Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Y wobr o fod yn ynad

Mae Aruj yn rhannu ei meddyliau am ddod yn ynad a’r hyn y mae hi’n ei fwynhau am y rôl.

Beth wnaeth i chi fod eisiau bod yn ynad?

Roeddwn i eisiau ceisio deall mwy am y rhesymau, sydd weithiau yn gallu bod yn gymhleth, sy’n arwain at ymddygiad troseddol. Drwy godi ymwybyddiaeth o’r problemau hyn, gobeithio y gallwn, fel cymuned, ac fel gwlad, barhau i roi mesurau teg a defnyddiol ar waith a all gael effaith gadarnhaol er mwyn newid cyfeiriad bywyd rhywun.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth unrhyw un arall sy’n ystyried dod yn ynad?

Peidiwch ag oedi! Byddwch yn rhyfeddu at yr hyn rydych chi’n ei ddysgu. Nid yn unig sgiliau ymarferol, sy’n gwella cyflogadwyedd a chyfathrebu, ond hefyd y cyfle i gwrdd â chynifer o bobl frwdfrydig a rhagweithiol o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Maen nhw, fel chi, eisiau gwneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau. O’r rheini yn y llys i’r rheini y tu allan, byddwch bob amser yn gallu teimlo ymdeimlad o gymuned yn yr ynadaeth.

Sut byddech chi’n disgrifio eich rôl fel ynad?

Mae fy rôl fel ynad yn eithaf syml. Rhaid i mi gosbi’r rheini sydd wedi cael eu dyfarnu’n euog o drosedd a byddaf bob amser yn ystyried, lle bo hynny’n berthnasol neu’n angenrheidiol, a oes modd gorfodi unrhyw fesurau adsefydlu i helpu i leihau ymddygiad aildroseddu. Fy rôl i yw cynnal y gyfraith, drwy fod yn deg ac yn ddiduedd, gan ystyried amgylchiadau unigol pob troseddwr a sut mae hynny’n dylanwadu ar eu hymddygiad troseddol.

Beth yw rhai o elfennau mwyaf buddiol y rôl?

  • Cwrdd ag unigolion o’r un anian sydd â nodau tebyg, sy’n rhoi o’u hamser a’u harian i helpu i wella eu cymunedau lleol
  • Gweld sut y gall eich penderfyniadau gael effaith gadarnhaol ar ddiffynyddion ac achwynwyr
  • Bod yn rhan o rywbeth mwy

Sut oedd y broses ymgeisio?

Mae’r broses ymgeisio yn union fel cyfweliad am swydd. Ceir ffurflen gais ac yna cyfweliad. Maen nhw’n cael eu cynnal gan bobl a fydd yn dod yn gymheiriaid i chi cyn bo hir, ac maen nhw’n agored ac yn fodlon cynnig cipolwg ar eu profiadau yn y ‘gwaith’. Does dim cwestiynau twyllodrus. Y cyfan sydd ei angen yw i chi fod yn chi eich hun a dangos pam eich bod yn teimlo’n angerddol dros wirfoddoli eich amser i gefnogi’r ynadaeth.

Yn eich barn chi, beth yw rhai o’r rhinweddau pwysicaf mewn ynad?

Mae llawer o nodweddion allweddol sy’n angenrheidiol i fod yn ynad. Byddwn yn dweud mai un o’r prif nodweddion yw bod yn ddiduedd ac yn deg. Byddwch yn gwneud penderfyniadau a fydd yn effeithio’n fawr ar fywydau pobl. Rhaid i chi hefyd:

  • Fod yn barod i wrando ar yr holl ystyriaethau a gwneud penderfyniad cytbwys a diduedd ynghylch sut i ddelio ag achosion unigol.
  • Sicrhau eich bod yn gweithio mor effeithiol â phosibl drwy hyfforddiant a hunanddatblygiad parhaus.
  • Gwrando a chyfathrebu â’ch cymheiriaid a’ch cydweithwyr, yn ogystal â diffynyddion, achwynwyr a phobl eraill yn y llys.
  • Gallu gweithio’n effeithiol ym mhob amgylchedd, gan ystyried llawer iawn o wybodaeth.
  • Meddu ar y gallu i gyfleu eich penderfyniadau yn rhesymegol ac yn glir.