Mynd i'r cynnwys

Cyngor i Gyflogwyr

“Gallwch ddefnyddio’r sgiliau rydych yn eu dysgu yn eich swydd o ddydd i ddydd.”

Manteision cefnogi eich cyflogeion i wirfoddoli fel ynadon.

Cyngor i gyflogwyr

I’ch helpu i gefnogi eich cyflogeion i ddod yn ynadon, rydym wedi casglu rhywfaint o wybodaeth i’ch helpu i ddeall:

  • sut y gall caniatáu i’ch cyflogai wirfoddoli fel ynad fod o fudd i’ch sefydliad
  • eich cyfrifoldebau fel cyflogwr.
Three magistrates sitting in court on a bench. One Asian female, one white male and one white female
Magistrate Sonal standing outside of court

Faint o amser sydd ei angen arnynt i ymrwymo?

Mae angen i ynadon wirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn (neu gyfwerth â hanner diwrnod) yn ystod oriau gwaith, am o leiaf bum mlynedd. Mae rhai diwrnodau hyfforddi hefyd, ond gellir gwneud rhai o’r rhain ar benwythnosau.

Beth yw fy nghyfrifoldebau fel cyflogwr?

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i gyflogwyr ganiatáu amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn i gyflogeion wirfoddoli mewn rôl gyhoeddus fel ynadon, ond mae faint o ddiwrnodau y maent yn fodlon eu caniatáu yn ôl eu disgresiwn eu hunain, yn ogystal â’r penderfyniad ynghylch a yw unrhyw amser i ffwrdd yn cael nodi fel absenoldeb â thâl neu absenoldeb di-dâl. Mae llawer o gyflogwyr yn dewis cynnig o leiaf rhywfaint o’r amser hwn fel absenoldeb â thâl.

Three magistrates having a conversation in the retiring room. One Asian female, one black male and one black woman
I ni, roedd cael ynad fel cyflogai yn beth da iawn. Nid yn unig yr oeddem yn gallu cefnogi rhywun brwdfrydig iawn i symud ymlaen gyda’i nodau ei hun – sydd yn help inni fel cwmni i gadw staff – ond, wrth gefnogi ein cyflogai, roeddem hefyd yn gallu darparu gwerth cymdeithasol a bod yn rhan o rywbeth a ellir ei roi yn ôl i gymdeithas.
Marcia La-Rose, Pennaeth Adnoddau Dynol, Four Communications

Pethau i’w hystyried wrth gael ynadon yn rhan o fy nhîm

Rhoi hwb i foddhad pobl yn eu swyddi

Pan fydd cyflogeion yn gwirfoddoli mewn rôl sy’n eu galluogi i wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol y tu hwnt i’w rôl o ddydd i ddydd, gall wella eu boddhad yn eu swydd a rhoi mwy fyth o ymdeimlad o falchder iddynt wrth weithio i chi. Gall hyn eich helpu i gadw pobl dalentog, ac i ddatblygu arweinwyr y dyfodol sydd ag ehangder a dyfnder sgiliau.

Datblygu sgiliau cyflogeion

Mae ynadon yn cael hyfforddiant rhagorol sy’n cwmpasu ystod o sgiliau trosglwyddadwy, o ddadansoddi beirniadol a datrys problemau i ddylanwadu ar eraill a gwneud penderfyniadau.

Denu talent newydd i’ch sefydliad

Mae’r cyfle i roi yn ôl drwy wirfoddoli yn aml yn uchel ar restrau dymuniadau ymgeiswyr wrth edrych ar gyflogwr newydd posibl. Mae cefnogi pobl i wirfoddoli fel ynadon yn ffordd wych o arddangos eich ymrwymiad i wirfoddoli. Bydd hefyd yn eich galluogi i dynnu sylw at eich gwerthoedd, a’ch ffocws ar ddatblygiad personol a phroffesiynol.

Mae’r GLA yn darparu amser i ffwrdd â thâl ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus – hyd at 5 diwrnod y flwyddyn i ynadon. Rydym hefyd yn cynnig hyd at 3 diwrnod o absenoldeb ar gyfer gwirfoddoli a threfniadau gweithio hyblyg, megis oriau cywasgedig, a allai gefnogi unigolion i ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus parhaus neu rolau gwirfoddol eraill y tu allan i’r gwaith.
Charmaine De Souza, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adnoddau Dynol ac OD, Awdurdod Llundain Fwyaf

Sut y gallaf gefnogi fy nghyflogeion i ddod yn ynadon?

Mae gan Gymdeithas yr Ynadon ganllawiau ar adolygu eich polisi dyletswydd cyhoeddus – mae hyn yn cyfeirio’n benodol at ynadon ac yn cynnwys canllawiau ar nifer y diwrnodau o wyliau a ganiateir. Mae hefyd yn rhoi cyngor ymarferol ar sut y gallwch gefnogi eich cyflogeion i fod yn ynadon.

Mae gennym lawer o wybodaeth i’ch cefnogi chi fel cyflogwr yn ein taflen. Mae gennym hefyd ddogfen i’ch cefnogi i ddatblygu polisi yn eich gweithle.