Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Y tu mewn i’n Llysoedd

“Roeddwn i eisiau helpu pobl a gwneud yn siŵr bod y peth iawn yn cael ei wneud.”

Byddwch yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, pa bynnag lys y byddwch chi’n gweithio ynddo.

Pa lys ddylwn i wneud cais iddo?

Er bod rôl ynad bob amser yn ymwneud â gwrando ar amrywiaeth o achosion a defnyddio barn gadarn i wneud y penderfyniadau cywir, mae ynadon yn gweithio mewn dau amgylchedd gwahanol – y llys troseddol a’r llys teulu. Os hoffech ddod yn ynad, bydd angen i chi ddewis pa fath o lys rydych eisiau gweithio ynddo. Yn y naill amgylchedd neu’r llall, bydd gennych ystod eang o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth ystyrlon i unigolion, ac i gymdeithas ehangach.

Highbury Magistrates Court. Posed by models.

Sut beth yw gweithio fel ynad yn y llys troseddol?

Mae bron pob achos yn y llys troseddol yn dechrau mewn llys ynadon, a delir a thua 95% ohonynt yno. Fel ynad yn y llys troseddol, byddwch yn helpu i benderfynu ar y camau nesaf. Gall achosion gynnwys cam-drin domestig, troseddau cyffuriau, troseddau moduro, dwyn, ymosodiadau, difrod troseddol a throseddau trefn gyhoeddus.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn gwrando ar ac yn ystyried yr holl dystiolaeth a ddarparwyd gan y llys gyda gweddill eich mainc. Os yw diffynnydd wedi pledio’n euog neu wedi ei gael yn euog, gallwch osod dirwyon, cosbau cymunedol (gan gynnwys gwaith di-dâl neu raglen adsefydlu caethiwed) a dedfrydau o garchar. Byddwch yn traddodi troseddau mwy difrifol i Lys y Goron, os yw diffynnydd wedi pledio’n euog neu wedi ei gael yn euog ar gyfer dedfryd, neu am dreial llawn gyda barnwr a rheithgor.

Efallai ei fod yn swnio’n frawychus, ond mae’n bwysig cofio na fyddwch yn gwneud y penderfyniadau hyn ar eich pen eich hun. Hefyd, bydd gennych hyfforddiant arbenigol a chymorth parhaus i’ch helpu, bob cam o’r ffordd.

Rhagor o wybodaeth:

Cyn gwneud cais i ddod yn ynad yn y llys troseddol, bydd angen i chi fynd i lys ynadon o leiaf ddwywaith i arsylwi achos. Gallwch ddod o hyd i lysoedd ynadon yn eich ardal yma.

Byddem yn argymell cysylltu â’r llys ymlaen llaw er mwyn i chi gael gwybod mwy am pryd i fynychu.

Gwylio

Highbury Magistrates Court. Posed by models.

Sut beth yw gweithio fel ynad yn y llys teulu?

Fel ynad yn y llys teulu, gallech fod yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant sy’n agored i niwed, gan gefnogi rhieni sydd wedi gwahanu i wneud trefniadau ar gyfer eu plant, gorfodi gorchmynion cynhaliaeth plant a helpu i atal cam-drin domestig. Mae’n rôl bwysig lle gallwch gael effaith sylweddol ar fywyd a lles plentyn, a dyfodol teulu.

Mae’n rôl a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar amrywiaeth o faterion lles plant ac yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned gyfan. Gall olygu delio â rhai sefyllfaoedd emosiynol anodd, ond bydd gennych gefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i’w trin yn effeithiol.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r llys teulu yn ‘lys caeedig’, sy’n golygu nad yw ar agor i’r cyhoedd, felly ni allwch ymweld â’r llys teulu nac arsylwi yno. Ond bydd angen i chi edrych ar wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am y llys teulu – dyma le da i ddechrau:

Canllaw Advicenow ar fynd i’r llys teulu.
Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ynad?
Ynadon yn y llys teulu yn siarad am y rôl
Fideo chwarae rôl Ynadon yn y Llys Teulu: Achos Cyfraith Breifat
Fideo chwarae rôl Ynadon yn y Llys Teulu: Achos Cyfraith Gyhoeddus