Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Gofynnwch i ynad: Cydbwyso cyflogaeth â dyletswyddau

Mae bod yn ynad yn swydd werth chweil lle gallwch roi’n ôl i’ch cymuned leol. Buom yn siarad ag ynadon ledled y wlad i ddysgu sut maent yn cydbwyso bywyd gwaith â’u cyfrifoldebau fel ynadon.

Sut ydych chi’n cydbwyso gwirfoddoli fel ynad â’ch swydd?

“Mae fy nghwmni’n llwyr gefnogi’r amser rydw i’n ei dreulio’n rhoi’n ôl i fy nghymuned leol. Maen nhw’n rhoi gwyliau gyda thâl i mi gyflawni fy nyletswyddau yn y llys. Maen nhw’n gallu gweld y manteision rydw i’n eu cynnig i’r cwmni a’r gymuned drwy eistedd fel ynad. Cynhaliwch sgwrs agored a gonest gyda’ch cyflogwr i weld sut mae’n barod i’ch cefnogi.” – Aruj, Uwch Reolwr Cynnyrch

“Rwy’n gwneud yn siŵr fy mod yn eistedd oddeutu unwaith bob 3 wythnos ar y mwyaf, sy’n cyfateb i un eisteddiad bob mis. Rwy’n gwneud hyn er mwyn lleihau’r pwysau ar fy nghyflogwr i ddod o hyd i rywun i wneud fy ngwaith yn fy absenoldeb. O bryd i’w gilydd, rwy’n eistedd ar fyr rybudd, ond dim ond pan fydd hyn yn cyd-daro â chyfnodau llai prysur yn y gwaith.” – Daniel, Rheolwr Busnes

Sut gwnaethoch chi ddechrau’r drafodaeth gyda’ch cyflogwr?

“Pan ofynnais i’m rheolwr am ei gefnogaeth, ar ôl i fi benderfynu gwneud cais i fod yn ynad (cam hollbwysig y mae angen i chi ei gymryd), roeddwn yn ffodus bod fy rheolwr eisoes yn gwybod beth yw hanfodion ynad. Fe awgrymais rhai tudalennau gwe iddo edrych arnyn nhw i gael gwybod mwy am y rôl a chyfrifoldebau’r cyflogwr.

Roeddem yn cytuno y byddai’n gyfle gwych i mi wneud cais, ac roedd y ddau ohonom yn teimlo ei fod yn rhywbeth y gallwn ei ddilyn ar yr un pryd â rheoli fy llwyth gwaith yn effeithlon. Esboniais y gofynion eistedd sylfaenol wrtho, ac oherwydd bod fy nghyflogwr wir yn gefnogol o wirfoddoli a rhoi’n ôl, roeddwn yn hyderus nad oedd hyn yn mynd i fod yn broblem o ran dod o hyd i’r amser i ymrwymo.” – Anthony, Rheolwr Cyfathrebu

“Rwy’n ffodus iawn bod fy rheolwr yn eistedd yn y llysoedd ieuenctid. Mae hi’n annog ynadon o’r sefydliad. Mae ynadon yn dysgu llawer iawn o sgiliau cymdeithasol, yn ogystal â sgiliau deallusol, sgiliau trafod, ond hefyd sgiliau cydbwysedd a phroffesiynoldeb sy’n dod drwy’r broses o fod mewn llys ynadon a’r holl sgiliau y maent yn eu trosglwyddo’n ôl i’w gwaith.” – Emir, Cyfrifydd Siartredig

Oes gennych chi unrhyw gyngor am siarad â’ch cyflogwr am ddod yn ynad?

“Siaradwch â’ch cyflogwr / rheolwr. A oes cyfleoedd i weithio’n hyblyg i wneud amser i eistedd? A oes gan eich cyflogwr bolisi sy’n caniatáu amser o’r gwaith gyda thâl (mae gan lawer o gyflogwyr mawr bolisïau o’r fath).” Terry, Prif Reolwr Cefnogi Adnoddau Dynol a’r Gyflogres

“Peidiwch â bod ofn pwysleisio wrth eich cyflogwr pa mor bwysig yw’r rôl y byddwch chi’n ei chyflawni, a’ch bod yn gwneud hynny fel gwirfoddolwr.” – Mark, Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Elusennol

“Byddwn yn awgrymu siarad â’ch rheolwr yn y lle cyntaf yn hytrach na dweud dim; gyda’ch gilydd dylech allu dod o hyd i ddatrysiad i’r hyn sy’n peri pryder i chi. Anogwch eich cyflogwr i edrych ar wefannau Cymdeithas yr Ynadon a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder – mae digon o wybodaeth am sut y gall cyflogi ynad fod o fudd i fudiad, ni waeth pa mor fach ydyw.

Ar ben hynny, os ydych chi newydd gael eich penodi, siaradwch â’ch mentor – byddant yn wybodus am hyn ac yno i’ch cefnogi. Fel arall, mae Cadeirydd y Fainc yn ffynhonnell wych o gefnogaeth – cofiwch gadw mewn cysylltiad os ydych chi’n cael trafferth mewn unrhyw ffordd.” – Anthony, Rheolwr Cyfathrebu

Pa sgiliau ydych chi wedi’u datblygu fel ynad sydd o fudd i chi yn y gweithle?

“Rydw i’n dysgu cymaint fel ynad. Rydw i’n dysgu sut mae mynegi fy hun; rydw i’n dysgu am y gyfraith, rydw i’n dysgu sut mae’r system gyfreithiol yn gweithio, ac rydw i’n dysgu sut mae gwneud penderfyniadau er budd gorau pobl. Rwy’n mynd â hynny’n syth yn ôl gyda mi i’r gwaith, ac i fy nghartref, ac i’m ffrindiau, ac i’r bobl yn fy nghymuned.” – Khadija, Meddyg Iau

“Rwy’n gallu darllen llawer o wybodaeth yn gyflym a chwilio am bwyntiau / ffeithiau allweddol a chrynhoi gwybodaeth yn gyflym. Yn ogystal, rwy’n credu bod gweithio ar fainc o dri a gallu cyfleu fy mhwynt yn hyderus, cyfaddawdu, a gwybod pryd i wthio rhywbeth neu ei adael i fod, wedi bod yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd gwaith heriol.” – Alexa, Uwch Reolwr Llywodraethu

“Sgiliau gwrando a negodi, ochr yn ochr â dull strwythuredig o ddelio â phroblemau.” – Carole, Cydlynydd Gwasanaethau Cwsmeriaid

“Hyder, gwaith tîm a chymhathu gwybodaeth allweddol yn gyflym o lawer iawn o ddogfennau. Yn anad dim, mae wedi rhoi persbectif ehangach i mi ar gymdeithas a’r problemau cymdeithasol y mae’n rhaid i ddefnyddwyr llys eu rheoli’n aml yn eu bywydau.” – Lisa, Darlithydd Cyswllt

“Mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella’n aruthrol, rwy’n mynegi fy hun yn fwy cryno a chlir ac wedi datblygu ymwybyddiaeth o gyd-destun emosiynol unrhyw gyfathrebu wrth fynd i’r afael â gwrthdaro rhwng aelodau’r tîm, gan fod yn llawer mwy seiliedig ar dystiolaeth wrth ddatrys anghydfodau a bod yn ymwybodol o unrhyw dybiaethau rwy’n eu gwneud.” – Daniel, Rheolwr Busnes

Mae cymorth ar gael i’ch helpu i gydbwyso eich dyletswyddau fel ynad gyda’ch cyflogaeth. Mae adnoddau ar gael i’ch helpu i siarad â’ch cyflogwr a gwneud yn fawr o’ch rôl.

Mae canllawiau ar gael i gyflogwyr i’ch helpu i ddechrau’r sgwrs.