Mynd i'r cynnwys

Gwirfoddoli fel Ynad

Rydych yn ymuno â ni ar adeg cyffrous 

Rydym wedi symleiddio ein proses recriwtio gwirfoddolwyr.  Ar y dudalen hon gallwch weld ardaloedd sy’n recriwtio ar hyn o bryd, neu os nad yw eich ardal yn agored eto, gallwch ddechrau gweithio ar eich cais fel ei fod yn barod i’w gyflwyno pan fydd eich ardal yn agor. Dechreuwch ar eich cais heddiw

Gallaf fod yn ynad

Helpwch i wneud y penderfyniadau sy’n siapio eich cymuned, tra byddwch yn ennill sgiliau newydd.

Beth yw ynad?

Gwirfoddolwyr heb unrhyw brofiad cyfreithiol blaenorol yw ynadon ac maent yn dod o bob cefndir. Maent yn gwneud penderfyniadau hanfodol ar amrywiaeth o achosion yn y llys troseddol a’r llys teulu – gan helpu i ddiogelu, gwella a thrawsnewid bywydau pobl.

A all unrhyw un wirfoddoli fel ynad?

Beth bynnag yw lefel eich addysg, os ydych rhwng 18 a 74 oed a’ch bod eisiau herio eich hun, datblygu sgiliau newydd a chreu newid cadarnhaol er lles eich cymuned eich hun, gallwch fod yn ynad.

Pam dod yn ynad?

Mae ein system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr wedi’i seilio ar degwch a bod yn agored. Mae’r rhain yn nodweddion allweddol ar gyfer gwneud penderfyniadau cyfreithiol pwysig – penderfyniadau a wneir gan wirfoddolwyr ymroddedig sy’n dod o’u cymuned leol, ac sy’n wirioneddol ddeall eu cymuned leol.

Cipolwg

Magistrate Sonal standing outside of court

A oes angen i mi gael cefndir cyfreithiol?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau na phrofiad arbennig arnoch i fod yn ynad, ac rydym yn croesawu pobl o bob cefndir. Yn wir, po fwyaf amrywiol yw ein ynadon, y mwyaf y gallwn gynrychioli’r gwahanol gymunedau yr ydym yma i’w cefnogi.

Beth yw ynad?

Beth fyddwn i’n ei wneud?

Mae ynadon yn gwirfoddoli yn y llys teulu a’r llys troseddol, lle maent yn gyfrifol am wneud penderfyniadau hanfodol sy’n diogelu, yn gwella ac yn trawsnewid bywydau pobl.

Y tu mewn i’n llysoedd
Magistrate Rushda standing outside of court

Beth amdanaf i, fel cyflogwr?

Bydd angen i’ch cyflogai wirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn ynghyd â hyfforddiant blynyddol. Mae rhai opsiynau o ran sut y gall hyn weithio, a gall y manteision i’ch sefydliad fod yn enfawr. Edrychwch ar ein gwybodaeth i gyflogwyr i wybod mwy.

Cyngor i gyflogwyr

Mae gen i ddiddordeb – beth sydd nesaf?

Os hoffech wirfoddoli fel ynad, dyma bopeth y bydd angen i chi ei wybod i benderfynu ai dyma’r cyfle cywir i chi, ac i wneud eich cais.

Sut i wirfoddoli