Mae dod yn ynad yn gyfle gwych i gefnogi eich cymuned. Mae hefyd yn cynnig nifer o fanteision personol a chyfleoedd datblygiad proffesiynol. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd i:
- Wella’r ffordd rydych chi’n gwerthuso gwybodaeth ac yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth.
- Cynyddu eich hyder wrth siarad yn gyhoeddus ac ymgysylltu ag eraill.
- Dysgu mwy am faterion sy’n effeithio ar eich ardal leol a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol.
Mae angen pum priodoledd allweddol i fod yn ynad da. Mae’r broses ymgeisio wedi’i chynllunio i ddod o hyd i a oes gennych y priodoleddau hyn. Ar bob cam o’r broses, bydd angen i chi ddangos y gallwch:
1. Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw
Rhaid i chi fod yn bendant ac yn gallu ffurfio barn resymegol sy’n ddiduedd ac yn dryloyw drwy ddilyn dull strwythuredig wrth drafod. Dylech hefyd allu cymhathu llawer iawn o wybodaeth ac adnabod materion perthnasol.
2. Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol
Rhaid i chi allu adnabod a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol, delio ag eraill yn dosturiol a dangos dealltwriaeth ac empathi gwirioneddol tuag at eu sefyllfa. Hefyd, bydd arnoch angen ymwybyddiaeth a pharodrwydd i ddeall agweddau allweddol ar faterion cymdeithasol.
3. Cyfathrebu â sensitifrwydd a pharch
Rhaid i chi allu gwrando’n weithredol ac yn astud, egluro eich barn a chyfathrebu’n hyderus a sensitif o fewn ffiniau cyfrinachol. Dylech hefyd allu addasu eich arddull cyfathrebu i gyd-fynd â’r sefyllfa a mynegi’n glir y rhesymeg dros y penderfyniadau a wnewch.
4. Dangos hunanymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu
Rhaid i chi fod yn agored eich meddwl, gallu myfyrio a dysgu o safbwynt pobl eraill, ac addasu’n gyflym i newidiadau. Dylech hefyd allu manteisio ar gyfleoedd i ddysgu a chynnal eich cymhwysedd, yn ogystal â defnyddio strategaethau effeithiol i gynnal eich lles personol.
5. Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol
Rhaid i chi fod yn agored ac yn ddibynadwy, gallu meithrin ymddiriedaeth a hyder, a gweithio mewn modd proffesiynol ac effeithlon yn annibynnol a chydag eraill. Dylech hefyd allu annog eraill i gymryd rhan a’u cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau, gan herio’n briodol unrhyw ragfarn ynoch chi eich hun ac eraill.
6. Cymeriad da
Byddwch hefyd yn cael eich asesu ynghylch a ydych o gymeriad da. Pan fyddwch yn gwneud cais, ac os byddwch yn cyrraedd y cam cyfweliad, gofynnir i chi ddatgelu unrhyw beth amdanoch a allai niweidio eich hygrededd fel ynad pe bai’n dod yn hysbys i’r cyhoedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn yr ynadaeth a’i benderfyniadau. Bydd y panel cyfweld hefyd yn gofyn i chi gadarnhau eich ymrwymiad i ymuno â’r ynadaeth a’r gallu i eistedd yr isafswm o 13 diwrnod.
Mae’n hollbwysig bod gan y cyhoedd ffydd mewn ynadon a’r penderfyniadau a wnânt. Os ydych yn ateb ‘do/ydw’ i unrhyw un o’r isod, yna nid ydych yn gymwys i wneud cais.
- Rhaid i chi fod rhwng 18 a 74.
- Rhaid i chi fod yn barod i dyngu Llw Teyrngarwch i’r Goron.
- Rhaid i chi breswylio’n barhaol yng Nghymru neu Loegr a pheidio â bod wrthi’n ceisio lloches neu ganiatâd amhenodol i aros yn y DU, neu’n bwriadu gwneud hynny.
Sefydlu a oes unrhyw beth yn eich bywyd personol neu broffesiynol sy’n peryglu dwyn anfri ar yr ynadaeth.
Mae nifer o ofynion cymhwysedd ar gyfer gwneud cais i gael eich penodi’n ynad.
Y gofynion cymhwysedd mwyaf sylfaenol yw:
- A ydych chi wedi’ch cael yn euog o drosedd moduro ddifrifol neu wedi cronni chwe phwynt cosb, o fewn y pum mlynedd diwethaf?
- Ar hyn o bryd, a ydych yn fethdalwr heb ei ryddhau, gyda gorchymyn rhyddhad rhag dyledion yn eich erbyn neu wedi ymrwymo i drefniant gyda chredydwyr?
- A ydych yn gyfarwyddwr cwmni a ddiddymwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf neu sydd wedi’i anghymhwyso rhag gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni yn ystod y deng mlynedd diwethaf?
Efallai y bydd eich galwedigaeth yn eich gwneud yn anghymwys
Rhaid i ynadon hefyd fod yn rhydd o ragfarn ac o ddangos rhagfarn, felly mae rhai galwedigaethau a allai eich gwneud yn anghymwys i eistedd fel ynad. Gallwch ddod o hyd i restr o’r galwedigaethau hyn isod.
Nid yw rhai galwedigaethau neu rolau gwirfoddoli eraill yn eich gwneud yn anghymwys yn awtomatig, ond efallai y bydd amodau ynghlwm wrth eich penodiad – er enghraifft, gofyn i chi eistedd mewn ardal wahanol i ble rydych yn gweithio.
Gwybodaeth bersonol ychwanegol sydd ei hangen i benderfynu ar eich cymhwysedd
Er mwyn penderfynu a ydych yn gymwys i gael eich penodi’n ynad, gofynnir i chi hefyd ddatgan gwybodaeth ychwanegol am eich hanes personol, a hanes eich partner neu deulu agos, gan gynnwys meddiannaeth, rolau gwirfoddoli, euogfarnau blaenorol, achosion o fethdaliad neu unrhyw achos llys arall. Wrth ateb y cwestiynau hyn, ceisiwch roi cymaint o wybodaeth â phosibl.
Os ydych yn gwneud cais i’r llys teulu, os oes gennych blant (o dan 18 oed) sydd ar hyn o bryd, neu y disgwylir iddynt ddod, yn destun achos llys neu orchymyn llys, ni fyddwch yn gymwys i gael eich penodi nes bod yr achos hwnnw wedi dod i ben.
Aros am ddwy flynedd i ailymgeisio os ydych wedi gwneud cais aflwyddiannus i’r ynadaeth
Os cewch eich cyfweld ac nad ydych yn llwyddiannus yn eich cais i’r ynadaeth, rhaid i chi aros dwy flynedd cyn y gallwch ailymgeisio. Os ydych wedi gwneud cais i’r ynadaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rhaid i chi ddarparu manylion eich cais blaenorol. Ni fydd eich cais yn cael ei ystyried os yw wedi bod yn llai na dwy flynedd ers i chi gael eich cyfweld ddiwethaf.
Rhaid i chi allu eistedd fel ynad am o leiaf 13 diwrnod llawn y flwyddyn am o leiaf bum mlynedd.
Fel arfer, caiff eisteddiadau eu trefnu ymhell ymlaen llaw a, hyd y gellir, byddant yn cael eu trefnu i ystyried eich amgylchiadau personol megis gwaith ac ymrwymiadau gofalu.
Yn gyffredinol, cynhelir eisteddiadau yn ystod oriau gwaith arferol yn ystod y dydd. Mae rhai llysoedd yn gweithredu ar ddydd Sadwrn, ond ni fyddech yn gallu bodloni’r gofynion eistedd gofynnol drwy eistedd ar ddydd Sadwrn yn unig.
Bydd disgwyl i chi fynychu rhai cyfarfodydd ar ddiwrnod eich eisteddiad, a fydd yn digwydd ar ôl yr eisteddiad. Mae’r rhain yn aml yn darparu gwybodaeth bwysig am newidiadau i unrhyw ddeddfwriaeth a gweithdrefn y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt, ac am unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r fainc y byddwch yn eistedd arni. Bydd hyn yn helpu i wella eich ymwybyddiaeth o unrhyw ddiweddariadau, ac unrhyw faterion a allai effeithio ar eich mainc.
Amser ychwanegol sydd ei angen ar gyfer eich hyfforddiant
Mae bod yn ynad yn gofyn i chi gyflawni pedwar diwrnod o hyfforddiant cyn y gallwch ddechrau eistedd. Bydd amserlenni’r hyfforddiant yn amrywio, a bydd yr hyfforddiant yn cynnwys hanner diwrnod ar hyfforddiant TG. Ar ôl hynny, bydd un neu ddau ddiwrnod arall o hyfforddiant bob blwyddyn.
Rhaid i ynadon fod yn rhydd o ragfarn ac o ddangos rhagfarn, felly mae rhai galwedigaethau a allai eich gwneud yn anghymwys i eistedd fel ynad.
Gweler isod y rhestr o alwedigaethau anghymwys (cyfredol neu yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf) ar gyfer y llys troseddol:
- Aelodau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
- Gweithwyr Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS)
- Ymwelwyr Annibynnol y Ddalfa ac ymwelwyr lleyg
- Byrddau Monitro Annibynnol (IMB)
- Gweithwyr yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA)
- Swyddog Heddlu, Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu, Swyddog Heddlu Gwirfoddol
- Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a gweithwyr sifil yr Heddlu
- Swyddog Carchardai, Swyddog Prawf, Erlynwyr Prawf a rhai cyflogeion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM
- Paneli Cyfiawnder Adferol
- Ditectif Siopau
- Swyddog Traffig (Asiantaeth Priffyrdd) a Wardeiniaid Traffig
- Panelau Troseddwyr Ieuenctid a gweithwyr Byrddau Cyfiawnder Ieuenctid
Gweler isod y rhestr o alwedigaethau anghymwys ar gyfer y llys teulu:
- Swyddog Lles Addysgol
- Cyfaill Mackenzie
- Comisiynydd Yr Heddlu a Throsedd
- Gwasanaeth Carchardai a Gwasanaeth Cytundeb Hebrwng y Carchardai
- Ditectifs Preifat
NODWCH: Os byddwch yn llwyddiannus, gall galwedigaethau eraill olygu eich bod yn gymwys ond yn ddarostyngedig i amodau e.e. ni allwch eistedd yn eich ardal leol oherwydd bod gwrthdaro o ran buddiannau.
Siaradwch â’ch cyflogwr cyn i chi wneud cais
Cyn i chi wneud cais, dylech siarad â’ch cyflogwr i weld a allwch gyflawni hyn o amgylch eich ymrwymiadau gwaith. Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr ganiatáu amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith i gyflogeion wasanaethu fel ynadon.
Nid oes rhaid i’ch cyflogwr eich talu am eich gwaith fel ynad, ond mae llawer o gyflogwyr yn gwneud hynny.
Os na chewch eich talu gan eich cyflogwr, neu os ydych yn hunangyflogedig, gallwch hawlio lwfans gan y llys am golli enillion o hyd at £134.96 y dydd. Gallwch chi a’ch cyflogwr ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn Rhoi amser i ffwrdd i staff sy’n ynadon.
Mae ynadon yn annibynnol ac yn cyflawni eu dyletswyddau’n wirfoddol o fewn llysoedd a gaiff eu gweinyddu gan GLlTEM, sy’n cael ei gydnabod fel sefydliad Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bob grŵp, gan gynnwys y rhai ag anabledd sy’n gallu cyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau ynad, megis:
- Teithio i’ch llys lleol ac o’r llys a llywio eich ffordd o amgylch y llys.
- Darllen gwybodaeth a ddarperir i chi.
- Defnyddio’r offer TG perthnasol fel gliniaduron ac iPads.
Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi nodi ar eich ffurflen gais os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y broses ddethol. Rydym yn gwerthfawrogi bod addasiadau rhesymol yn bersonol ac yn amrywio yn dibynnu ar anghenion yr ymgeiswyr. Felly, os dywedwch wrthym fod angen unrhyw beth arnoch, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i asesu sut y gallwn eich helpu drwy’r broses hon. Bydd unrhyw beth a drafodir yn gyfrinachol ac nid yw’n effeithio ar lwyddiant eich cais i ddod yn ynad.
Rhaid i chi wneud cais i eistedd mewn ardal sy’n lleol i ble rydych chi’n byw neu’n gweithio, boed hynny ar gyfer y llys teulu neu’r llys troseddol. Gallwch ddod o hyd i a yw eich ardal yn recriwtio, yma.
Os nad yw eich ardal yn recriwtio ar hyn o bryd, gallwch gofrestru eich diddordeb a chael gwybod pan fydd eich ardal yn agor ymgyrch recriwtio.
Gallwch ddod o hyd i fanylion yr ymgyrchoedd recriwtio arfaethedig isod. Sylwch y gall y rhain newid. Cofrestrwch eich diddordeb i fod y cyntaf i glywed pan fydd swyddi gwag yn eich ardal chi. Os nad yw eich ardal chi yn recriwtio ar hyn o bryd, manteisiwch ar y cyfle hwn i gwblhau’r arsylwadau llys gofynnol neu’r ymchwil cyn gwneud cais.
Llundain (Troseddol a Theulu) – Ebrill 2022
Swydd Gaer (Troseddol) – Ebrill 2022
Swydd Gaerhirfryn (Teulu) – Mai 2022
Glannau Mersi (Troseddol a Theulu) – Mai 2022
Cymru (Teulu) – Mehefin 2022
Manceinion Fwyaf (Troseddol a Theulu) – Mehefin 2022
Canolbarth Lloegr (Troseddol) – Gorffennaf 2022
De Orllewin Lloegr (Troseddol) Gorffennaf 2022
Cymbria a Swydd Gaerhirfryn (Troseddol) – Hydref 2022
Cymru (Troseddol) Hydref 2022
Y ffurflen gais
Dylech wneud eich cais ar-lein.
Os oes angen, gallwch ofyn am gopi caled neu fersiynau braille drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol lleol.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn:
- Cwestiynau gwybodaeth bersonol, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a manylion cyswllt.
- Cwestiynau Rhagarweiniol. Mae’r rhain yn cynnwys – Sut wnaethoch chi gael gwybod am y swydd wag? Pa faes ydych chi’n gwneud cais iddo? Os ydych chi’n gwneud cais yng Nghymru, ydych chi’n siarad Cymraeg ac a ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion iaith Gymraeg?
- Cwestiynau ynglŷn â Chymhwysedd. Bydd y rhain yn ymdrin â phethau fel eich oedran, lle rydych chi’n byw’n barhaol, a ydych chi wrthi’n ceisio lloches neu’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU? Allwch chi ymrwymo i 5 mlynedd o wasanaeth? Ydych chi wedi gwneud cais yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf? Gofynnir i chi hefyd roi manylion eich dau arsylwad yn y llys ynadon.
- Cwestiynau ynglŷn â Chyflogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys datgan galwedigaeth(au) presennol eich priod neu bartner yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac a ydych yn gwneud unrhyw fath arall o waith/gweithgaredd gwirfoddol ar hyn o bryd.
- Cwestiynau ynglŷn â Chymeriad. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi manylion unrhyw Hysbysiad Cosb Benodedig, euogfarnau/rhybuddion/troseddau moduro/achosion methdaliad yn y gorffennol neu’r presennol. A yw priod, partner, aelod agos o’r teulu neu ffrind agos wedi cael euogfarnau neu rybuddion a allai effeithio ar eich cais i ddod yn ynad? A oes unrhyw beth arall yn eich bywyd preifat neu waith, yn y gorffennol neu’r presennol, a allai niweidio eich hygrededd fel ynad pe bai’n dod yn hysbys i’r cyhoedd?
- Gwybodaeth ychwanegol, megis addasiadau rhesymol a geirdaon.
- Pum priodoledd allweddol. Yma dylech ateb yn y ffordd orau, sut ydych chi’n dangos y pum priodoledd allweddol mewn dim mwy na 300 o eiriau. Gallwch ddod o hyd i fanylion y priodoleddau hyn uchod.
- Cwestiynau monitro amrywiaeth
Y pum nodwedd allweddol – cyngor ar sut i ateb y cwestiynau hyn
Bydd eich atebion i’r cwestiwn am y pum priodoledd allweddol yn penderfynu a fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad. Nodwch, os yw eich ardal yn cael nifer fawr o geisiadau, efallai y cewch eich ystyried ar eich ymateb i’r ffordd yr ydych yn dangos y priodoledd allweddol craidd ‘Gwneud penderfyniadau Teg, Diduedd a Thryloyw’.
Bydd y panel sifftio yn chwilio am dystiolaeth bendant o’r priodoleddau yn seiliedig ar sut rydych wedi ymddwyn yn y gorffennol neu sut rydych wedi delio â phroblemau neu sefyllfaoedd penodol, yn hytrach na datganiadau damcaniaethol neu ddi-sail. Er enghraifft, “Rwy’n dda iawn am gyfathrebu.” Mae disgrifiad o sut y gwnaethoch gyfathrebu mewn sefyllfa benodol yn well. Gall eich enghreifftiau ddod o naill ai eich bywyd personol neu fywyd gwaith – mae’r ddau yn ddilys.
Dylech strwythuro eich atebion i’r cwestiynau gan ddefnyddio’r dull Problem, Gweithredu, Canlyniad, fel yr esboniwyd isod:
- Problem. Disgrifiwch y digwyddiad neu’r sefyllfa benodol lle cododd problem. Dylai hyn gynnwys disgrifiad byr i bennu cyd-destun a manylion y broblem a ddigwyddodd.
- Gweithredu. Eglurwch sut wnaethoch chi arddangos yr ymddygiadau a’r ddealltwriaeth berthnasol. Beth wnaethoch chi? Sut wnaethoch chi hynny? Pam wnaethoch chi hynny? Pa sgiliau wnaethoch chi eu defnyddio?
- Canlyniad. Crynhowch ganlyniadau eich gweithredoedd. Beth oedd y canlyniad? Beth wnaethoch chi ei ddysgu?
Sicrhewch fod eich atebion i’r cwestiwn am y pum priodoledd allweddol yn onest ac yn cynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch. Ni ddylai’r panel allu eich adnabod o’ch atebion, felly peidiwch â chynnwys unrhyw un o’r canlynol:
- Unrhyw wybodaeth bersonol a allai eich adnabod. Er enghraifft, eich enw.
- Unrhyw beth sy’n datgelu unrhyw nodweddion gwarchodedig.
- Enw unrhyw sefydliad addysgol a fynychwyd gennych.
- Enw unrhyw sefydliad rydych chi wedi gweithio iddo.
Dylech wneud eich cais ar-lein.
Os oes angen, gallwch ofyn am gopi caled neu fersiynau braille drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol lleol.
Bydd y ffurflen gais yn gofyn:
- Cwestiynau gwybodaeth bersonol, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a manylion cyswllt.
- Cwestiynau Rhagarweiniol. Mae’r rhain yn cynnwys – Sut wnaethoch chi gael gwybod am y swydd wag? Pa faes ydych chi’n gwneud cais iddo? Pa banel teulu ydych chi’n gwneud cais iddo? Os ydych chi’n gwneud cais yng Nghymru, ydych chi’n siarad Cymraeg ac a ydych chi’n gallu bodloni’r gofynion iaith Gymraeg?
- Cwestiynau ynglŷn â Chymhwysedd. Bydd y rhain yn ymdrin â phethau fel eich oedran, lle rydych chi’n byw’n barhaol, a ydych chi wrthi’n ceisio lloches neu’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros yn y DU? Ydych chi yn y broses o geisio Ysgariad? Ydych chi ar hyn o bryd neu ar fin bod yn rhan o achos llys sy’n ymwneud ag unrhyw blentyn o dan 18 oed? Allwch chi ymrwymo i 5 mlynedd o wasanaeth? Ydych chi wedi gwneud cais yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf? Gofynnir i chi hefyd roi manylion eich ymchwil ar rôl ynad teulu.
- Cwestiynau ynglŷn â Chyflogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys datgan galwedigaeth(au) presennol eich priod neu bartner yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac a ydych yn gwneud unrhyw fath arall o waith/gweithgaredd gwirfoddol ar hyn o bryd.
- Cwestiynau ynglŷn â Chymeriad. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi manylion unrhyw Hysbysiad Cosb Benodedig, euogfarnau/rhybuddion/troseddau moduro/achosion methdaliad yn y gorffennol neu’r presennol. A yw priod, partner, aelod agos o’r teulu neu ffrind agos wedi cael euogfarnau neu rybuddion a allai effeithio ar eich cais i ddod yn ynad? A oes unrhyw beth arall yn eich bywyd preifat neu waith, yn y gorffennol neu’r presennol, a allai niweidio eich hygrededd fel ynad pe bai’n dod yn hysbys i’r cyhoedd?
- Gwybodaeth ychwanegol, megis addasiadau rhesymol a geirdaon.
- Pum priodoledd allweddol. Yma dylech ateb yn y ffordd orau, sut ydych chi’n dangos y pum priodoledd allweddol mewn dim mwy na 300 o eiriau. Gallwch ddod o hyd i fanylion y priodoleddau hyn uchod.
- Cwestiynau monitro amrywiaeth
Y pum nodwedd allweddol – cyngor ar sut i ateb y cwestiynau hyn
Bydd eich atebion i’r cwestiwn am y pum priodoledd allweddol yn penderfynu a fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad.
Bydd y panel sifftio yn chwilio am dystiolaeth bendant o’r priodoleddau yn seiliedig ar sut rydych wedi ymddwyn yn y gorffennol neu sut rydych wedi delio â phroblemau neu sefyllfaoedd penodol, yn hytrach na datganiadau damcaniaethol neu ddi-sail. Er enghraifft, “Rwy’n dda iawn am gyfathrebu.” Mae disgrifiad o sut y gwnaethoch gyfathrebu mewn sefyllfa benodol yn well. Gall eich enghreifftiau ddod o naill ai eich bywyd personol neu fywyd gwaith – mae’r ddau yn ddilys.
Dylech strwythuro eich atebion i’r cwestiynau gan ddefnyddio’r dull Problem, Gweithredu, Canlyniad, fel yr esboniwyd isod:
- Problem. Disgrifiwch y digwyddiad neu’r sefyllfa benodol lle cododd problem. Dylai hyn gynnwys disgrifiad byr i bennu cyd-destun a manylion y broblem a ddigwyddodd.
- Gweithredu. Eglurwch sut wnaethoch chi arddangos yr ymddygiadau a’r ddealltwriaeth berthnasol. Beth wnaethoch chi? Sut wnaethoch chi hynny? Pam wnaethoch chi hynny? Pa sgiliau wnaethoch chi eu defnyddio?
- Canlyniad. Crynhowch ganlyniadau eich gweithredoedd. Beth oedd y canlyniad? Beth wnaethoch chi ei ddysgu?
Sicrhewch fod eich atebion i’r cwestiwn am y pum priodoledd allweddol yn onest ac yn cynnwys cymaint o fanylion ag y gallwch. Ni ddylai’r panel allu eich adnabod o’ch atebion, felly peidiwch â chynnwys unrhyw un o’r canlynol:
- Unrhyw wybodaeth bersonol a allai eich adnabod. Er enghraifft, eich enw.
- Unrhyw beth sy’n datgelu unrhyw nodweddion gwarchodedig.
- Enw unrhyw sefydliad addysgol a fynychwyd gennych.
- Enw unrhyw sefydliad rydych chi wedi gweithio iddo.
Pan fyddwch yn gwneud cais, gofynnir i chi ddarparu enwau dau ganolwr. Gallwch ddewis rhywun sy’n eich adnabod ar lefel bersonol neu sy’n ymwneud â’ch gwaith, ond dylent fod gan rywun sy’n eich adnabod yn dda.
Gofynnir i’ch canolwyr a fyddent yn argymell i chi gael eich penodi’n ynad, ac a oes ganddynt unrhyw bryderon neu sylwadau am eich addasrwydd. Os mai nhw yw eich cyflogwr, gofynnir iddynt gadarnhau y byddant yn eich cefnogi i ymgymryd â’r rôl, gan gynnwys drwy roi amser i ffwrdd o’r gwaith lle bo angen.
Mae’n bwysig sicrhau bod eich canolwyr yn gallu bodloni’r amserlen
Os byddwch yn pasio’r cam sifftio cychwynnol, bydd y Pwyllgor Ymgynghorol yn cysylltu â’ch canolwyr ac yn gofyn iddynt ddarparu geirda erbyn dyddiad penodol.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y bobl rydych chi’n bwriadu eu henwebu yn fodlon ac yn gallu darparu geirda o fewn yr amserlen sydd ei hangen.
Os nad yw eich canolwyr yn darparu geirda mewn pryd ni fydd eich cais yn gallu mynd yn ei flaen.
Rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i’ch canolwyr ymlaen llaw fel eu bod yn gallu dychwelyd y ffurflen yn brydlon.
NODWCH, WRTH DDEWIS EICH CANOLWYR:
- Os ydych mewn gwaith, rhaid i un o’ch canolwyr fod yn reolwr neu gyflogwr.
- Mae’n rhaid eich bod wedi adnabod eich canolwyr am o leiaf dair blynedd (oni bai mai’r canolwr yw eich cyflogwr a’ch bod wedi gweithio yno lai na thair blynedd).
- Allwch chi ddim enwebu perthynas nac unrhyw un rydych chi’n byw gyda nhw ar hyn o bryd.
- Os ydych chi wedi byw yn yr ardal rydych chi’n gwneud cais i eistedd ynddi am o leiaf tair blynedd, rhaid i un o’ch canolwyr fyw yn yr un ardal.
- Peidiwch ag enwebu canolwr a allai ymddangos gerbron y llysoedd y byddech yn gwasanaethu ynddynt – er enghraifft, swyddog heddlu o’r un ardal.
- Gallwch enwebu ynad neu ddeiliad swydd farnwrol (ond dim ond un) fel canolwr.
- Os ydych yn gwneud cais am rôl gofyniad iaith Gymraeg, dylai eich canolwr hefyd allu cynghori a ydych yn ddigon rhugl yn y Gymraeg i fodloni gofynion y rôl.
Mae’r wybodaeth a ddarperir gan ganolwr yn gyfrinachol.
Ni fydd manylion cynnwys tystlythyrau yn cael eu datgelu i ymgeiswyr.
Os byddwch yn llwyddiannus ar ôl gwneud cais ar-lein, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Byddwch yn cael e-bost gyda dewis o slotiau cyfweliad a gofynnir i chi archebu’r amser a’r diwrnod sydd orau i chi.
Byddwch yn cael gwybod am ganlyniad y cyfweliad drwy e-bost cyn gynted â phosibl yn dilyn y cyfweliad.
Y cyfweliad – beth i’w ddisgwyl
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal gan banel o dri o bobl, a fydd yn cynnwys aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol sy’n ynadon a rhai nad ydynt yn ynadon.
Disgwylir i’r cyfweliad bara tua 75 munud.
Ni fydd gan y panel cyfweld fynediad i’ch ffurflen gais. Ni fyddant yn gwybod unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ar wahân i’ch enw a’r hyn a ddywedwch wrthynt yn y cyfweliad.
Paratoi ar gyfer eich cyfweliad
Bydd yn ddefnyddiol i chi fod wedi gwneud eich ymchwil drwy ddarllen unrhyw adnoddau ar rôl ynad, yn ogystal â meddwl yn ôl i’r arsylwadau llys y byddwch wedi’u gwneud os ydych yn gwneud cais i’r llys troseddol. Myfyrio ar y priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl a sut y gallwch eu dangos.
Meddyliwch yn ofalus am eich atebion. Gallwch gymryd amser i ystyried eich ateb cyn i chi siarad. Rhaid i chi ateb hyd eithaf eich gallu, a dweud y gwir, a chynnwys pam y byddech yn ymateb yn y ffordd orau yn eich barn chi. Gall y panel cyfweld ofyn cwestiynau dilynol, a holi ymhellach am eich atebion.
Fformat y cyfweliad
Cynhelir cyfweliadau o bell drwy Microsoft Teams. Fodd bynnag, mae opsiwn hefyd i’w cynnal wyneb yn wyneb. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol lleol ar ôl i chi gael eich gwahodd i gyfweliad.
Yn anffodus, ni fydd pob ymgeisydd yn llwyddiannus. Rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn fod yn siomedig, felly mae croeso i bawb sy’n cyrraedd y cyfweliad ofyn am adborth.
Gallwch hefyd ofyn i’r penderfyniad hwn gael ei adolygu gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Recriwtio os oes gennych reswm i gredu bod y broses ddethol wedi’i chamddehongli neu fod aelod o’r panel cyfweld wedi ymddwyn yn amhriodol.
Os byddwch yn penderfynu gofyn am adolygiad, rhaid i chi ofyn am adborth yn gyntaf, yna nodwch yn glir ac yn gryno eich rhesymau dros wneud hynny. Nid yw’n ddigon dweud eich bod yn anghytuno â’r penderfyniad. Bydd y pwyllgor ymgynghorol bu ichi gyflwyno cais iddo yn darparu adborth ar eich cyfweliad o fewn 30 diwrnod gwaith o’r dyddiad rydych yn gwneud cais amdano. Yna, rhaid i chi ofyn am adolygiad o’r penderfyniad o fewn 15 diwrnod ar ôl cael adborth.
Os ydych yn credu bod gennych sail dros apelio, bydd angen i chi:
- Ofyn am adborth gan y Pwyllgor Ymgynghorol y gwnaethoch gais iddo.
- Byddwch yn cael e-bost gyda dolen i ffurflen apelio a bydd gennych 15 diwrnod ar ôl derbyn yr adborth i wneud cais am apêl o’r penderfyniad.
- Aros i’r Pwyllgor Ymgynghorol adolygu ac ymateb.
NODWCH: Nid oes hawl i apelio ar gyfer ymgeiswyr yr asesir eu bod yn rhai y gellir eu penodi ond nad ydynt yn cael eu hargymell oherwydd bod eraill yn sgorio’n uwch, nac i’r rhai na wnaeth symud ymlaen i’r cam cyfweld.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’ch pwyllgor ymgynghorol lleol:
- Avon, Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw SW-Advisory@justice.gov.uk
- Swydd Bedford a Swydd Hertford South-East-Advisory@justice.gov.uk
- Birmingham a Solihull, yr Ardal Ddu, Coventry a Swydd Warwig WMWJCO@justice.gov.uk
- Swydd Gaer cm-magistraterecruitment@justice.gov.uk
- Cleveland a Swydd Durham a Darlington CDJSU@Justice.gov.uk
- Cymbria CL-Advisory@justice.gov.uk
- Swydd Derby NT-legaladminsupportteam@justice.gov.uk
- Dyfnaint, Cernyw a Dorset SW-Advisory@justice.gov.uk
- Essex a Swydd Gaergrawnt South-East-Advisory@Justice.gov.uk
- Manceinion Fwyaf GM-Advisory@justice.gov.uk
- Humber a De Swydd Efrog HSY-JSU@justice.gov.uk
- Caint south-east-advisory@justice.gov.uk
- Sir Gaerhirfryn CL-Advisory@justice.gov.uk
- Swydd Gaerlŷr a Rutland LRLN-JudicialSupportTeam@justice.gov.uk
- Swydd Lincoln LRLN-JudicialSupportTeam@justice.gov.uk
- Llundain LondonACRecruitment@Justice.gov.uk
- Swydd Mersi cm-magistraterecruitment@justice.gov.uk
- Norfolk a Suffolk south-east-advisory@justice.gov.uk
- Gogledd a Gorllewin Swydd Efrog NWYjudicial-support-unit@justice.gov.uk
- Swydd Northampton LRLN-JudicialSupportTeam@justice.gov.uk
- Northymbria Nojsu@justice.gov.uk
- Swydd Nottingham NT-legaladminsupportteam@justice.gov.uk
- Swydd Stafford SWMJCO@justice.gov.uk
- Surrey a Sussex South-East-Advisory@justice.gov.uk
- Dyffryn Tafwys (Berkshire, Swydd Buckingham ac Oxon) South-East-Advisory@Justice.gov.uk
- Gorllewin Mersia (Swydd Henffordd, Swydd Amwythig a Swydd Gaerwrangon) SWMJCO@justice.gov.uk
- Wiltshire, Hampshire ac Ynys Wyth SW-Advisory@justice.gov.uk
- Gogledd Cymru (Clwyd a Gwynedd) HMCTSWalesAdvisory@justice.gov.uk
- Dyfed Powys HMCTSWalesAdvisory@justice.gov.uk
- Morgannwg (Canol a De), Morgannwg (Gorllewin), Gwent HMCTSWalesAdvisory@justice.gov.uk