Pa lys ddylwn i wneud cais iddo?
Er bod rôl ynad bob amser yn ymwneud â gwrando amrywiaeth o achosion a defnyddio barn gadarn i wneud y penderfyniadau iawn, mae ynadon yn gweithio mewn dau amgylchedd gwahanol – y llys troseddol a’r llys teulu. Os hoffech ddod yn ynad, bydd angen i chi ddewis pa fath o lys rydych eisiau gweithio ynddo. Yn y naill amgylchedd neu’r llall, bydd gennych ystod eang o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth ystyrlon i unigolion, ac i gymdeithas yn ehangach.
Mae’r llys troseddol a’r llys teulu yn delio â gwahanol fathau o achosion, ac yn gweithio gyda gwahanol fathau o bobl. Mae ynadon sy’n gweithio yn y ddau fath o lys angen sgiliau, cymeriad a barn gadarn debyg, ond gallai’r diddordebau a’r cymhellion a all eich denu at y naill lys neu’r llall fod yn wahanol.
Efallai ei fod yn swnio’n frawychus, ond mae’n bwysig cofio na fyddwch yn gwneud y penderfyniadau hyn ar eich pen eich hun. Hefyd, bydd gennych hyfforddiant arbenigol a chymorth parhaus i’ch helpu, bob cam o’r ffordd.
Mae’r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y ddau fath o lys yn cynnwys:
- Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol
- Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw
- Cyfathrebu â sensitifrwydd a pharch
- Dangos hunan ymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu
- Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol
Bydd gan ynadon y llys teulu nifer o ddiddordebau megis:
- Gweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n agored i niwed
- Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned
- Addysg a lles
- Cefnogi plant a theuluoedd drwy amseroedd anodd
Bydd gan ynadon y llys troseddol ddiddordebau megis:
- Cefnogi cymunedau
- Gweithio gydag oedolion bregus
- Lleihau trosedd
- Adsefydlu troseddwyr
Cyn y gallwch wneud cais i fod yn ynad yn y llys troseddol, bydd angen i chi ymweld â llys.
Sut beth yw gweithio fel ynad yn y llys teulu?
Fel ynad yn y llys teulu, gallech fod yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant sy’n agored i niwed, gan gefnogi rhieni sydd wedi gwahanu i wneud trefniadau ar gyfer eu plant, gorfodi gorchmynion cynhaliaeth plant a helpu i atal cam-drin domestig. Mae’n rôl bwysig lle gallwch gael effaith sylweddol ar fywyd a lles plentyn, a dyfodol teulu.
Mae’n rôl a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar amrywiaeth o faterion lles plant ac yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned gyfan. Gall olygu delio â rhai sefyllfaoedd emosiynol anodd, ond bydd gennych gefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i’w trin yn effeithiol.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r llys teulu yn ‘lys caeedig’, sy’n golygu nad yw ar agor i’r cyhoedd, felly ni allwch ymweld â’r llys teulu nac arsylwi yno. Ond bydd angen i chi edrych ar wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am y llys teulu – dyma le da i ddechrau:
Canllaw Advicenow ar fynd i’r llys teulu.
Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ynad?
Ynadon yn y llys teulu yn siarad am y rôl
Fideo chwarae rôl Ynadon yn y Llys Teulu: Achos Cyfraith Breifat
Fideo chwarae rôl Ynadon yn y Llys Teulu: Achos Cyfraith Gyhoeddus