Mynd i'r cynnwys
© Hawlfraint, Recriwtio Ynadon 2025.

Awgrymiadau ar gyfer siarad â’ch cyflogwr am ddod yn ynad

Cyhoeddwyd:

Ydych chi’n ystyried dod yn ynad ac angen help i gynnal sgwrs gyda’ch cyflogwr? Darllenwch ein hawgrymiadau defnyddiol.

Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i fod yn ynad, mae siarad â’ch cyflogwr yn gynnar yn y broses yn syniad da. Yn ystod y drafodaeth, byddai’n ddefnyddiol rhannu sut byddech chi’n cydbwyso’r ymrwymiad a’r manteision y byddai’r rôl yn ei chynnig i’ch gweithle. Yn ddefnyddiol, mae sawl mantais i chi dynnu sylw atynt! 

Dyma dri awgrym i’ch arwain drwy’r sgwrs: 

  1. Pwysleisio sgiliau trosglwyddadwy: Mae dod yn ynad yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy fel dadansoddi beirniadol, barn gadarn a datrys problemau cymhleth. Esboniwch pa mor werthfawr fydd y sgiliau hyn i chi ac i’r sefydliad.  
  2. Rhannwch eich angerdd dros y rôl a chyfiawnder: Mae gweithio fel ynad yn ffordd fuddiol ac effeithiol o wasanaethu eich cymuned, felly esboniwch pam fod hyn yn bwysig i chi. Efallai y bydd ffactorau ysgogol eraill ar gyfer eich awydd i gynrychioli eich cymuned, felly cofiwch gynnwys y rhesymau hyn yn eich trafodaeth hefyd.    
  3. Esboniwch sut y byddwch yn cydbwyso’r ddau gyfrifoldeb: Mae llawer o ynadon yn cydbwyso dyletswyddau cyflogaeth a barnwrol, felly trafodwch gyda’ch cyflogwr sut y byddwch yn cyflawni hyn. Efallai yr hoffech sôn bod ynadon yn gwirfoddoli am o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn, gydag eisteddiadau’n cael eu trefnu drwy’r rota ynadon ddwywaith y flwyddyn. Mae’r rhybudd ymlaen llaw yn rhoi digon o amser i gynllunio a chytuno ar yr amser i ffwrdd.  

Mae’n werth nodi, os byddwch yn dod yn ynad, bod dyletswydd gyfreithiol ar eich cyflogwr i roi amser i ffwrdd o’r gwaith i chi gyflawni eich dyletswyddau.  

Mae llawer o gyflogwyr yn caniatáu i staff gymryd rhywfaint o wyliau gyda thâl i gyflawni dyletswyddau ynad. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl (neu os ydych yn hunangyflogedig), efallai y gallwch hawlio lwfans gan y llys am golli enillion.

Cofrestrwch eich diddordeb mewn bod yn ynad heddiw.