Gwirfoddoli i ddod yn ynad
Mae hwn yn gyfle gwych i ymestyn eich potensial, datblygu sgiliau newydd a gwneud penderfyniadau a fydd yn helpu i greu newid cadarnhaol.
Os ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi wedi’i ddarganfod am ddod yn ynad a’ch bod yn bodloni’r gofynion, mae’n amser i chi wneud cais.
Dyma bopeth sydd angen i chi ei wneud, ar bob cam o’r broses ymgeisio.
Arsylwi gwrandawiadau llys neu wneud gwaith ymchwil
Cyn gwneud cais i ddod yn ynad yn y llys troseddol, bydd angen i chi ymweld â llys ynadon o leiaf ddwywaith i arsylwi achos. Mae hyn yn ofyniad hanfodol cyn i chi lenwi eich ffurflen gais.
Gallwch ddod o hyd i lysoedd ynadon yn eich ardal yma. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’ch llys lleol, byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â’r llys ymlaen llaw er mwyn i chi gael gwybod mwy am pryd i fynychu.
Mae gwefan Cymdeithas yr Ynadon hefyd yn adnodd defnyddiol ar gyfer gwybodaeth am y rôl.
Gan fod achosion llys teulu yn cael eu gwrando yn breifat, ni fyddwch yn gallu ymweld â llys cyn i chi wneud cais. Yn hytrach, dylech ymgyfarwyddo â gwybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am y llys teulu i sicrhau bod y rôl yn iawn i chi. Mae’r adnoddau defnyddiol i ddechrau yn cynnwys:
Canllaw Advicenow ar fynd i’r llys teulu
Gwefan Gwybodaeth am y Llys Teulu
Cael caniatâd eich cyflogwr
Bydd angen i chi siarad â’ch cyflogwr i sicrhau eu bod yn hapus i chi dreulio o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn yn gwirfoddoli fel ynad, yn ogystal â diwrnodau hyfforddi. Gofynnir i chi gadarnhau eu cefnogaeth gyda geirda. Mae gennych hawl gyfreithiol i gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y math hwn o waith gwirfoddol, ond eich cyflogwr sy’n penderfynu faint o ddiwrnodau, ac a yw eich absenoldeb yn cael ei dalu ai peidio. Os ydych yn hunangyflogedig neu os oes rhaid i chi eistedd yn ddi-dâl, gallwch hawlio enillion a gollwyd o hyd at £134.96 y dydd.
Meddyliwch am y cymorth y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi ystyried unrhyw effaith ariannol bosibl cyn gwneud eich cais. Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig o leiaf rhywfaint o absenoldeb â thâl i gydnabod y cyfraniad rydych yn ei wneud i gymdeithas a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Os ydych yn hunangyflogedig, gallwch hawlio colli enillion. Gall bawb hawlio treuliau ar gyfer pethau fel bwyd a theithio.
Gwiriwch eich bod yn gymwys
O ran y gofynion penodol, bydd angen i chi fod yn 18 i 74 oed ac o gymeriad da gyda barn gadarn. Mae ‘cymeriad da’ yn cynnwys eich cymhellion i wneud cais, eich ymrwymiad i’r rôl ac a oes unrhyw reswm y byddai eich penodiad yn effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ynadon. I gael gwybodaeth am ba swyddi y gall eich eithrio rhag gwirfoddoli, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein, a fydd yn cynnwys cyfres o gwestiynau i benderfynu ar eich cymhwysedd a chyfle i ddisgrifio sut rydych yn bodloni pob un o’r pum nodwedd allweddol ganlynol:
- Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol
- Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw
- Cyfathrebu â sensitifrwydd a pharch
- Dangos hunanymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu
- Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol
Bydd angen i chi hefyd ddarparu dau eirda. Os ydych mewn gwaith, rhaid i un o’r rhain fod gan eich cyflogwr.
Os bydd y cam hwn o’ch cais yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Bydd hyn yn asesu a ydych yn dangos y pum nodwedd allweddol, ochr yn ochr â ‘chymeriad da’. Mae hyn yn cynnwys eich cymhellion i wneud cais, eich ymrwymiad i’r rôl ac a oes unrhyw reswm y byddai eich penodiad yn effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ynadon.
Dangoswch i ni yn eich cyfweliadau y gallwch fod yn ynad, a byddwch yn cael cynnig y rôl yn ffurfiol. Credwn y bydd yn un o’r cyfrifoldebau gwaith mwyaf gwerthfawr y byddwch byth yn ymgymryd ag ef.
Mae hon yn rôl wirfoddol ond, gan ei bod hefyd yn benodiad cyhoeddus i’r farnwriaeth, os cewch eich argymell ar gyfer penodiad, bydd angen iddo gael ei gymeradwyo gan yr Uwch Farnwr Llywyddol ar ran yr Arglwydd Brif Ustus.
Bydd disgwyl i chi neilltuo o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn, ynghyd â diwrnodau hyfforddi, am o leiaf bum mlynedd, ar gyfer dyletswyddau ynadon.