{"id":473,"date":"2025-08-05T13:03:37","date_gmt":"2025-08-05T12:03:37","guid":{"rendered":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/?post_type=news&#038;p=473"},"modified":"2025-08-05T13:03:38","modified_gmt":"2025-08-05T12:03:38","slug":"mis-treftadaeth-de-asia-gwreiddiau-cyfrifoldeb-a-chynrychiolaeth","status":"publish","type":"news","link":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/news\/mis-treftadaeth-de-asia-gwreiddiau-cyfrifoldeb-a-chynrychiolaeth\/","title":{"rendered":"Mis Treftadaeth De Asia: Gwreiddiau, Cyfrifoldeb a Chynrychiolaeth"},"content":{"rendered":"\n<p>Fel rhywun gyda theulu sy\u2019n tarddu o Dde Asia, mae Mis Treftadaeth De Asia yn rhoi cyfle i mi gymryd seibiant, myfyrio ac ailgysylltu, nid yn unig gyda fy hunaniaeth ddiwylliannol ond hefyd gydag etifeddiaeth a chyfraniadau anhygoel pobl De Asiaidd ledled y DU. Mae\u2019n adeg i ddathlu ein cerddoriaeth, ein bwyd, ein hieithoedd, ein straeon ac yn bwysicach fyth, y gwerthoedd rydym yn eu dal: teulu, gwasanaethu, gwydnwch a chymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn bersonol, dw i\u2019n marcio\u2019r mis hwn trwy fynd yn \u00f4l at straeon fy hynafiaid &#8211; ffermwyr, athrawon, entrepreneuriaid, cyn-filwyr, a gweision sifil, a wnaeth ddysgu gwerth gwaith caled a gostyngeiddrwydd i mi. Dw i\u2019n parhau i deithio\u2019n \u00f4l i\u2019r ardal yn rheolaidd, nid yn unig i weld teulu ond hefyd drwy gwaith fy elusen, sy\u2019n cefnogi prosiectau iechyd ac addysg yng nghymunedau difreintiedig ledled De Asia.&nbsp; P\u2019un a yw\u2019n sefydlu clinigau gofal llygaid symudol mewn mannau anghysbell, adeiladu ffynhonnau, helpu plant i gael mynediad at addysg, neu cefnogi teuluoedd gydag anghenion sylfaenol neu gostau priodas, mae\u2019r profiad hyn yn fy atgoffa i fod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennyf. Maen nhw\u2019n atgoffa fi o\u2019r cyfrifoldeb rydyn ni i gyd yn ei gario: i anrhydeddu ebyrth y sawl daeth o\u2019n blaenau ni, ac i adeiladu dyfodol gwell i\u2019r sawl sydd i ddod.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae fy nhreftadaeth yn bendant wedi siapio fy siwrne i wasanaethu\u2019r cyhoedd, gan gynnwys fy r\u00f4l fel ynad (ynad heddwch). Er fy mod i wedi cael fy ngeni a fy magu yn y DU, mae gwreiddiau fy nheulu yn rhan o\u2019r byd lle nad yw rheolaeth y gyfraith wedi bod yn gyson neu weithiau heb fod yn hygyrch o gwbl.&nbsp; Wnes i dyfu fyny yn clywed straeon am systemau cyfiawnder lle roedd modd i gyfoeth, braint neu wleidyddiaeth ddylanwadu ar ganlyniadau.&nbsp; Mi wnaeth y cyferbyniadau hyn wneud i mi werthfawrogi system gyfreithiol Prydain a\u2019i hymrwymiad i degwch, ac mi wnaeth fy ysbrydoli i gyfrannu ati. Roedd dod yn ynad yn teimlo fel ffordd naturiol i helpu i gynnal yr egwyddorion o urddas, didueddrwydd a thriniaeth gyfartal i bawb, a dyma\u2019r gwerthoedd rwy\u2019n dod gyda fi &nbsp;i bob ystafell llys rwy\u2019n eistedd ynddi.<\/p>\n\n\n\n<p>Rwy\u2019n falch o fod yn aelod o <a href=\"https:\/\/www.magistrates-association.org.uk\/\">Gymdeithas yr Ynadon<\/a>, sy\u2019n chwarae rhan hanfodol yn cefnogi a chynrychioli ynadon o bob math o gefndiroedd. Mae\u2019r gymdeithas yn hyrwyddo amrywiaeth, yn darparu datblygiad proffesiynol, ac mae\u2019n blatfform allweddol ar gyfer cysylltu aelodau gyda sgyrsiau ehangach am gyfiawnder a diwygio.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae llawer o bobl yn anymwybodol y gall bod yn ynad agor y drws i ffyrdd eraill o wasanaeth cyhoeddus. Ochr yn ochr \u00e2 fy nyletswyddau yn y llys, mae gen i\u2019r fraint o wasanaethu ar Banel Gwarantau Chwilio Cymru Gyfan, Panel Mechn\u00efaeth Cyn Cyhuddo Cymru Gyfan, ac i wrando apeliadau yn Llys y Goron. Rwyf wedi cael yr anrhydedd o gael fy mhenodi gan Arglwydd Brif Ustus Cymru ar yr adeg fel Ynad Cyswllt Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol (DCRM), r\u00f4l sy\u2019n galluogi fi i hyrwyddo ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth o fewn cymunedau sydd wedi\u2019u tangynrychioli.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fy mod i\u2019n Fwslim Prydeinig ac yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol, rwy\u2019n deall pwysigrwydd bod yn weledol a sicrhau bod profiad bywyd o fewn yr ynadaeth.&nbsp; Pan fydd pobl ifanc o gymunedau sydd wedi\u2019u tangynrychioli yn gweld rhywun fel nhw mewn safle o gyfrifoldeb, mae\u2019n cyfleu neges pwerus: \u201cRydych chi\u2019n perthyn yma hefyd.\u201d Mae cynrychiolaeth yn gwneud mwy na grymuso unigolion; mae\u2019n cynyddu hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder. Mae\u2019n sicrhau bod penderfyniadau wedi\u2019u llywio gan amrywiaeth eang o safbwyntiau sydd wedi\u2019u seilio mewn empathi ynghyd \u00e2\u2019r gyfraith.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi dweud hynny, er bod cynrychiolaeth yn y system gyfiawnder yn bwysig, mae\u2019n yr un mor bwysig bod y system yn parhau i addasu i fodloni anghenion pob cymuned. Mae hyn yn cynnwys gwella mynediad at wybodaeth mewn nifer o ieithoedd, darparu arweiniad cliriach trwy gydol y broses llys, a sicrhau bod ymdrechion estyn allan wedi\u2019u llywio gan wybodaeth ddiwylliannol. Rwy\u2019n cydnabod bod camddealltwriaeth diwylliannol neu ieithyddol yn gallu dylanwadu ar ganlyniadau llys, a bod ymgysylltu cynhwysol a rhagweithiol yn allweddol i fagu hyder a chyd-ddealltwriaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddaf yn dweud un peth i bobl ifanc o gefndiroedd De Asiaidd sy\u2019n meddwl dod yn ynad neu weithio yn y sector cyfiawnder: peidiwch \u00e2 meddwl nad ydych yn ddigon da. Nid oes angen gradd yn y gyfraith neu gefndir prifysgol. Ni waeth beth yw eich galwedigaeth; p\u2019un a ydych yn gweithio mewn siop, yn athro\/athrawes, neu\u2019n fyfyriwr, adeiladwr, yn hunangyflogedig neu\u2019n riant llawn amser, gallwch wneud cais. Yr hyn sydd o bwys yw eich profiad bywyd, eich gallu i wrando, eich unplygrwydd, a\u2019ch ymrwymiad i degwch. Mae ein cymunedau eich angen chi. Mae\u2019r system gyfiawnder eich angen chi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Mis Treftadaeth De Asia yn fwy na dathliad o le rydyn ni\u2019n tarddu; mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn rydyn ni\u2019n ei wneud. Beth am ei ddefnyddio i gefnogi ein gilydd, i herio rhwystrau, a siapio system gyfiawnder sy\u2019n adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog y bobl mae\u2019n ei gwasanaethu.<\/p>\n\n\n    <div class=\"wp-block-mojblocks-cta\" >\n        <div class=\"govuk-width-container\">\n            <div class=\"govuk-grid-row\">\n                <div class=\"govuk-grid-column-three-quarters block-cancel-gds-width-if-flex-narrow\">\n                    <div class=\"mojblocks-cta__heading-container\">\n                        <h2 class=\"govuk-heading-l mojblocks-cta__heading\">\n                            <span class=\"mojblocks-cta__heading-text\">\n                                <strong>Dod yn ynad<\/strong>                            <\/span>\n                        <\/h2>\n                    <\/div>\n                    <div class=\"mojblocks-cta__content\">\n                        <p>Gallwch gychwyn ar eich siwrne trwy fynegi eich diddordeb.<\/p>                    <\/div>\n                    <a href=\"https:\/\/magistrates.affinixats.co.uk\/jobtools\/jncustomsearch.searchResults?in_organid=20434&#038;in_jobDate=All\" class=\"mojblocks-button govuk-button\">\n                        cofrestru eich diddordeb                    <\/a>\n                <\/div>\n            <\/div>\n        <\/div>\n    <\/div>\n\n    ","protected":false},"featured_media":474,"template":"","meta":{"_acf_changed":true},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-473","news","type-news","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"featured_image_url":"https:\/\/cdn.websitebuilder.service.justice.gov.uk\/uploads\/sites\/11\/2025\/08\/Moawia.jpg","post_meta":{"summary":"Ar gyfer Mis Treftadaeth De Asia, mae Moawia yn rhannu ei brofiad o fod yn ynad ac yn myfyrio ar bwysigrwydd barnwriaeth cynhwysol."},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news\/473","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/news"}],"about":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/news"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media\/474"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=473"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=473"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/magistrates.judiciary.uk\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=473"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}