Mynd i'r cynnwys

Beth yw ynad?

“Does dim angen i chi fod yn gyfreithiwr, ond mae angen barn gytbwys arnoch.”

Rhowch eich sgiliau tuag at rywbeth newydd ac ystyrlon.

Dod yn ynad

Nid yw llawer o’r penderfyniadau cyfreithiol a wneir yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwneud gan farnwyr. Maent yn cael eu gwneud gan bobl gyffredin sy’n gweithio ym mhob math o feysydd ac nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad blaenorol â phroffesiwn y gyfraith. Yr hyn sydd ganddynt yw ymdeimlad o degwch. Mae ganddynt hefyd y gallu i wrando, llunio barn resymegol a bod yn gynrychiolwyr balch o’u cymunedau. Ynadon yw’r bobl hyn.

Sut mae’n gweithio?

Mae ynadon yn gwirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod, ynghyd â hyfforddiant, y flwyddyn am o leiaf bum mlynedd i wrando ar bob math o achosion yn ein llysoedd. Gan fod y rôl yn ddi-dâl, mae ynadon yn tueddu i wneud hyn ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith eraill. Os ydych yn hunangyflogedig neu os oes rhaid i chi eistedd yn ddi-dâl, gallwch hawlio enillion a gollwyd o hyd at £134.96 y dydd. Fel ynad, gallwch ddewis a ydych eisiau eistedd mewn llys troseddol neu lys teulu.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn gwrando ar ddadleuon gan yr erlyniad a’r amddiffyniad cyn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu. Byddwch yn cael cymorth gan gynghorydd cyfreithiol a fydd yn sicrhau eich bod bob amser yn dilyn y canllawiau a’r gweithdrefnau cywir. Hefyd, byddwch yn gweithio gyda dau ynad arall – lle bydd un ohonynt yn brif ynad.

Three magistrates sitting in court on a bench. One Asian female, one black female and one black male

A fyddwn i’n gwneud ynad da?

Nid oes angen profiad cyfreithiol arnoch nac unrhyw gymwysterau arbennig i ddod yn ynad. Yr hyn sy’n bwysig yw eich sgiliau cyfathrebu cryf, eich ymdeimlad o degwch, a’ch gallu i ystyried gwahanol ochrau i ddadl mewn ffordd broffesiynol. Rydym yn chwilio am bobl o gefndiroedd amrywiol oherwydd mae’n bwysig i ynadon gael dealltwriaeth dda o’r gymuned a gallu cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu cefnogi. Felly, dylech fwynhau cynrychioli eich ardal leol a helpu i’w newid er gwell.

Mae ynadon yn ymgymryd â’u dyletswyddau o fewn llysoedd a reolir gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, a gydnabyddir fel sefydliad Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys unigolion ag anabledd sy’n gallu, naill ai heb gymorth neu ag addasiadau rhesymol, gyflawni’r ystod lawn o ddyletswyddau ynad.

Beth yw ein gofynion?

O ran y gofynion penodol, bydd angen i chi fod yn 18 i 74 oed ac o gymeriad da gyda barn gadarn. Mae ‘cymeriad da’ yn cynnwys eich cymhellion i wneud cais, eich ymrwymiad i’r rôl ac a oes unrhyw reswm y byddai eich penodiad yn effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ynadaeth.

Rydym hefyd yn edrych ar:

Pryd rydych ar gael i eistedd

A fyddwch yn hapus i wirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn (neu 26 hanner diwrnod) am o leiaf bum mlynedd.

Hyblygrwydd

Rydym bob amser yn gwneud ein gorau i’ch dyrannu i lysoedd yn eich ardal leol ond os na allwn wneud hyn, efallai y bydd angen i chi allu teithio am hyd at ddwy awr i gyrraedd y llys.

Sgiliau TG da

Byddwch yn gyfforddus yn defnyddio iPads i gael gafael ar wybodaeth.

Gwiriad DBS

Mae’n ofynnol i bob ynad ymgymryd â gwiriad DBS lefel uwch.

Cymhwysedd ar gyfer y swydd

Ar gyfer y llys troseddol, ni ddylech fod ag unrhyw wrthdaro o ran buddiannau yn eich swydd neu ymrwymiadau gwirfoddoli eraill (fodd bynnag, gallech fod yn gymwys o hyd i gael rôl yn y llys teulu).

Sut fyddwn ni’n eich cefnogi chi?

Fel ynad newydd, byddwch yn cael hyfforddiant yn eich ardal leol a thrwy’r Coleg Barnwrol. Bydd eich hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy rai sesiynau wyneb yn wyneb, yn ogystal â thrwy ddysgu ar-lein. Bydd hyn yn cynnwys:

  • sesiwn hyfforddi hanner diwrnod gychwynnol
  • rhaglen hyfforddi ragarweiniol tri neu bum diwrnod
  • mentor i’ch helpu i ddysgu a datblygu wrth i chi ddod yn gyfforddus yn y rôl.

Fel ynad mae gennych hefyd yr hawl i hawlio treuliau penodol, i sicrhau eich bod yn cael eich digolledu am gyflawni eich dyletswyddau ynadol. Mae hyn yn cynnwys lwfans am unrhyw enillion a gollir o ganlyniad i gyflawni dyletswyddau ynad. Darllenwch ein Polisi Treuliau Ynadon i ddysgu mwy am y treuliau y gallwch eu hawlio fel ynad.

Three magistrates sitting in court on a bench. One black female, one Asian female and one black male