Agor y drws i’n dyfodol ym maes y gyfraith

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae mwy na 3,000 o fyfyrwyr o 195 o ysgolion wedi cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ffug Dreial y Llys Ynadon, gan roi cipolwg uniongyrchol iddynt ar y system gyfiawnder a’u helpu i ddeall sut mae’r gyfraith yn cyffwrdd â phob agwedd ar eu bywydau.
Wedi’i sefydlu yn 1991 gan yr elusen addysg genedlaethol Young Citizens, mae Cystadleuaeth Ffug Dreial y Llys Ynadon yn cyflwyno pobl ifanc 12-14 oed i’r system gyfreithiol wrth iddynt ymgymryd â rolau’r rhai sy’n cymryd rhan mewn treial llys ynadon – gan gynnwys cyfreithwyr, tystion, cynghorwyr cyfreithiol ac ynadon. Mae’r gystadleuaeth yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau allweddol fel meddwl yn feirniadol, gwaith tîm a siarad yn gyhoeddus wrth iddynt ddefnyddio achosion troseddol wedi’u hysgrifennu’n arbennig i baratoi dadleuon cyfreithiol i erlyn neu amddiffyn mewn lleoliad llys go iawn.
Mae Ruvimbo Gore yn fyfyriwr y Gyfraith (LLM,LLB) ym Mhrifysgol y Gyfraith a feirniadodd gyfranogiad y myfyrwyr yn y rowndiau terfynol rhanbarthol. Esboniodd bwysigrwydd hyn: “Rwy’n credu y gall cymryd rhan yn y rhaglen hon ehangu safbwyntiau’r myfyrwyr o’r gyfraith ar waith. Mae’r byd academaidd bob amser yn eithaf trylwyr, ond pan fyddwn ni’n gwneud gwaith ymarferol, rydym ni’n gallu rhoi’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar waith, felly mae’n gwneud mwy o synnwyr. Weithiau dydych chi ddim yn deall yn llawn yr hyn rydych chi’n ei ddysgu nes i chi ei wneud.”
Ychwanegodd Gina Galloway, Rheolwr Cyflawni ar gyfer Clercod y Llys yn Llys y Goron Croydon, sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth ers blynyddoedd lawer: “Rwy’n credu bod dod i mewn i’r llys yn rhoi ymdeimlad o realiti i’r disgyblion yn syth, gan ei fod yn wahanol i ystafell ddosbarth.”
Meithrin sgiliau a hyder
Disgrifiodd Benjamin, myfyriwr a oedd yn gweithredu fel diffynnydd yn ystod y gystadleuaeth, y profiad:
Siaradodd Dawn Gibbons, Ynad Heddwch ar gyfer De-orllewin Llundain a wasanaethodd fel ynad arweiniol yn y digwyddiad, am bwysigrwydd cynrychiolaeth: “Nid yw’r bont rhwng y byd academaidd a’r system gyfiawnder mor eang ag yr oedd pan oeddwn i yn yr ysgol. Gallwch chi nawr weld pobl sy’n edrych fel chi – boed yn ddynion, yn fenywod, yn anabl, yn ddu neu’n frown, yr holl nodweddion gwarchodedig. Dyna gyfiawnder agored, dylai unrhyw un allu gwneud cais a ffitio i mewn. Rydym yn farnwriaeth ar gyfer yr 21ain ganrif.”
Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf
Yng nghystadleuaeth eleni, enillodd disgyblion o Ysgol Gyfun Bishopston yng Nghymru y brif wobr yn rownd derfynol ranbarthol Llundain, a gynhaliwyd yn Llys y Goron Croydon ar 14 Mehefin.
Dywedodd Polly, myfyrwraig o Bishopston a oedd yn brif gyfreithiwr yr erlyniad: “Mae’n wych iawn oherwydd nid ydym erioed wedi gwneud hyn o’r blaen fel Ysgol Bishopton, felly mae cyrraedd y rownd derfynol ac ennill yn wych. Rwy’n credu y bydd y profiad hwn yn bendant yn helpu i ysbrydoli rhai pobl i feddwl am wahanol yrfaoedd yn y gyfraith ar wahân i fod yn gyfreithiwr, mae rolau fel ynad heddwch a chynghorydd cyfreithiol ar gael.”
Tynnodd yr Arglwydd Ponsonby o Shulbrede, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, a wirfoddolodd fel prif ynad ar y diwrnod, sylw at ei brofiad ei hun o ymuno â’r system gyfiawnder: “Nid oedd fy nghefndir yn y gyfraith o gwbl. Roeddwn i’n beiriannydd yn ystod fy ngyrfa broffesiynol, ond penderfynais wirfoddoli fel ynad a gwneud hyn unwaith bob pythefnos dros 20 mlynedd. Rwyf wedi dysgu bod llawer o wahanol rannau i gyfiawnder troseddol sy’n hygyrch ac mae llawer o wahanol ffyrdd o symud trwy’r cyfleoedd gyrfa hynny. Mae’n mynd ymhell y tu hwnt i fod yn gyfreithiwr, bargyfreithiwr neu farnwr, ac yn sicr fy nghanfyddiad yw bod pobl yn mwynhau’r gyrfaoedd hynny’n fawr ac yn cael boddhad gwirioneddol ohonynt.”
Mae’r bartneriaeth rhwng GLlTEF a Young Citizens wedi gweld miloedd o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau ffug dreialon dros y blynyddoedd. Mae GLlTEF yn darparu cyllid a lleoliadau, tra bod staff yn rhoi o’u hamser i helpu i drefnu’r digwyddiadau. Mae hyn yn rhan o raglen allgymorth ehangach GLlTEF i godi ymwybyddiaeth o wahanol rolau a chyfleoedd gyrfa ar draws y system gyfiawnder, gan wneud gyrfaoedd cyfreithiol yn fwy hygyrch ac apelgar i bobl ifanc o bob cefndir.
Dywedodd Ashley Hodges, Prif Weithredwr Young Citizens: “Dylai pob dinesydd ddeall sut mae ein sefydliadau’n gweithio a’r rôl maen nhw’n ei chwarae yn eu bywydau bob dydd. Yn anffodus, mae’r systemau pwerus hyn yn aml yn ymddangos yn llawn dirgelwch, ac mae ymddiriedaeth pobl ifanc yn ein harweinwyr ar ei lefel isaf erioed. Dyna pam mae angen i ni hysbysu a chynnwys pobl ifanc trwy raglenni trochi fel y Cystadlaethau Ffug Dreial. Maent yn gyfle i fyfyrwyr gaffael gwybodaeth a defnyddio eu sgiliau mewn amgylchedd ysbrydoledig a chroesawgar, gan obeithio sbarduno’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith.”