Mae gwirfoddoli fel ynad yn gyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned – ond fel pob rôl wirfoddol, ni fyddwch yn cael eich talu am eich amser. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi y gallwch wynebu costau wrth eistedd fel ynad, felly byddwch yn gallu hawlio am rai colledion ariannol sy’n codi sgil eich dyletswyddau fel ynad.
Fel ynad, gallwch hawlio am y canlynol:
- Colli enillion o ganlyniad i ymgymryd â’ch dyletswyddau fel ynad, os nad yw eich cyflogwr eisoes yn rhoi amser i ffwrdd â thâl i chi eistedd fel ynad
- Treuliau yn deillio o deithio i eistedd fel ynad
- Bwyd neu ddiod rydych chi’n ei brynu, a chost unrhyw lety dros nos sy’n angenrheidiol i eistedd fel ynad
- Treuliau eraill – er enghraifft, unrhyw gostau argraffu, postio neu alwadau ffôn y mae’n rhaid i chi eu gwneud fel rhan o’ch dyletswyddau fel ynad
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y golled ariannol yn ganlyniad uniongyrchol i gyflawni eich dyletswyddau fel ynad.
Dyma’r prif bethau sydd angen i chi wybod am y lwfansau hyn.
Colled ariannol
Os ydych yn cael eich penodi’n ynad, bydd disgwyl i chi eistedd am 13 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â dilyn hyfforddiant. Er bod rhai cyflogwyr yn caniatáu i staff gymryd rhywfaint o absenoldeb cyflogedig i ymgymryd â dyletswyddau fel ynad, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Yn yr achosion hyn, gall ynadon hawlio lwfans am golled ariannol.
Gallwch hawlio’r lwfans hwn p’un a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu ar gontract dim oriau. Dangosir y gyfradd hawlio ar gyfer y lwfans hwn isod.
Noder mai’r cyfraddau uchaf ar gyfer ynadon cyflogedig a hunangyflogedig a ddangosir. O’r herwydd, efallai ni fyddant bob amser yn eich digolledu’n llwyr am golli enillion.
Math o lwfans | Cyfradd Lwfans o 1 Ebrill 2021 |
Cyfradd gros | (ynadon hunangyflogedig) |
Hyd at bedair awr | £67.48 |
Dros bedair awr | £134.96 |
Cyfradd net | (ynadon eraill) |
Hyd at bedair awr | £53.98 |
Dros bedair awr | £107.97 |
Costau gofalwyr
Os oes gennych blant neu ddibynyddion i ofalu amdanynt, efallai y gallwch hefyd hawlio am y gost o gyflogi gofalwr er mwyn i chi allu ymgymryd â’ch dyletswyddau fel ynad.
Dim ond os ydych chi’n cyflogi gofalwr yn benodol i’ch galluogi i eistedd fel ynad y mae hyn ar gael.
Lwfans milltiroedd
P’un a ydych yn gyrru, yn beicio neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gallwch wneud cais am dreuliau teithio sy’n deillio o’ch dyletswyddau fel ynad. Mae’r cyfraddau y gallwch eu hawlio fesul milltir yn cael eu gosod gan Gyllid a Thollau EF, a gellir eu gweld ar wefan GOV.UK.
Mae cyfraddau’r lwfans ar gyfer gwahanol gerbydau wedi’u nodi yn y tabl isod.
Math o gerbyd | Cyfradd ad-dalu fesul milltir |
Ceir a faniau (gan gynnwys hybrid a thrydan) | 45c |
Beiciau modur | 24c |
Beiciau | 20c |
Taliad teithwyr | 5c |
Cynhaliaeth
Gallwch hawlio am fwyd neu luniaeth rydych chi’n ei brynu tra byddwch yn eistedd yn y llys. Os digwydd y bydd rhaid i chi aros dros nos i eistedd, gallwch hefyd hawlio cynhaliaeth. Mae hyn ar gael ar y gyfradd isod, sy’n cwmpasu cost llety a bwyd gyda’i gilydd.
Math o lwfans | Cyfradd y lwfans |
Cynhaliaeth dros nos: y tu allan i Lundain | £100.00 |
Cynhaliaeth dros nos: yn Llundain | £120.00 |
Cynhaliaeth dydd: Absenoldeb o 4 i 8 awr | £7.45 |
Cynhaliaeth dydd: Absenoldeb o 8 i 12 awr | £10.38 |
Cynhaliaeth dydd: dros 12 awr o absenoldeb | £19.60 |
Cyflwyno hawliadau a thystiolaeth
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer yr holl dreuliau a hawlir gennych. Bydd tîm treuliau penodol yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cyflwyno’r dystiolaeth gywir, a byddant yn gallu ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych. Byddwch hefyd yn cael cyfarwyddyd pellach ar hawlio treuliau pan fyddwch yn cael eich penodi.