Mynd i'r cynnwys

Y tu mewn i’n Llysoedd

“Roeddwn i eisiau helpu pobl a gwneud yn siŵr bod y peth iawn yn cael ei wneud.”

Byddwch yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, pa bynnag lys y byddwch chi’n gweithio ynddo.

Pa lys ddylwn i wneud cais iddo?

Er bod rôl ynad bob amser yn ymwneud â gwrando amrywiaeth o achosion a defnyddio barn gadarn i wneud y penderfyniadau iawn, mae ynadon yn gweithio mewn dau amgylchedd gwahanol – y llys troseddol a’r llys teulu. Os hoffech ddod yn ynad, bydd angen i chi ddewis pa fath o lys rydych eisiau gweithio ynddo. Yn y naill amgylchedd neu’r llall, bydd gennych ystod eang o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth ystyrlon i unigolion, ac i gymdeithas yn ehangach.

Three magistrates sitting in court on a bench. One white male, one Asian female and one white female
Highbury Magistrates Court. Posed by models.

Mae’r llys troseddol a’r llys teulu yn delio â gwahanol fathau o achosion, ac yn gweithio gyda gwahanol fathau o bobl. Mae ynadon sy’n gweithio yn y ddau fath o lys angen sgiliau, cymeriad a barn gadarn debyg, ond gallai’r diddordebau a’r cymhellion a all eich denu at y naill lys neu’r llall fod yn wahanol.

Efallai ei fod yn swnio’n frawychus, ond mae’n bwysig cofio na fyddwch yn gwneud y penderfyniadau hyn ar eich pen eich hun. Hefyd, bydd gennych hyfforddiant arbenigol a chymorth parhaus i’ch helpu, bob cam o’r ffordd.

Mae’r sgiliau sydd eu hangen arnoch yn y ddau fath o lys yn cynnwys:

  • Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol 
  • Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw 
  • Cyfathrebu â sensitifrwydd a pharch 
  • Dangos hunan ymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu 
  • Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol

Bydd gan ynadon y llys teulu nifer o ddiddordebau megis:

  • Gweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n agored i niwed
  • Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned
  • Addysg a lles
  • Cefnogi plant a theuluoedd drwy amseroedd anodd

Dysgu mwy am y llys teulu

Bydd gan ynadon y llys troseddol ddiddordebau megis:

  • Cefnogi cymunedau
  • Gweithio gydag oedolion bregus
  • Lleihau trosedd
  • Adsefydlu troseddwyr

Cyn y gallwch wneud cais i fod yn ynad yn y llys troseddol, bydd angen i chi ymweld â llys.

Dysgu mwy am y llys troseddol

Highbury Magistrates Court. Posed by models.

Sut beth yw gweithio fel ynad yn y llys teulu?

Fel ynad yn y llys teulu, gallech fod yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant sy’n agored i niwed, gan gefnogi rhieni sydd wedi gwahanu i wneud trefniadau ar gyfer eu plant, gorfodi gorchmynion cynhaliaeth plant a helpu i atal cam-drin domestig. Mae’n rôl bwysig lle gallwch gael effaith sylweddol ar fywyd a lles plentyn, a dyfodol teulu.

Mae’n rôl a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar amrywiaeth o faterion lles plant ac yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r gymuned gyfan. Gall olygu delio â rhai sefyllfaoedd emosiynol anodd, ond bydd gennych gefnogaeth a hyfforddiant pwrpasol i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i’w trin yn effeithiol.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r llys teulu yn ‘lys caeedig’, sy’n golygu nad yw ar agor i’r cyhoedd, felly ni allwch ymweld â’r llys teulu nac arsylwi yno. Ond bydd angen i chi edrych ar wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd am y llys teulu – dyma le da i ddechrau:

Canllaw Advicenow ar fynd i’r llys teulu.
Ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ynad?
Ynadon yn y llys teulu yn siarad am y rôl
Fideo chwarae rôl Ynadon yn y Llys Teulu: Achos Cyfraith Breifat
Fideo chwarae rôl Ynadon yn y Llys Teulu: Achos Cyfraith Gyhoeddus