Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Dod yn ynad yn 19 oed

O oedran ifanc, roedd Luke eisiau bod yn rhan o’r broses o wneud y newid yr oedd am ei weld. Erbyn hyn, yn ei 30au, mae’n credu mai dod yn ynad yw un o’r pethau mwyaf boddhaus y mae wedi’i wneud erioed.

Roeddwn i’n eithaf ifanc pan benderfynais fod yn ynad. Ar ôl gweld achosion yn y wasg leol a chlywed sylwadau ffrindiau a theulu, roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r broses. Yn hytrach na gwneud sylwadau, roeddwn i eisiau bod yn rhan o’r newid roeddwn i eisiau ei weld. Roeddwn i eisiau gwneud gwahaniaeth a dod â meddylfryd newydd i’r fainc, gyda phersbectif newydd ar faterion cyfredol.

Roeddwn i’n 19 oed pan gefais fy mhenodi’n ynad am y tro cyntaf a dechreuais eistedd yn y llys yn Leeds. Nawr yn fy 30au, rwy’n gallu dweud yn ddi-os bod y penderfyniad a wnes i yn fy arddegau wedi mynd ymlaen i fod yn un o’r pethau mwyaf boddhaus rydw i wedi’u gwneud yn fy mywyd.

Y wobr fel ynad, i mi, yw’r gallu i wneud gwahaniaeth go iawn i’r materion yr ydych yn llywyddu drostynt. Gallwch sicrhau’r canlyniad gorau posibl i ddioddefwyr a’r gymuned ehangach. Fel ynadon, mae pobl yn ymddiried ynom i ddatblygu’r gallu i wneud penderfyniadau diduedd ar ddigwyddiadau sydd wedi digwydd yn ein cymunedau lleol a darparu datrysiad clir i’r sefyllfa. Rydym yno i gynnal rheol y gyfraith a sicrhau bod y rhai sy’n euog yn cael eu dyfarnu’n euog a bod y rhai sy’n ddieuog yn cael eu rhyddfarnu.

Mae twf personol yn uchafbwynt arall o fod yn ynad. Rydych yn agored i lawer o wahanol sefyllfaoedd mewn ystafell llys a gallwch ddatblygu eich sgiliau meddwl a gwneud penderfyniadau strwythuredig. Rhaid i chi ystyried yr holl ffeithiau a thrafod y camau cywir i’w cymryd. Dysgais gymaint o’r trafodaethau hyn, a gallaf ddefnyddio’r sgiliau hyn yn fy mywyd personol hefyd.

Byddwn yn annog unrhyw un i wirfoddoli. Er y gall unrhyw un dros 18 oed ddod yn ynad, teimlaf fod rhai rhinweddau pwysig y dylai pob ynad feddu arnynt. Dylai ynad:

  • Feddu ar y gallu i wrando ar safbwyntiau pobl eraill a deall gwahaniaethau barn. Pan fydd gwahanol safbwyntiau, mae angen i chi fod yn gydweithredol a chaniatáu i eraill drafod pynciau’n agored. Mae hyn yn eithriadol o bwysig pan fydd y fainc yn trafod manylion achos a’r angen i wneud penderfyniad.
  • Peidio â bod yn rhagfarnllyd. Dylai unrhyw un sy’n gwneud cais allu deall eu rhagfarnau personol eu hunain a sicrhau nad ydynt yn rhan o’u rhesymeg. Rhaid i ynad wneud penderfyniad gwrthrychol ar sail ffeithiau’r achos o’i flaen.
  • Bod yn deg drwy drin pawb fel unigolyn a phob achos yn unigol. Dylai ynad wneud penderfyniadau mewn ffordd agored a thryloyw, gan fod yn gyson o ran y ffordd y mae ein canllawiau’n cael eu rhoi ar waith.
  • Gwneud yn siŵr bod pawb syn dod ir llys yn deall beth syn digwydd, gan fod ystafell llys yn gallu bod yn lle dryslyd. Dylai ynad fod yn graff ac yn gallu sylwi ar arwyddion bach a allai atal rhywun rhag cael gwrandawiad teg yn y llys a sicrhau bod y rhain yn cael sylw.

Yn bwysicaf oll, mae’n rhaid i ynad fod yn ddiymhongar – gweld ei hun yn gydradd â’r rheini o’r gymuned y maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae’r penodiad hwn yn anrhydedd ac, fel ynad, mae’n rhaid i chi gofio bod gennych chi bwerau sy’n helpu’ch cymuned i ddatrys rhai o’r materion anoddaf maen nhw’n eu hwynebu

Ydych chi’n meddwl eich bod yn meddu ar yr hyn sydd ei angen i fod yn ynad?