Mynd i'r cynnwys

Polisi Treuliau Ynadon

Treuliau y gallwch eu hawlio fel ynad

Mae gwirfoddoli fel ynad yn gyfle gwych i roi yn ôl i’ch cymuned. Ond fel pob rôl wirfoddol, ni fyddwch yn cael eich talu am eich amser. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi y gallwch ddod i gostau wrth eistedd fel ynad. Felly, fe gewch eich digolledu am golledion ariannol penodol sy’n codi o’ch dyletswyddau fel ynad.

Fel ynad, gallwch hawlio am y canlynol:

  • Colli enillion o ganlyniad i ymgymryd â’ch dyletswyddau fel ynad, os nad yw eich cyflogwr eisoes yn rhoi amser i ffwrdd â thâl i chi eistedd fel ynad
  • Treuliau yn deillio o deithio i eistedd fel ynad
  • Bwyd neu ddiod rydych chi’n ei brynu, a chost unrhyw lety dros nos sy’n angenrheidiol i eistedd fel ynad
  • Treuliau eraill, er enghraifft, unrhyw gostau argraffu, postio neu alwadau ffôn y mae’n rhaid i chi eu gwneud fel rhan o’ch dyletswyddau fel ynad

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y golled ariannol yn ganlyniad uniongyrchol i gyflawni eich dyletswyddau fel ynad.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am lwfansau

Colled ariannol

Os ydych yn cael eich penodi’n ynad, bydd disgwyl i chi eistedd am 13 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â dilyn hyfforddiant. Er bod rhai cyflogwyr yn caniatáu i staff gymryd rhywfaint o absenoldeb cyflogedig i ymgymryd â dyletswyddau fel ynad, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Yn yr achosion hyn, gall ynadon hawlio lwfans am golled ariannol. Gallwch hawlio’r lwfans hwn p’un a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu ar gontract dim oriau. Noder mai’r cyfraddau uchaf ar gyfer ynadon cyflogedig a hunangyflogedig a ddangosir. O’r herwydd, efallai na fyddant bob amser yn eich digolledu’n llwyr am golli enillion.

Math o lwfansCyfradd lwfans o 1 Ebrill 2021
Cyfradd crynswth(Ynadon hunangyflogedig)
Hyd at 4 awr£67.48
Dros 4 awr£134.96
Cyfradd net(Ynadon eraill)
Hyd at 4 awr£53.98
Dros 4 awr£107.97

Costau gofalwyr

Os oes gennych blant neu ddibynyddion i ofalu amdanynt, efallai y gallwch hawlio am y gost o gyflogi gofalwr er mwyn i chi allu ymgymryd â’ch dyletswyddau fel ynad. Dim ond os ydych chi’n cyflogi gofalwr yn benodol i’ch galluogi i eistedd fel ynad y mae hyn ar gael.

Lwfans milltiroedd

P’un a ydych yn gyrru, yn beicio neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gallwch wneud cais am dreuliau teithio sy’n deillio o’ch dyletswyddau fel ynad. Mae’r cyfraddau y gallwch eu hawlio fesul milltir yn cael eu pennu gan Gyllid a Thollau EF.

Math o gerbydCyfradd ad-dalu fesul milltir
Ceir a faniau (gan gynnwys hybrid a
thrydan)
45p
Beiciau modur24c
Beiciau20c
Taliad teithwyr5c

Cynhaliaeth

Gallwch hawlio am fwyd neu luniaeth rydych chi’n ei brynu tra byddwch yn eistedd yn y llys. Os digwydd y bydd rhaid i chi aros dros nos i eistedd, gallwch hefyd hawlio cynhaliaeth. Mae’r cyfraddau hyn yn cwmpasu costau llety a bwyd gyda’i gilydd.

Math o lwfansCyfradd lwfans
Cynhaliaeth nos: Y tu allan i Lundain£100
Cynhaliaeth nos: Yn Llundain£120
Cynhaliaeth dydd: Absenoldeb o 4 i 8 awr£7.45
Cynhaliaeth dydd: Absenoldeb o 8 i 12 awr£10.38
Cynhaliaeth dydd: Absenoldeb dros 12 awr£19.60

Cyflwyno hawliad a thystiolaeth

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr holl dreuliau a hawlir gennych. Bydd tîm treuliau penodol yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cyflwyno’r dystiolaeth gywir ac yn ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Byddwch hefyd yn cael cyfarwyddyd pellach ar hawlio treuliau pan fyddwch yn cael eich penodi.