Cyngor i gyflogwyr
I’ch helpu i gefnogi eich cyflogeion i ddod yn ynadon, rydym wedi casglu rhywfaint o wybodaeth i’ch helpu i ddeall:
- sut y gall caniatáu i’ch cyflogai wirfoddoli fel ynad fod o fudd i’ch sefydliad
- eich cyfrifoldebau fel cyflogwr.
Faint o amser sydd ei angen arnynt i ymrwymo?
Mae angen i ynadon wirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn (neu gyfwerth â hanner diwrnod) yn ystod oriau gwaith, am o leiaf bum mlynedd. Mae rhai diwrnodau hyfforddi hefyd, ond gellir gwneud rhai o’r rhain ar benwythnosau.
Beth yw fy nghyfrifoldebau fel cyflogwr?
Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn i gyflogeion wirfoddoli mewn rôl gyhoeddus fel ynadon, ond mae faint o ddiwrnodau y maent yn fodlon eu caniatáu yn ôl eu disgresiwn eu hunain, yn ogystal â’r penderfyniad ynghylch a yw unrhyw amser i ffwrdd yn cael nodi fel absenoldeb â thâl neu absenoldeb di-dâl. Mae llawer o gyflogwyr yn dewis cynnig o leiaf rhywfaint o’r amser hwn fel absenoldeb â thâl.
Pethau i’w hystyried wrth gael ynadon yn rhan o fy nhîm
Rhoi hwb i foddhad pobl yn eu swyddi
Pan fydd cyflogeion yn gwirfoddoli mewn rôl sy’n eu galluogi i wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol y tu hwnt i’w rôl o ddydd i ddydd, gall wella eu boddhad yn eu swydd a rhoi mwy fyth o ymdeimlad o falchder iddynt wrth weithio i chi. Gall hyn eich helpu i gadw pobl dalentog, ac i ddatblygu arweinwyr y dyfodol sydd ag ehangder a dyfnder sgiliau.
Datblygu sgiliau cyflogeion
Mae ynadon yn cael hyfforddiant rhagorol sy’n cwmpasu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, o ddadansoddi beirniadol a datrys problemau i ddylanwadu ar eraill a gwneud penderfyniadau.
Denu talent newydd i’ch sefydliad
Mae’r cyfle i roi yn ôl drwy wirfoddoli yn aml yn uchel ar restrau dymuniadau ymgeiswyr wrth edrych ar gyflogwr newydd posibl. Mae cefnogi pobl i wirfoddoli fel ynadon yn ffordd wych o arddangos eich ymrwymiad i wirfoddoli. Bydd hefyd yn eich galluogi i dynnu sylw at eich gwerthoedd, a’ch ffocws ar ddatblygiad personol a phroffesiynol.
Sut y gallaf gefnogi fy nghyflogeion i ddod yn ynadon?
Mae gan Gymdeithas yr Ynadon ganllawiau ar adolygu eich polisi dyletswydd cyhoeddus – mae hyn yn cyfeirio’n benodol at ynadon ac yn cynnwys canllawiau ar nifer y diwrnodau o wyliau a ganiateir. Mae hefyd yn rhoi cyngor ymarferol ar sut y gallwch gefnogi eich cyflogeion i fod yn ynadon: https://www.magistrates-association.org.uk/About-Magistrates/Employing-a-Magistrate
Mae gennym lawer o wybodaeth i’ch cefnogi chi fel cyflogwr yn ein taflen. Mae gennym hefyd ddogfen i’ch cefnogi i ddatblygu polisi yn eich gweithle.