Mis Treftadaeth De Asia: Gwreiddiau, Cyfrifoldeb a Chynrychiolaeth

Ar gyfer Mis Treftadaeth De Asia, mae Moawia yn rhannu ei brofiad o fod yn ynad ac yn myfyrio ar bwysigrwydd barnwriaeth cynhwysol.
Fel rhywun gyda theulu sy’n tarddu o Dde Asia, mae Mis Treftadaeth De Asia yn rhoi cyfle i mi gymryd seibiant, myfyrio ac ailgysylltu, nid yn unig gyda fy hunaniaeth ddiwylliannol ond hefyd gydag etifeddiaeth a chyfraniadau anhygoel pobl De Asiaidd ledled y DU. Mae’n adeg i ddathlu ein cerddoriaeth, ein bwyd, ein hieithoedd, ein straeon ac yn bwysicach fyth, y gwerthoedd rydym yn eu dal: teulu, gwasanaethu, gwydnwch a chymuned.
Yn bersonol, dw i’n marcio’r mis hwn trwy fynd yn ôl at straeon fy hynafiaid – ffermwyr, athrawon, entrepreneuriaid, cyn-filwyr, a gweision sifil, a wnaeth ddysgu gwerth gwaith caled a gostyngeiddrwydd i mi. Dw i’n parhau i deithio’n ôl i’r ardal yn rheolaidd, nid yn unig i weld teulu ond hefyd drwy gwaith fy elusen, sy’n cefnogi prosiectau iechyd ac addysg yng nghymunedau difreintiedig ledled De Asia. P’un a yw’n sefydlu clinigau gofal llygaid symudol mewn mannau anghysbell, adeiladu ffynhonnau, helpu plant i gael mynediad at addysg, neu cefnogi teuluoedd gydag anghenion sylfaenol neu gostau priodas, mae’r profiad hyn yn fy atgoffa i fod yn ddiolchgar am bopeth sydd gennyf. Maen nhw’n atgoffa fi o’r cyfrifoldeb rydyn ni i gyd yn ei gario: i anrhydeddu ebyrth y sawl daeth o’n blaenau ni, ac i adeiladu dyfodol gwell i’r sawl sydd i ddod.
Mae fy nhreftadaeth yn bendant wedi siapio fy siwrne i wasanaethu’r cyhoedd, gan gynnwys fy rôl fel ynad (ynad heddwch). Er fy mod i wedi cael fy ngeni a fy magu yn y DU, mae gwreiddiau fy nheulu yn rhan o’r byd lle nad yw rheolaeth y gyfraith wedi bod yn gyson neu weithiau heb fod yn hygyrch o gwbl. Wnes i dyfu fyny yn clywed straeon am systemau cyfiawnder lle roedd modd i gyfoeth, braint neu wleidyddiaeth ddylanwadu ar ganlyniadau. Mi wnaeth y cyferbyniadau hyn wneud i mi werthfawrogi system gyfreithiol Prydain a’i hymrwymiad i degwch, ac mi wnaeth fy ysbrydoli i gyfrannu ati. Roedd dod yn ynad yn teimlo fel ffordd naturiol i helpu i gynnal yr egwyddorion o urddas, didueddrwydd a thriniaeth gyfartal i bawb, a dyma’r gwerthoedd rwy’n dod gyda fi i bob ystafell llys rwy’n eistedd ynddi.
Rwy’n falch o fod yn aelod o Gymdeithas yr Ynadon, sy’n chwarae rhan hanfodol yn cefnogi a chynrychioli ynadon o bob math o gefndiroedd. Mae’r gymdeithas yn hyrwyddo amrywiaeth, yn darparu datblygiad proffesiynol, ac mae’n blatfform allweddol ar gyfer cysylltu aelodau gyda sgyrsiau ehangach am gyfiawnder a diwygio.
Mae llawer o bobl yn anymwybodol y gall bod yn ynad agor y drws i ffyrdd eraill o wasanaeth cyhoeddus. Ochr yn ochr â fy nyletswyddau yn y llys, mae gen i’r fraint o wasanaethu ar Banel Gwarantau Chwilio Cymru Gyfan, Panel Mechnïaeth Cyn Cyhuddo Cymru Gyfan, ac i wrando apeliadau yn Llys y Goron. Rwyf wedi cael yr anrhydedd o gael fy mhenodi gan Arglwydd Brif Ustus Cymru ar yr adeg fel Ynad Cyswllt Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol (DCRM), rôl sy’n galluogi fi i hyrwyddo ymgysylltiad ac ymwybyddiaeth o fewn cymunedau sydd wedi’u tangynrychioli.
Gan fy mod i’n Fwslim Prydeinig ac yn dod o gefndir ethnig lleiafrifol, rwy’n deall pwysigrwydd bod yn weledol a sicrhau bod profiad bywyd o fewn yr ynadaeth. Pan fydd pobl ifanc o gymunedau sydd wedi’u tangynrychioli yn gweld rhywun fel nhw mewn safle o gyfrifoldeb, mae’n cyfleu neges pwerus: “Rydych chi’n perthyn yma hefyd.” Mae cynrychiolaeth yn gwneud mwy na grymuso unigolion; mae’n cynyddu hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder. Mae’n sicrhau bod penderfyniadau wedi’u llywio gan amrywiaeth eang o safbwyntiau sydd wedi’u seilio mewn empathi ynghyd â’r gyfraith.
Wedi dweud hynny, er bod cynrychiolaeth yn y system gyfiawnder yn bwysig, mae’n yr un mor bwysig bod y system yn parhau i addasu i fodloni anghenion pob cymuned. Mae hyn yn cynnwys gwella mynediad at wybodaeth mewn nifer o ieithoedd, darparu arweiniad cliriach trwy gydol y broses llys, a sicrhau bod ymdrechion estyn allan wedi’u llywio gan wybodaeth ddiwylliannol. Rwy’n cydnabod bod camddealltwriaeth diwylliannol neu ieithyddol yn gallu dylanwadu ar ganlyniadau llys, a bod ymgysylltu cynhwysol a rhagweithiol yn allweddol i fagu hyder a chyd-ddealltwriaeth.
Byddaf yn dweud un peth i bobl ifanc o gefndiroedd De Asiaidd sy’n meddwl dod yn ynad neu weithio yn y sector cyfiawnder: peidiwch â meddwl nad ydych yn ddigon da. Nid oes angen gradd yn y gyfraith neu gefndir prifysgol. Ni waeth beth yw eich galwedigaeth; p’un a ydych yn gweithio mewn siop, yn athro/athrawes, neu’n fyfyriwr, adeiladwr, yn hunangyflogedig neu’n riant llawn amser, gallwch wneud cais. Yr hyn sydd o bwys yw eich profiad bywyd, eich gallu i wrando, eich unplygrwydd, a’ch ymrwymiad i degwch. Mae ein cymunedau eich angen chi. Mae’r system gyfiawnder eich angen chi.
Mae Mis Treftadaeth De Asia yn fwy na dathliad o le rydyn ni’n tarddu; mae hefyd yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Beth am ei ddefnyddio i gefnogi ein gilydd, i herio rhwystrau, a siapio system gyfiawnder sy’n adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog y bobl mae’n ei gwasanaethu.