Mynd i'r cynnwys

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar https://magistrates.judiciary.uk

Mae unrhyw ddolenni i wirfoddoli fel ynad yn mynd i wasanaeth ymgeisio ar wahân ar barth a reolir gan ddarparwr trydydd parti. Dylech wirio’r datganiad hygyrchedd ar gyfer y wefan am ei statws cydymffurfiaeth ac unrhyw faterion hygyrchedd.

Y Swyddfa Farnwrol sy’n gyfrifol am gynnwys https://magistrates.judiciary.uk. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am yr agweddau technegol.

Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau
  • gwneud y testun hyd at 300% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig

Mae gan Ability Net gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, gallwch gysylltu â ni:

Y Swyddfa Farnwrol
11eg Llawr, Adeilad Thomas More
Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL

E-bost: website.enquiries@judiciary.uk

Riportio problemau hygyrchedd

Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r rheoliadau hygyrchedd, anfonwch e-bost i: website.enquiries@judiciary.uk yn nodi manylion y broblem ac unrhyw dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS)

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Swyddfa Farnwrol wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, a hynny oherwydd y materion o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys sydd ddim yn hygyrch

Nid yw’r cynnwys isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid oes gan eitemau yn y faner cwcis gyferbyniad digonol. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG 2.1, 1.4.3 AA cyferbyniad (lleiaf).
  • Nid yw’r fideos yn cynnwys disgrifiad sain. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG 2.1 AA 1.2.5 Disgrifiad sain (wedi’i recordio ymlaen llaw).
  • Nid oes trawsgrifiadau ar gyfer y fideos i gyfathrebu cynnwys sain. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG 2.1 A 1.2.1 Sain yn unig a Fideo yn Unig (wedi’i recordio ymlaen llaw).
  • Nid oes penawdau ar gyfer y fideos i gyfathrebu cynnwys sain. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG 2.1 A 1.2.2 Penawdau (wedi’i recordio ymlaen llaw).

Baich anghymesur

Amherthnasol

Cynnwys sydd heb fod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw PDFs a dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018 yn hygyrch mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys colli dewisiadau testun amgen a strwythur dogfennau coll.

Fideos wedi’u gwreiddio

Mae fideos wedi’u gwreiddio a gynhelir ar YouTube a chwaraewyr cyfryngau eraill yn cynnwys elfennau nad ydynt yn hygyrch sy’n gynhenid i’r platfform fideo. Er enghraifft, mae hyn yn golygu nad yw botymau i chwarae fideos yn ddigon disgrifiadol i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin gan nad yw cyd-destun y fideo yn glir. Nid yw hyn yn cydymffurfio â WCAG 2.4.6 AA (Penawdau a Labeli).

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gweithio i ddatrys y materion a restrir yn y datganiad hwn.

Byddwn yn monitro hygyrchedd y wefan hon yn barhaus ac yn datrys unrhyw faterion hygyrchedd a adroddir i ni.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 15 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 14 Ionawr 2022.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 12 Ionawr 2022. Cynhaliwyd y profion ar y wefan gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym wedi cwblhau gwiriadau hygyrchedd gan ddefnyddio profion bysellfwrdd ac offeryn profi awtomataidd WAVE.