Pum awgrym defnyddiol ar gyfer yr asesiad cymhwyso

Ydych chi’n ystyried gwirfoddoli i fod yn ynad?
Cyn i chi wneud cais, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Os ydych chi eisiau gwirfoddoli yn y llys troseddol, arsylwi o leiaf dau wrandawiad neu wneud eich gwaith ymchwil i chwarae rhan yn y penderfyniadau a wneir mewn llysoedd teulu.
- Siaradwch ach cyflogwr am fanteision dod yn ynad a’r ymrwymiad amser sydd ei angen.
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.
Yna, byddwch yn barod i gofrestru eich diddordeb neu i wneud cais am rôl. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, cewch eich gwahodd i wneud yr asesiad cymwys.
Yn ystod yr asesiad, byddwch yn cael cyfres o senarios realistig gyda phedwar cam y gallech eu cymryd i ddelio â’r sefyllfa. Yna, bydd angen i chi restru’r opsiynau hyn o’r un mwyaf effeithiol i’r un lleiaf effeithiol.
Pwrpas yr ymarfer hwn yw ein helpu i benderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer rôl yn yr ynadaeth.
Sut ddylech chi baratoi
1. Myfyriwch ar eich gwaith ymchwil
Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael i’ch helpu wrth ymchwilio i’ch rhoi mewn sefyllfa dda cyn yr asesiad. Cofnodwch ein gwefan ynadon ac eraill sydd wedi bod yn ddefnyddiol i chi, e.e. Cymdeithas yr Ynadon.
Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y rôl yn addas i chi cyn i chi wneud cais, a bydd eich gwaith ymchwil yn eich helpu i wirio.
Bydd hefyd yn eich galluogi i ddeall yn well beth yw realiti bod yn ynad. Pe baech wedi ymweld â llys, byddech wedi clywed enghreifftiau o’r achosion y gallai fod angen i chi eu barnu. Dylai eich arsylwadau fod yn rhan o’ch myfyrio wrth gwblhau’r asesiad.
2. Adolygu’r rhestr termau
Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Ynad Gweinyddol a thwrnai amddiffyn? Beth am fainc a Chadeirydd y Fainc? Dyma rai o’r termau y gallech eu gweld wrth gwblhau’r asesiad cymhwysedd ar gyfer recriwtio ynadon.
Atodir rhestr termau wrth bob senario a gyflwynir i’ch cynorthwyo. Defnyddiwch hi! Efallai fod termau technegol nad ydych yn gyfarwydd â nhw, felly mae hon yn ddogfen ddefnyddiol i’w chadw ar agor yn ystod yr asesiad. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n hyderus eich bod yn deall y termau, mae’n werth gwneud un gwiriad terfynol.
3. Cofiwch beth yw prif briodoleddau ynad
Mae pum priodoledd allweddol i fod yn ynad da:
- Deall a gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau.
- Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw.
- Cyfathrebu gyda sensitifrwydd a pharch.
- Dangos hunanymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu.
- Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol.
Meddyliwch yn ofalus os yw eich atebion yn adlewyrchu’r gwerthoedd a restrir uchod, oherwydd mae’n hanfodol eu bod yn gwneud hynny.
Byddwch yn cael eich asesu ar bob cam o’r broses ymgeisio i weld a ydych yn dangos y priodoleddau hynny.
Felly, cymerwch amser i gofio’r pum nodwedd. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y priodoleddau hyn yn ein Cwestiynau Cyffredin.
4. Ymarfer, ymarfer, ymarfer!
Mae cwestiynau ymarfer ar y wefan recriwtio ynadon, felly’r ffordd orau o ymgyfarwyddo ag edrychiad a naws y prawf yw ymarfer.
Bydd angen i chi ymateb i bob senario fel pe baech yn ynad sy’n eistedd. Efallai y byddwch yn profi’r sefyllfaoedd damcaniaethol hyn os byddwch yn dod yn ynad, felly ystyriwch mai treial o wirfoddoli mewn llys yw hwn!
5. Cymerwch eich amser
Nid yw’r asesiad wedi’i amseru, felly nid oes angen rhuthro.
Ar ôl i chi wneud eich penderfyniad, ceisiwch lynu wrtho. Gall gorfeddwl arwain at ansicrwydd gan ei bod yn debygol y bydd rheswm rhesymegol dros bob ateb. Os ydych chi wedi meddwl am yr holl gamau uchod cyn ateb cwestiwn, byddwch yn hyderus yn eich dewis.
Y newyddion da yw y byddwch yn cael canlyniad y prawf yn fuan ar ôl i chi ei gwblhau.