Copi agoriadol
Os ydych chi’n dda efo pobl, mae gennnych chi beth sydd ei angen i fod yn ynad. Mae ynadon yn wirfoddolwyr sy’n dod o bob math o gefndiroedd. Mae llawer o’r penderfyniadau cyfreithiol a wneir yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwneud gan ynadon. Maent yn gwneud penderfyniadau hanfodol ar amrywiaeth o achosion yn y llys troseddol a’r llys teulu – gan helpu i ddiogelu, gwella a thrawsnewid bywydau pobl.
Gwyliwch: Yr Ynad, Denise, yn siarad am ei rôl fel ynad a chydbwyso ymrwymiadau ei swydd (hyd:171 munud 43 eiliad) 1 munud 43 eiliad) MoJ – Denise – Ynad
Trawsgrifiad fideo — Denise / Richard
Denise: (0:05)
Helo, Denise ydw i. Rydw i wedi gweithio yma ers 31 mlynedd fel rheolwr tîm ar yr adran fwyd, ac rydw i wedi bod yn ynad am yr 11 mlynedd diwethaf. Rydym yn delio ag amrywiaeth o achosion yn y llys ynadon. Rydym yn delio â 96% o’r holl achosion sy’n dod trwy’r system llysoedd. Rydym yn delio ag unrhyw beth o beidio â thalu’r dreth gyngor, peidio â thalu trwyddedau teledu, trais domestig, dinoethiad anweddus, creulondeb i anifeiliaid, byrgleriaeth, ac yn amlwg dwyn o siopau hefyd.
Yn amlwg, rwy’n gweithio mewn siop, felly mae fy ngweithwyr yn caniatáu 15 diwrnod y flwyddyn imi wneud fy nyletswyddau fel ynad. Ond rwy’n gwneud rhai ar fy niwrnodau i ffwrdd hefyd. Mae 15 diwrnod y flwyddyn yn cwmpasu fy 26 eisteddiad y gofynnir i mi eu gwneud.
Richard: (0:52)
Bydd Denise bob amser yn rhoi cymaint o rybudd i mi ag y gall ei wneud. Ac mae hi’n deall weithiau na allaf gefnogi’r dyddiau, ond yn gyffredinol rydyn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n gallu, ac rydyn ni’n gweithio ar y sail ddwyffordd honno. Rwy’n gwybod ei fod yn bwysig iddi, sy’n golygu ei fod yn bwysig i mi, ac mae’n bwysig i ni fel busnes. Mae Denise yn dod ag ymdeimlad o chymeroldeb, yr ymdeimlad hwnnw o gymuned a gweithio gyda’n gilydd mewn tîm yn ôl i’r busnes hwn rwy’n credu. Rwy’n gwybod bod bod yn ynadon yn gweithio mewn tîm bach, felly gellir trafod pethau
Denise: (1:18) Rwy’n mwynhau defnyddio fy ymennydd eto a meddwl pethau drwodd a gallu dod i benderfyniadau gyda’r ddau ynad arall. Rydych chi’n dysgu gwrando ar yr holl dystiolaeth ac yna rydych chi’n dysgu gwrando ar safbwyntiau pobl eraill. Felly mae hynny’n dda hefyd. Rwy’n mwynhau hynny. Mae hyn yn fy ngalluogi i gymryd rhan mewn rhywbeth rydw i’n angerddol iawn amdano, ac mae’n ymwneud â chyfiawnder lleol i bobl leol, ac rydw i eisiau gallu gwneud hynny i bobl.
Sut mae’n gweithio?
Mae ynadon yn gwirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn, ynghyd â hyfforddiant, am o leiaf bum mlynedd, ac yn gwrando ar bob math o achosion yn ein llysoedd. Gan fod y rôl yn ddi-dâl, mae ynadon yn tueddu i wneud hyn ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith eraill. Os ydych chi’n hunangyflogedig neu os oes rhaid i chi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl i wasanaethu fel ynad, gallwch hawlio colli enillion o hyd at £134.96 y dydd. Fel ynad, gallwch ddewis a ydych eisiau eistedd mewn llys troseddol neu lys teulu.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn gwrando ar ddadleuon gan yr erlyniad a’r amddiffyniad cyn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Byddwch yn cael cymorth gan gynghorydd cyfreithiol a fydd yn sicrhau eich bod bob amser yn dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau cywir. Hefyd, byddwch yn gweithio gyda dau ynad arall – lle bydd un ohonynt yn brif ynad.


Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn gwrando ar ddadleuon gan yr erlyniad a’r amddiffyniad cyn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Byddwch yn cael cymorth gan gynghorydd cyfreithiol, gweithiwr proffesiynol cyfreithiol cymwysedig, a fydd yn sicrhau eich bod bob amser yn dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau cywir. Hefyd, byddwch yn gweithio gyda dau ynad arall – lle bydd un ohonynt yn brif ynad.
Beth yw’r gofynion?
Nid oes angen profiad cyfreithiol arnoch nac unrhyw gymwysterau arbennig i ddod yn ynad. Yr hyn sy’n bwysig yw eich sgiliau cyfathrebu cryf, eich ymdeimlad o degwch, a’ch gallu i ystyried gwahanol ochrau i ddadl mewn ffordd broffesiynol a gwneud barn resymegol. Rydym yn chwilio am bobl o gefndiroedd amrywiol oherwydd mae’n bwysig i ynadon gael dealltwriaeth dda o’r gymuned a gallu cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu cefnogi.
Felly, dylech fwynhau cynrychioli eich ardal leol a helpu i’w newid er gwell.
O ran y gofynion penodol, bydd angen i chi fod rhwng 18 a 74 oed* ac o gymeriad da gyda barn gadarn. Mae ‘cymeriad da’ yn cynnwys eich cymhellion i wneud cais, eich ymrwymiad i’r rôl ac a oes unrhyw reswm y byddai eich penodiad yn effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd mewn ynadon.
*Yr oedran ymddeol gorfodol ar gyfer ynadon yw 75. Disgwylir i ynadon wirfoddoli am o leiaf 5 mlynedd. Os ydych yn agos at yr oed ymddeol gorfodol, dylech ystyried hynny cyn gwneud cais.
Rydym hefyd yn edrych ar:
- Argaeledd: Gallwch wirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn (neu 26 hanner diwrnod) am o leiaf bum mlynedd.
- Hyblygrwydd: Rydym bob amser yn gwneud ein gorau i’ch dyrannu i lysoedd yn eich ardal leol ond os na allwn wneud hyn, efallai y bydd angen i chi allu teithio am hyd at ddwy awr i gyrraedd y llys.
- Sgiliau TG da: Bod yn gyfforddus yn defnyddio iPads i gael gafael ar wybodaeth.
- Gwiriad DBS: Mae’n ofynnol i bob ynad ymgymryd â gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ‘lefel uwch’.
Cymhwysedd ar gyfer y swydd: Ar gyfer llys troseddol, ni ddylech fod ag unrhyw wrthdaro o ran buddiannau yn eich swydd neu ymrwymiadau gwirfoddoli eraill (fodd bynnag, gallech fod yn gymwys o hyd i gael rôl yn y llys teulu).

Pryd rydych ar gael i eistedd
A fyddwch yn hapus i wirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn (neu 26 hanner diwrnod) am o leiaf bum mlynedd.

Hyblygrwydd
Rydym bob amser yn gwneud ein gorau i’ch dyrannu i lysoedd yn eich ardal leol ond os na allwn wneud hyn, efallai y bydd angen i chi allu teithio am hyd at ddwy awr i gyrraedd y llys.

Sgiliau TG da
Byddwch yn gyfforddus yn defnyddio iPads i gael gafael ar wybodaeth.

Gwiriad DBS
Mae’n ofynnol i bob ynad ymgymryd â gwiriad DBS lefel uwch.

Cymhwysedd ar gyfer y swydd
Ar gyfer y llys troseddol, ni ddylech fod ag unrhyw wrthdaro o ran buddiannau yn eich swydd neu ymrwymiadau gwirfoddoli eraill (fodd bynnag, gallech fod yn gymwys o hyd i gael rôl yn y llys teulu).
Sut fyddwn ni’n eich cefnogi chi?
| Sut fyddwn ni’n eich cefnogi chi? Fel ynad newydd, byddwch yn cael hyfforddiant yn eich ardal leol a thrwy’r Coleg Barnwrol. Bydd eich hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy sesiynau wyneb yn wyneb, yn ogystal â thrwy ddysgu ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys: sesiwn hyfforddi hanner diwrnod cychwynnolrhaglen hyfforddi ragarweiniol tri neu bum diwrnodmentor i’ch helpu i ddysgu a datblygu wrth i chi setlo yn y rôl Ar ôl eich blwyddyn gyntaf, bydd hyfforddiant gloywi yn parhau drwy gydol eich gwasanaeth – bydd sut yn union y mae’n gweithio a’r hyn y mae’n ei gynnwys yn dibynnu ar p’un a ydych yn eistedd mewn llys troseddol neu lys teulu. Mae ein holl hyfforddiant yn rhad ac am ddim, a byddwch yn cael hawlio treuliau ar gyfer y diwrnodau y byddwch yn eu mynychu. Fel ynad mae gennych hefyd yr hawl i hawlio treuliau penodol, i sicrhau eich bod yn cael ei digolledu am gyflawni eich dyletswyddau ynadol. Mae hyn yn cynnwys lwfans am unrhyw enillion a gollir. Darllenwch ein Polisi Treuliau Ynadon i ddysgu mwy am y treuliau y gallwch eu hawlio fel ynad. |
Mae gen i ddiddordeb – beth sydd nesaf?
Os hoffech wirfoddoli fel ynad, dyma bopeth y bydd angen i chi ei wybod i benderfynu ai dyma’r cyfle cywir i chi, ac i wneud eich cais. Sut i wirfoddoli
