{"id":320,"date":"2023-06-14T11:19:06","date_gmt":"2023-06-14T10:19:06","guid":{"rendered":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/?post_type=news&#038;p=320"},"modified":"2025-06-12T13:06:29","modified_gmt":"2025-06-12T12:06:29","slug":"dod-yn-ynad-yn-19-oed","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/news\/dod-yn-ynad-yn-19-oed\/","title":{"rendered":"Dod yn ynad yn 19 oed"},"content":{"rendered":"\n<p>O oedran ifanc, roedd Luke eisiau bod yn rhan o\u2019r broses o wneud y newid yr oedd am ei weld. Erbyn hyn, yn ei 30au, mae\u2019n credu mai dod yn ynad yw un o\u2019r pethau mwyaf boddhaus y mae wedi\u2019i wneud erioed.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn i\u2019n eithaf ifanc pan benderfynais <a href=\"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/sut-i-wirfoddoli\/\">fod yn ynad<\/a><a href=\"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/how-to-volunteer\/?sType=magistrates_website\">.<\/a> Ar \u00f4l gweld achosion yn y wasg leol a chlywed sylwadau ffrindiau a theulu, roeddwn i eisiau bod yn rhan o\u2019r broses. Yn hytrach na gwneud sylwadau, roeddwn i eisiau bod yn rhan o\u2019r newid roeddwn i eisiau ei weld. Roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth a dod \u00e2 meddylfryd newydd i\u2019r fainc, gyda phersbectif newydd ar faterion cyfredol.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn i\u2019n 19 oed pan gefais fy mhenodi\u2019n ynad am y tro cyntaf a dechreuais eistedd yn y llys yn Leeds. Nawr yn fy 30au, rwy\u2019n gallu dweud yn ddi-os bod y penderfyniad a wnes i yn fy arddegau wedi mynd ymlaen i fod yn un o\u2019r pethau mwyaf boddhaus rydw i wedi\u2019u gwneud yn fy mywyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Y wobr fel ynad, i mi, yw\u2019r gallu i wneud gwahaniaeth go iawn i\u2019r materion yr ydych yn llywyddu drostynt. Gallwch sicrhau\u2019r canlyniad gorau posibl i ddioddefwyr a\u2019r gymuned ehangach. Fel ynadon, mae pobl yn ymddiried ynom i ddatblygu\u2019r gallu i wneud penderfyniadau diduedd ar ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn ein cymunedau lleol a darparu datrysiad clir i\u2019r sefyllfa. Rydym yno i gynnal rheol y gyfraith a sicrhau bod y rhai sy\u2019n euog yn cael eu dyfarnu\u2019n euog a bod y rhai sy\u2019n ddieuog yn cael eu rhyddfarnu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae twf personol yn uchafbwynt arall o fod yn ynad. Rydych yn agored i lawer o wahanol sefyllfaoedd mewn ystafell llys a gallwch ddatblygu eich sgiliau meddwl a gwneud penderfyniadau strwythuredig. Rhaid i chi ystyried yr holl ffeithiau a thrafod y camau cywir i\u2019w cymryd. Dysgais gymaint o\u2019r trafodaethau hyn, a gallaf ddefnyddio\u2019r sgiliau hyn yn fy mywyd personol hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn annog unrhyw un i wirfoddoli. Er y gall unrhyw un dros 18 oed ddod yn ynad, teimlaf fod rhai rhinweddau pwysig y dylai pob ynad feddu arnynt. Dylai ynad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Feddu ar y gallu i wrando ar safbwyntiau pobl eraill a deall gwahaniaethau barn<\/strong>. Pan fydd gwahanol safbwyntiau, mae angen i chi fod yn gydweithredol a chaniat\u00e1u i eraill drafod pynciau\u2019n agored. Mae hyn yn eithriadol o bwysig pan fydd y fainc yn trafod manylion achos a\u2019r angen i wneud penderfyniad.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Peidio \u00e2 bod yn rhagfarnllyd.<\/strong> Dylai unrhyw un sy\u2019n gwneud cais allu deall eu rhagfarnau personol eu hunain a sicrhau nad ydynt yn rhan o\u2019u rhesymeg. Rhaid i ynad wneud penderfyniad gwrthrychol ar sail ffeithiau\u2019r achos o\u2019i flaen.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Bod yn deg<\/strong> drwy drin pawb fel unigolyn a phob achos yn unigol. Dylai ynad wneud penderfyniadau mewn ffordd agored a thryloyw, gan fod yn gyson o ran y ffordd y mae ein canllawiau\u2019n cael eu rhoi ar waith.<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Gwneud yn si<\/strong><strong>\u0175<\/strong><strong>r bod pawb sy<\/strong><strong>\u2019<\/strong><strong>n dod i<\/strong><strong>\u2019<\/strong><strong>r llys yn deall beth sy<\/strong><strong>\u2019<\/strong><strong>n digwydd,<\/strong> gan fod ystafell llys yn gallu bod yn lle dryslyd. Dylai ynad fod yn graff ac yn gallu sylwi ar arwyddion bach a allai atal rhywun rhag cael gwrandawiad teg yn y llys a sicrhau bod y rhain yn cael sylw.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn bwysicaf oll, mae\u2019n rhaid i ynad fod yn ddiymhongar \u2013 gweld ei hun yn gydradd \u00e2&#8217;r rheini o\u2019r gymuned y maen nhw\u2019n eu gwasanaethu. Mae\u2019r penodiad hwn yn anrhydedd ac, fel ynad, mae&#8217;n rhaid i chi gofio bod gennych chi bwerau sy&#8217;n helpu&#8217;ch cymuned i ddatrys rhai o&#8217;r materion anoddaf maen nhw&#8217;n eu hwynebu<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Ydych chi\u2019n meddwl eich bod yn meddu ar yr hyn sydd ei angen i fod yn ynad?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\" href=\"https:\/\/magistrates.affinixats.co.uk\/jobtools\/jncustomsearch.searchResults?in_organid=20434&amp;in_jobDate=All\"><strong>Dysgwch fwy am sut gallwch chi wirfoddoli a dechreuwch ar eich taith.<\/strong><\/a><\/div>\n<\/div>\n","protected":false},"featured_media":321,"template":"","meta":{"_acf_changed":false},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-320","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"featured_image_url":"https:\/\/cdn.websitebuilder.service.justice.gov.uk\/uploads\/sites\/11\/2023\/06\/Aruj-quotecard-2.png","post_meta":{"summary":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news\/320","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/321"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=320"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=320"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=320"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}