Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Pam fod amrywiaeth yn bwysig yn yr Ynadaeth

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o fod yn ynad, mae'r arbenigwr TG o Lundain, Kevin, yn sôn am ei daith ysbrydoledig i fod yn ynad yn y llys troseddol. Gan fod â nam difrifol ar ei olwg, penderfynodd Kevin osod cynsail.

Beth wnaeth ichi fod eisiau bod yn ynad?

Nôl yn y 90au, o’n i’n arfer gweithio’n rhan amser i Heddlu’r Met yn Peckham. Pan gefais fy ngwneud yn ddi-waith o’r rôl honno, roeddwn eisiau parhau i weithio ym maes gorfodi’r gyfraith neu debyg – yn rhan amser.

Fodd bynnag, doedd dod yn ynad ddim yn opsiwn ar y pryd. Mae gen i nam difrifol ar fy ngolwg (dall yn gofrestredig) ac, cyn 1998, nid oedd pobl ddall yn gymwys i eistedd fel ynadon.

Fe wnes i gais cyn gynted ag y cafodd y gwaharddiad ei godi oherwydd rwy’n credu y dylai ynadon adlewyrchu’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu – gan gynnwys pobl fel fi.

Sut fyddet ti’n disgrifio dy rôl fel ynad?

Fy rôl i yw llywyddu achos yn y llys troseddol i oedolion  gyda dau gyd-ynad. Gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol, rydym yn sicrhau bod pob elfen o achosion yn cael eu cynnal yn deg, yn amserol ac yn unol â’r gyfraith.

Er bod gan fy nghydweithwyr, sy’n cael eu hadnabod fel ‘asgellwyr’, bwerau cyfartal i wneud penderfyniadau gyda mi, dim ond fi, fel yr Ynad Llywyddol, sy’n siarad ar ran yr ynadon yn y llys.

Rwyf hefyd yn gyfrifol am bawb yn y llys; fy ngwaith i yw cysylltu â phawb, gan sicrhau bod y rhai nad ydynt wedi bod yn y llys o’r blaen (megis troseddwyr sy’n troseddu am y tro cyntaf) yn cael eu cefnogi’n briodol yn ystod eu cyfnod yn y llys.

Beth yw rhai o elfennau mwyaf buddiol y rôl?

Y rhan fwyaf buddiol o’m rôl yw pan fyddaf wedi llywyddu dros wrandawiad lle rwy’n teimlo bod cyfiawnder wedi’i wneud – megis pan fo achwynydd wedi dioddef sgam, fel talu miloedd am atgyweirio to i gwmni nad ydynt yn bodoli. Pan allwn ni fel mainc ddelio â’r diffynyddion, cael cyfiawnder ac iawndal priodol i’r achwynydd, rwy’n teimlo’n falch fy mod wedi chwarae rhan yn cynnal tegwch.

Braf iawn yw gwybod hefyd bod diffynyddion sy’n gadael y llys yn teimlo eu bod wedi cael eu trin yn deg ac yn gyfiawn a’n bod wedi newid eu bywydau er gwell.

Beth yn eich barn chi yw rhai o’r rhinweddau pwysicaf sydd eu hangen i fod yn ynad?

Gallu gwrando a chanolbwyntio am gyfnodau hir. Mae angen i chi ddechrau pob gwrandawiad gyda meddwl ffres a gwneud dim barn nes bod pob ochr i’r ddadl wedi cael eu clywed. Dyna pam mae ynadon yn cael eu hyfforddi ar ragfarn ddiarwybod a sut y gall hyn effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau.

Mae’r gallu i ddilyn proses o wneud penderfyniadau strwythuredig a rhinweddau tegwch a didueddrwydd hefyd yn hanfodol.

Ond, yn bwysicaf oll, os ydych chi bob amser yn anelu at fod y fersiwn orau ohonoch chi’ch hun, yna mae’n debyg bod dod yn ynad yn iawn i chi.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth unrhyw un arall sy’n ystyried dod yn ynad?

Mae’n rôl sy’n rhoi boddhad mawr lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Rydych yn cael cymryd rhan mewn ymarfer dysgu parhaus a mynd adref ar ddiwedd y dydd gan wybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Rydych hefyd yn cael cwrdd â set hollol newydd o bobl o’r un anian ac rwy’n wirioneddol gredu y byddwch yn mwynhau cyflawni’r rôl gyhoeddus bwysig hon yn fawr. Felly, gwnewch gais!