Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Pam fy mod i’n gwirfoddoli yn y llys teulu

Fel ynad, gallwch ddewis eistedd mewn llys troseddol neu lys teulu. Siaradom â Sam am ei benderfyniad dros eistedd yn y llys teulu.

Dywedwch ychydig amdanoch eich hun.

Dwi’n 39 oed ac yn byw gyda fy ngwraig a dau o blant ifanc yn Swydd Bedford. Yn fy swydd bob dydd, rwy’n uwch reolwr yn y diwydiant rheilffyrdd.

Rydw i hefyd yn gwirfoddoli yn fy nghymuned, yn cadeirio elusen pobl hŷn yn Swydd Buckingham ac yn Ymddiriedolaeth Academi ysgol yn Swydd Hertford.

Yn 2019, deuthum yn ynad yn y llys teulu, i ychwanegu at fy amserlen sydd eisoes yn brysur!

Beth wnaeth ichi benderfynu rhoi hyd yn oed mwy o’ch amser gyda hyd yn oed mwy o waith gwirfoddol?

Roedd rhai cydweithwyr yn y gwaith wedi cofrestru i ddod yn ynadon ac maent bob amser yn siarad am eu profiad, felly roeddwn i’n hyderus y byddai’n ddefnydd gwych o fy amser.

Roeddwn hefyd yn ei weld yn gyfle gwych i ennill sgiliau a defnyddio’r hyn y byddwn yn ei ddysgu fel ynad yn fy swydd bob dydd. Edrychais ar y 13 diwrnod sydd ei angen i fod yn y llys bob blwyddyn yr un mor werthfawr â mynychu cyrsiau hyfforddi gwaith allanol. Felly, roedd gwirfoddoli wir yn teimlo fel senario ‘win-win’ i mi a’r gymuned rydw i wedi ymrwymo i’w gwasanaethu.

Pam wnaethoch chi benderfynu dod yn ynad yn y llys teulu yn hytrach na’r llys troseddol?

Rwy’n fwy cyfarwydd â’r penderfyniadau a wnaed mewn llys teulu oherwydd roeddwn i’n rhan o achos mewn un pan oeddwn i tua phump oed. Bu i’r penderfyniadau a wnaed osod cynsail ar gyfer fy mywyd ac yn y pen draw yn golygu fy mod i’n mynd ymlaen i fyw gyda fy nhad.

Er fy mod yn rhy ifanc i ddeall beth oedd yn digwydd ar y pryd, gwnaed penderfyniadau ar fy rhan gan bobl oedd eisiau y gorau imi. Gan edrych yn ôl fel oedolyn, atgyfnerthodd fy mhrofiad llys teulu bwysigrwydd gwneud y penderfyniadau cywir i blant.

Yn y pen draw, roeddwn i eisiau helpu i wneud gwahaniaeth diriaethol ym mywydau plant sy’n rhan o’r system llysoedd teuluol am fod eraill wedi gwneud yr un peth i mi.

Beth yw’r elfen fwyaf buddiol o’ch rôl fel ynad?

Bob tro dwi’n camu allan o’r llys – boed hynny ar ôl gwrandawiad cyntaf neu olaf – dwi’n gwybod fy mod i wedi chwarae fy rhan mewn proses fydd yn effeithio ar fywydau plant, rhieni, a phawb arall sy’n rhan o’r broses.

Mae hynny’n fraint mawr imi.

Mae’n rhaid bod adegau pan rydych chi’n clywed straeon emosiynol iawn – sut ydych chi’n delio gyda hynny?

Cefais fy nysgu mewn hyfforddiant ei bod mor bwysig meithrin gwytnwch a dod o hyd i ba bynnag fecanwaith sy’n gweithio i chi fynd trwy achosion emosiynol. Byddwn i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud ei bod hi’n hawdd peidio meddwl am achos unwaith rydych chi adref gyda munud i chi’ch hun. Ond dwi’n trio cymaint ag y galla’i i ymlacio ychydig bach pan dwi’n cyrraedd adref, ac mae fy mhlentyn bach a’m mab saith oed yn fy nghadw i’n gorfforol ac yn feddyliol brysur yn dyfeisio gemau newydd!

Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth gan ynadon eraill, sydd yn help mawr. Mae’r gefnogaeth honno hefyd yn bresennol pan fyddwch chi’n dechrau fel ynad ac yn cael mentor sy’n ynad profiadol. Byddant yn eich arsylwi yn ystod rhai o’ch eisteddiadau ac mewn gwirionedd yn eistedd ar y fainc gyda chi, yn barod i’ch helpu os oes angen hynny arnoch.

Cefais y gefnogaeth honno hyd yn oed y tu allan i’r ystafell llys, gan fod fy mentor yn unigolyn gwych i siarad ag o yn ystod achosion arbennig o emosiynol.

Sut mae bod yn ynad wedi effeithio ar eich swydd bob dydd? Oes unrhyw sgiliau trosglwyddadwy y mae eich cyflogwr yn elwa ohonynt?

Mae pethau yn y gwaith yn achosi llai o straen imi nawr oherwydd, yn y llys, rwy’n gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith llawer mwy personol a hir dymor ar eraill. Felly, mae hyn yn helpu i roi persbectif a hyder i mi y gallaf ddelio â heriau a allai ddod i’r wyneb tra yn y gwaith.

Fel ynad yn y llys teulu, rwy’n ymwneud ag achosion emosiynol sy’n golygu fy mod yn gallu meithrin a datblygu sgiliau o ran datrys gwrthdaro, cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, ymchwil a gwaith tîm, i enwi rhai. Rwyf hefyd wedi meistroli sgiliau os oes anghytundeb ymysg pobl, sy’n sgil ardderchog i unrhyw un sy’n gweithio mewn tîm.   

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ddod yn ynad yn y llys teulu?

Mae bod yn ynad yn ffordd wych o gyfrannu at eich cymuned leol, i ddatblygu sgiliau a gwneud penderfyniadau sy’n newid bywydau.

O’r diwrnod cyntaf, byddwch yn chwarae rhan wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r plant a’r teuluoedd sydd o’ch blaen; Mae hynny’n gyfrifoldeb anhygoel a gwerth chweil i’w gael.

Os ydych yn teimlo bod gennych y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer achosion teulu a’r straeon emosiynol sy’n cyd-fynd â nhw, ystyriwch gofrestru i ddod yn ynad yn y llys teulu.