wrth rywun sy&#8217;n meddwl am ddod yn ynad yn y llys teulu?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae bod yn ynad yn ffordd wych o gyfrannu at eich cymuned leol, i ddatblygu sgiliau a gwneud penderfyniadau sy&#8217;n newid bywydau.<\/p>\n\n\n\n<p>O&#8217;r diwrnod cyntaf, byddwch yn chwarae rhan wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau&#8217;r plant a&#8217;r teuluoedd sydd o&#8217;ch blaen; Mae hynny&#8217;n gyfrifoldeb anhygoel a gwerth chweil i&#8217;w gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer achosion teulu a&#8217;r straeon emosiynol sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 nhw, ystyriwch <a href=\"https:\/\/magistrates.affinixats.co.uk\/jobtools\/jncustomsearch.searchResults?in_organid=20434&amp;in_jobDate=All\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gofrestru<\/a> i ddod yn ynad yn y llys teulu.<\/p>\n","protected":false},"featured_media":292,"template":"","meta":{"_acf_changed":false},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-291","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"featured_image_url":"https:\/\/cdn.websitebuilder.service.justice.gov.uk\/uploads\/sites\/11\/2023\/05\/Sam-Russell-quotecard.png","post_meta":{"summary":"Fel ynad, gallwch ddewis eistedd mewn llys troseddol neu lys teulu. Siaradom \u00e2 Sam am ei benderfyniad dros eistedd yn y llys teulu."},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news\/291","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/292"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=291"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=291"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=291"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}