{"id":319,"date":"2023-06-21T12:04:40","date_gmt":"2023-06-21T11:04:40","guid":{"rendered":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/?post_type=news&#038;p=319"},"modified":"2025-06-12T13:05:27","modified_gmt":"2025-06-12T12:05:27","slug":"y-wobr-o-fod-yn-ynad","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/news\/y-wobr-o-fod-yn-ynad\/","title":{"rendered":"Y wobr o fod yn ynad"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae Aruj yn rhannu ei meddyliau am ddod yn ynad a\u2019r hyn y mae hi\u2019n ei fwynhau am y r\u00f4l.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn i eisiau ceisio deall mwy am y rhesymau, sydd weithiau yn gallu bod yn gymhleth, sy\u2019n arwain at ymddygiad troseddol. Drwy godi ymwybyddiaeth o\u2019r problemau hyn, gobeithio y gallwn, fel cymuned, ac fel gwlad, barhau i roi mesurau teg a defnyddiol ar waith a all gael effaith gadarnhaol er mwyn newid cyfeiriad bywyd rhywun.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth fyddech chi\u2019n ei ddweud wrth unrhyw un arall sy\u2019n ystyried dod yn ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Peidiwch ag oedi! Byddwch yn rhyfeddu at yr hyn rydych chi\u2019n ei ddysgu. Nid yn unig sgiliau ymarferol, sy\u2019n gwella cyflogadwyedd a chyfathrebu, ond hefyd y cyfle i gwrdd \u00e2 chynifer o bobl frwdfrydig a rhagweithiol o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Maen nhw, fel chi, eisiau gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau. O\u2019r rheini yn y llys i\u2019r rheini y tu allan, byddwch bob amser yn gallu teimlo ymdeimlad o gymuned yn yr ynadaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Sut byddech chi\u2019n disgrifio eich r\u00f4l fel ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae fy r\u00f4l fel ynad yn eithaf syml. Rhaid i mi gosbi\u2019r rheini sydd wedi cael eu dyfarnu\u2019n euog o drosedd a byddaf bob amser yn ystyried, lle bo hynny\u2019n berthnasol neu\u2019n angenrheidiol, a oes modd gorfodi unrhyw fesurau adsefydlu i helpu i leihau ymddygiad aildroseddu. Fy r\u00f4l i yw cynnal y gyfraith, drwy fod yn deg ac yn ddiduedd, gan ystyried amgylchiadau unigol pob troseddwr a sut mae hynny\u2019n dylanwadu ar eu hymddygiad troseddol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Beth yw rhai o elfennau mwyaf buddiol y r\u00f4l?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwrdd ag unigolion o\u2019r un anian sydd \u00e2 nodau tebyg, sy\u2019n rhoi o\u2019u hamser a\u2019u harian i helpu i wella eu cymunedau lleol<\/li>\n\n\n\n<li>Gweld sut y gall eich penderfyniadau gael effaith gadarnhaol ar ddiffynyddion ac achwynwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Bod yn rhan o rywbeth mwy<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Sut oedd y broses ymgeisio?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r broses ymgeisio yn union fel cyfweliad am swydd. Ceir ffurflen gais ac yna cyfweliad. Maen nhw\u2019n cael eu cynnal gan bobl a fydd yn dod yn gymheiriaid i chi cyn bo hir, ac maen nhw\u2019n agored ac yn fodlon cynnig cipolwg ar eu profiadau yn y \u2018gwaith\u2019. Does dim cwestiynau twyllodrus. Y cyfan sydd ei angen yw i chi fod yn chi eich hun a dangos pam eich bod yn teimlo\u2019n angerddol dros wirfoddoli eich amser i gefnogi\u2019r ynadaeth.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yn eich barn chi, beth yw rhai o\u2019r rhinweddau pwysicaf mewn ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o nodweddion allweddol sy\u2019n angenrheidiol i fod yn ynad. Byddwn yn dweud mai un o\u2019r prif nodweddion yw bod yn ddiduedd ac yn deg. Byddwch yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio\u2019n fawr ar fywydau pobl. Rhaid i chi hefyd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fod yn barod i wrando ar yr holl ystyriaethau a gwneud penderfyniad cytbwys a diduedd ynghylch sut i ddelio ag achosion unigol.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau eich bod yn gweithio mor effeithiol \u00e2 phosibl drwy hyfforddiant a hunanddatblygiad parhaus.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwrando a chyfathrebu \u00e2\u2019ch cymheiriaid a\u2019ch cydweithwyr, yn ogystal \u00e2 diffynyddion, achwynwyr a phobl eraill yn y llys.<\/li>\n\n\n\n<li>Gallu gweithio\u2019n effeithiol ym mhob amgylchedd, gan ystyried llawer iawn o wybodaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Meddu ar y gallu i gyfleu eich penderfyniadau yn rhesymegol ac yn glir.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/magistrates.affinixats.co.uk\/jobtools\/jncustomsearch.searchResults?in_organid=20434&amp;in_jobDate=All\"><strong>Gwirfoddolwch nawr<\/strong><\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<p><font _mstmutation=\"1\"><\/font><\/p>\n","protected":false},"featured_media":322,"template":"","meta":{"_acf_changed":false},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-319","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"featured_image_url":"https:\/\/cdn.websitebuilder.service.justice.gov.uk\/uploads\/sites\/11\/2023\/06\/Aruj-quotecard.png","post_meta":{"summary":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news\/319","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/322"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=319"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=319"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=319"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}