Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Pum awgrym defnyddiol ar gyfer yr asesiad cymhwyso

Ydych chi’n ystyried gwirfoddoli i fod yn ynad?

Cyn i chi wneud cais, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • Os ydych chi eisiau gwirfoddoli yn y llys troseddol, arsylwi o leiaf dau wrandawiad neu wneud eich gwaith ymchwil i chwarae rhan yn y penderfyniadau a wneir mewn llysoedd teulu.
  • Siaradwch ach cyflogwr am fanteision dod yn ynad a’r ymrwymiad amser sydd ei angen.
  • Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys.

Yna, byddwch yn barod i gofrestru eich diddordeb neu i wneud cais am rôl. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, cewch eich gwahodd i wneud yr asesiad cymwys.

Yn ystod yr asesiad, byddwch yn cael cyfres o senarios realistig gyda phedwar cam y gallech eu cymryd i ddelio â’r sefyllfa. Yna, bydd angen i chi restru’r opsiynau hyn o’r un mwyaf effeithiol i’r un lleiaf effeithiol.

Pwrpas yr ymarfer hwn yw ein helpu i benderfynu a ydych chi’n addas ar gyfer rôl yn yr ynadaeth.

Sut ddylech chi baratoi

1. Myfyriwch ar eich gwaith ymchwil

Mae llawer iawn o wybodaeth ar gael i’ch helpu wrth ymchwilio i’ch rhoi mewn sefyllfa dda cyn yr asesiad. Cofnodwch ein gwefan ynadon ac eraill sydd wedi bod yn ddefnyddiol i chi, e.e. Cymdeithas yr Ynadon.

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y rôl yn addas i chi cyn i chi wneud cais, a bydd eich gwaith ymchwil yn eich helpu i wirio.

Bydd hefyd yn eich galluogi i ddeall yn well beth yw realiti bod yn ynad. Pe baech wedi ymweld â llys, byddech wedi clywed enghreifftiau o’r achosion y gallai fod angen i chi eu barnu. Dylai eich arsylwadau fod yn rhan o’ch myfyrio wrth gwblhau’r asesiad.

2. Adolygu’r rhestr termau

Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Ynad Gweinyddol a thwrnai amddiffyn? Beth am fainc a Chadeirydd y Fainc? Dyma rai o’r termau y gallech eu gweld wrth gwblhau’r asesiad cymhwysedd ar gyfer recriwtio ynadon.

Atodir rhestr termau wrth bob senario a gyflwynir i’ch cynorthwyo. Defnyddiwch hi! Efallai fod termau technegol nad ydych yn gyfarwydd â nhw, felly mae hon yn ddogfen ddefnyddiol i’w chadw ar agor yn ystod yr asesiad. Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n hyderus eich bod yn deall y termau, mae’n werth gwneud un gwiriad terfynol.

3. Cofiwch beth yw prif briodoleddau ynad

Mae pum priodoledd allweddol i fod yn ynad da:

  • Deall a gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau.
  • Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw.
  • Cyfathrebu gyda sensitifrwydd a pharch.
  • Dangos hunanymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu.
  • Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol.

Meddyliwch yn ofalus os yw eich atebion yn adlewyrchu’r gwerthoedd a restrir uchod, oherwydd mae’n hanfodol eu bod yn gwneud hynny.

Byddwch yn cael eich asesu ar bob cam o’r broses ymgeisio i weld a ydych yn dangos y priodoleddau hynny.

Felly, cymerwch amser i gofio’r pum nodwedd. Gallwch hefyd ddarllen mwy am y priodoleddau hyn yn ein Cwestiynau Cyffredin.

4. Ymarfer, ymarfer, ymarfer!

Mae cwestiynau ymarfer ar y wefan recriwtio ynadon, felly’r ffordd orau o ymgyfarwyddo ag edrychiad a naws y prawf yw ymarfer.

Bydd angen i chi ymateb i bob senario fel pe baech yn ynad sy’n eistedd. Efallai y byddwch yn profi’r sefyllfaoedd damcaniaethol hyn os byddwch yn dod yn ynad, felly ystyriwch mai treial o wirfoddoli mewn llys yw hwn!

5. Cymerwch eich amser

Nid yw’r asesiad wedi’i amseru, felly nid oes angen rhuthro.

Ar ôl i chi wneud eich penderfyniad, ceisiwch lynu wrtho. Gall gorfeddwl arwain at ansicrwydd gan ei bod yn debygol y bydd rheswm rhesymegol dros bob ateb. Os ydych chi wedi meddwl am yr holl gamau uchod cyn ateb cwestiwn, byddwch yn hyderus yn eich dewis.

Y newyddion da yw y byddwch yn cael canlyniad y prawf yn fuan ar ôl i chi ei gwblhau.