{"id":317,"date":"2023-06-21T12:04:59","date_gmt":"2023-06-21T11:04:59","guid":{"rendered":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/?post_type=news&#038;p=317"},"modified":"2025-06-12T13:06:15","modified_gmt":"2025-06-12T12:06:15","slug":"gofynnwch-i-ynad-cydbwyso-cyflogaeth-a-dyletswyddau","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/news\/gofynnwch-i-ynad-cydbwyso-cyflogaeth-a-dyletswyddau\/","title":{"rendered":"Gofynnwch i ynad: Cydbwyso cyflogaeth \u00e2 dyletswyddau"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae bod yn ynad yn swydd werth chweil lle gallwch roi\u2019n \u00f4l i\u2019ch cymuned leol. Buom yn siarad ag ynadon ledled y wlad i ddysgu sut maent yn cydbwyso bywyd gwaith \u00e2\u2019u cyfrifoldebau fel ynadon.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut ydych chi\u2019n cydbwyso gwirfoddoli fel ynad \u00e2\u2019ch swydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae fy nghwmni\u2019n llwyr gefnogi\u2019r amser rydw i\u2019n ei dreulio\u2019n rhoi\u2019n \u00f4l i fy nghymuned leol. Maen nhw\u2019n rhoi gwyliau gyda th\u00e2l i mi gyflawni fy nyletswyddau yn y llys. Maen nhw\u2019n gallu gweld y manteision rydw i\u2019n eu cynnig i\u2019r cwmni a\u2019r gymuned drwy eistedd fel ynad. Cynhaliwch sgwrs agored a gonest gyda\u2019ch cyflogwr i weld sut mae\u2019n barod i\u2019ch cefnogi.\u201d \u2013 <strong>Aruj, Uwch Reolwr Cynnyrch<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n gwneud yn si\u0175r fy mod yn eistedd oddeutu unwaith bob 3 wythnos ar y mwyaf, sy\u2019n cyfateb i un eisteddiad bob mis. Rwy\u2019n gwneud hyn er mwyn lleihau\u2019r pwysau ar fy nghyflogwr i ddod o hyd i rywun i wneud fy ngwaith yn fy absenoldeb. O bryd i\u2019w gilydd, rwy\u2019n eistedd ar fyr rybudd, ond dim ond pan fydd hyn yn cyd-daro \u00e2 chyfnodau llai prysur yn y gwaith.\u201d \u2013 <strong>Daniel, Rheolwr Busnes<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut gwnaethoch chi ddechrau&#8217;r drafodaeth gyda\u2019ch cyflogwr?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cPan ofynnais i\u2019m rheolwr am ei gefnogaeth, ar \u00f4l i fi benderfynu gwneud cais i fod yn ynad (cam hollbwysig y mae angen i chi ei gymryd), roeddwn yn ffodus bod fy rheolwr eisoes yn gwybod beth yw hanfodion ynad. Fe awgrymais rhai tudalennau gwe iddo edrych arnyn nhw i gael gwybod mwy am y r\u00f4l a chyfrifoldebau\u2019r cyflogwr.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddem yn cytuno y byddai\u2019n gyfle gwych i mi wneud cais, ac roedd y ddau ohonom yn teimlo ei fod yn rhywbeth y gallwn ei ddilyn ar yr un pryd \u00e2 rheoli fy llwyth gwaith yn effeithlon. Esboniais y gofynion eistedd sylfaenol wrtho, ac oherwydd bod fy nghyflogwr wir yn gefnogol o wirfoddoli a rhoi\u2019n \u00f4l, roeddwn yn hyderus nad oedd hyn yn mynd i fod yn broblem o ran dod o hyd i\u2019r amser i ymrwymo.\u201d \u2013 <strong>Anthony, Rheolwr Cyfathrebu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n ffodus iawn bod fy rheolwr yn eistedd yn y llysoedd ieuenctid. Mae hi\u2019n annog ynadon o\u2019r sefydliad. Mae ynadon yn dysgu llawer iawn o sgiliau cymdeithasol, yn ogystal \u00e2 sgiliau deallusol, sgiliau trafod, ond hefyd sgiliau cydbwysedd a phroffesiynoldeb sy\u2019n dod drwy\u2019r broses o fod mewn llys ynadon a\u2019r holl sgiliau y maent yn eu trosglwyddo&#8217;n \u00f4l i\u2019w gwaith.\u201d \u2013 <strong>Emir, Cyfrifydd Siartredig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Oes gennych chi unrhyw gyngor am siarad \u00e2\u2019ch cyflogwr am ddod yn ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cSiaradwch \u00e2\u2019ch cyflogwr \/ rheolwr. A oes cyfleoedd i weithio\u2019n hyblyg i wneud amser i eistedd? A oes gan eich cyflogwr bolisi sy&#8217;n caniat\u00e1u amser o&#8217;r gwaith gyda th\u00e2l (mae gan lawer o gyflogwyr mawr bolis\u00efau o&#8217;r fath).\u201d <em>&#8211; <\/em><strong>Terry, Prif Reolwr Cefnogi Adnoddau Dynol a\u2019r Gyflogres<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cPeidiwch \u00e2 bod ofn pwysleisio wrth eich cyflogwr pa mor bwysig yw&#8217;r r\u00f4l y byddwch chi\u2019n ei chyflawni, a\u2019ch bod yn gwneud hynny fel gwirfoddolwr.\u201d \u2013 <strong>Mark, Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Elusennol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cByddwn yn awgrymu siarad \u00e2\u2019ch rheolwr yn y lle cyntaf yn hytrach na dweud dim; gyda\u2019ch gilydd dylech allu dod o hyd i ddatrysiad i\u2019r hyn sy\u2019n peri pryder i chi. Anogwch eich cyflogwr i edrych ar wefannau Cymdeithas yr Ynadon a\u2019r Weinyddiaeth Gyfiawnder \u2013 mae digon o wybodaeth am sut y gall cyflogi ynad fod o fudd i fudiad, ni waeth pa mor fach ydyw.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ben hynny, os ydych chi newydd gael eich penodi, siaradwch \u00e2\u2019ch mentor \u2013 byddant yn wybodus am hyn ac yno i\u2019ch cefnogi. Fel arall, mae Cadeirydd y Fainc yn ffynhonnell wych o gefnogaeth \u2013 cofiwch gadw mewn cysylltiad os ydych chi\u2019n cael trafferth mewn unrhyw ffordd.\u201d \u2013 <strong>Anthony, Rheolwr Cyfathrebu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><strong>Pa sgiliau ydych chi wedi\u2019u datblygu fel ynad sydd o fudd i chi yn y gweithle?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRydw i\u2019n dysgu cymaint fel ynad. Rydw i\u2019n dysgu sut mae mynegi fy hun; rydw i\u2019n dysgu am y gyfraith, rydw i\u2019n dysgu sut mae&#8217;r system gyfreithiol yn gweithio, ac rydw i\u2019n dysgu sut mae gwneud penderfyniadau er budd gorau pobl. Rwy\u2019n mynd \u00e2 hynny\u2019n syth yn \u00f4l gyda mi i\u2019r gwaith, ac i fy nghartref, ac i\u2019m ffrindiau, ac i\u2019r bobl yn fy nghymuned.\u201d \u2013 <strong>Khadija, Meddyg Iau<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRwy\u2019n gallu darllen llawer o wybodaeth yn gyflym a chwilio am bwyntiau \/ ffeithiau allweddol a chrynhoi gwybodaeth yn gyflym. Yn ogystal, rwy\u2019n credu bod gweithio ar fainc o dri a gallu cyfleu fy mhwynt yn hyderus, cyfaddawdu, a gwybod pryd i wthio rhywbeth neu ei adael i fod, wedi bod yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd gwaith heriol.\u201d \u2013 <strong>Alexa, Uwch Reolwr Llywodraethu<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cSgiliau gwrando a negodi, ochr yn ochr \u00e2 dull strwythuredig o ddelio \u00e2 phroblemau.\u201d \u2013 <strong>Carole, Cydlynydd Gwasanaethau Cwsmeriaid<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cHyder, gwaith t\u00eem a chymhathu gwybodaeth allweddol yn gyflym o lawer iawn o ddogfennau. Yn anad dim, mae wedi rhoi persbectif ehangach i mi ar gymdeithas a\u2019r problemau cymdeithasol y mae\u2019n rhaid i ddefnyddwyr llys eu rheoli\u2019n aml yn eu bywydau.\u201d \u2013 <strong>Lisa, Darlithydd Cyswllt<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella\u2019n aruthrol, rwy\u2019n mynegi fy hun yn fwy cryno a chlir ac wedi datblygu ymwybyddiaeth o gyd-destun emosiynol unrhyw gyfathrebu wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 gwrthdaro rhwng aelodau\u2019r t\u00eem, gan fod yn llawer mwy seiliedig ar dystiolaeth wrth ddatrys anghydfodau a bod yn ymwybodol o unrhyw dybiaethau rwy\u2019n eu gwneud.\u201d \u2013 <strong>Daniel, Rheolwr Busnes<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae cymorth ar gael i\u2019ch helpu i gydbwyso eich dyletswyddau fel ynad gyda\u2019ch cyflogaeth. Mae adnoddau ar gael i\u2019ch helpu i siarad \u00e2\u2019ch cyflogwr a gwneud yn fawr o\u2019ch r\u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/cyngor-i-gyflogwyr\/\">canllawiau<\/a> ar gael i gyflogwyr i\u2019ch helpu i ddechrau\u2019r sgwrs.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/magistrates.affinixats.co.uk\/jobtools\/jncustomsearch.searchResults?in_organid=20434&amp;in_jobDate=All\"><strong _msttexthash=\"2125097\" _msthash=\"158\"><strong>Gwirfoddolwch nawr<\/strong><\/strong><\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"featured_media":318,"template":"","meta":{"_acf_changed":false},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-317","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"featured_image_url":"https:\/\/cdn.websitebuilder.service.justice.gov.uk\/uploads\/sites\/11\/2023\/06\/magistrate-court-room22-150x150-1.jpg","post_meta":{"summary":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news\/317","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/318"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=317"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=317"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=317"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}