Are you OK with cookies?

We use small files called ‘cookies’ on magistrates.judiciary.uk. Some are essential to make the site work, some help us to understand how we can improve your experience, and some are set by third parties. You can choose to turn off the non-essential cookies. Which cookies are you happy for us to use?

Mynd i'r cynnwys

Sut i wirfoddoli

“Rydw i’n ymwneud â rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdano – cyfiawnder lleol i bobl leol.”

Meithrin sgiliau newydd a phrofiad unigryw wrth gefnogi eich cymuned.

Gwirfoddoli i fod yn ynad

Dyma gyfle gwych i ymestyn eich potensial, datblygu sgiliau newydd a gwneud penderfyniadau a fydd yn helpu i greu newid cadarnhaol.

Os ydych chi’n hoffi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu am fod yn ynad a’ch bod yn cwrdd â’r gofynion, mae’n bryd ymgeisio.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wneud ar bob cam o’r broses ymgeisio.

Cam 1: Cyn i chi wneud cais

Arsylwi gwrandawiadau llys neu wneud ymchwil

Cyn gwneud cais i fod yn ynad yn y llys troseddol, rhaid i chi ymweld â llys ynadon o leiaf ddwywaith i arsylwi achos. Mae hwn yn ofyniad hanfodol gan y bydd gofyn i chi gyflwyno myfyrdodau ysgrifenedig yn eich ffurflen gais.

Gallwch ddod o hyd i lys ynadon yn eich ardal. Ar ôl i chi ddod o hyd i’ch llys lleol, byddem yn argymell cysylltu â’r llys ymlaen llaw er mwyn i chi gael gwybod mwy am pa bryd i fynd yno. Sylwch fod barnwyr rhanbarth hefyd yn eistedd mewn llysoedd ynadon, ac mae’n bwysig eich bod yn arsylwi llys lle mae ynadon yn eistedd yn hytrach na barnwr rhanbarth.  Bydd staff y llys yr ydych yn ymweld ag ef yn gallu rhoi cyngor i chi pa lys/lysoedd sydd ag ynadon yn eistedd. 

Mae gwefan Cymdeithas yr Ynadon hefyd yn adnodd defnyddiol i gael gwybodaeth am y rôl.

Gan fod ynadon yn gwrando achosion llys teulu yn breifat, ni fyddwch yn gallu ymweld â llys cyn i chi wneud cais. Yn hytrach, dylech ymgyfarwyddo â gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am y llys teulu er mwyn sicrhau bod y rôl yn iawn i chi. Yn yr un modd, gyda cheisiadau i’r llys troseddol, bydd gofyn i chi gyflwyno myfyrdodau ysgrifenedig yn eich ffurflen gais. Os yw’r rôl hon o ddiddordeb i chi, mae gennym wybodaeth bellach am weithio fel ynad llys teulu.

Man cychwyn defnyddiol yw ein adran deulu o adnoddau ymchwil y llys ynadon.

Mae rhagor o wybodaeth am y llys teulu hefyd ar gael yn:
Canllaw Advicenow ar gyfer mynd i’r llys teulu
Fideos llys teulu’r Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain, gan The Family Court Without a Lawyer
Ein tudalen ‘Y tu mewn i’n llysoedd
Ein tudalen ynadon llys teulu
Tudalen Llys teulu Cymdeithas yr Ynadon

Cael cymeradwyaeth gan eich cyflogwr

Bydd angen i chi siarad â’ch cyflogwr i sicrhau ei fod yn hapus i chi dreulio o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn yn gwirfoddoli fel ynad, ynghyd â diwrnodau hyfforddi. Gofynnir i chi gadarnhau ei gefnogaeth gyda geirda. Mae gennych hawl gyfreithiol i gymryd amser i ffwrdd ar gyfer y math hwn o waith gwirfoddol, ond mater i’ch cyflogwr yw penderfynu sawl diwrnod ac a fyddai eich absenoldeb gyda thâl neu’n ddi-dâl. Os ydych yn hunangyflogedig neu os ydych yn gorfod eistedd yn ddi-dâl, gallwch hawlio enillion coll hyd at £134.96 y dydd.

Meddyliwch am y gefnogaeth y bydd ei hangen

Bydd angen i chi ystyried unrhyw effaith ariannol posib cyn gwneud eich cais. Mae llawer o gyflogwyr yn cynnig o leiaf rywfaint o absenoldeb cyflogedig i gydnabod eich cyfraniad i gymdeithas a’r sgiliau y byddwch yn eu datblygu. Os ydych chi’n hunangyflogedig, gallwch hawlio am golli enillion. Gall pawb hawlio treuliau ar gyfer pethau fel bwyd a theithio. Darllenwch ein Polisi Treuliau Ynadon.

Rhaid i bob cais gael ei gwblhau ar-lein oni bai am mewn amgylchiadau eithriadol. Felly byddwch hefyd angen mynediad at ddyfais ddigidol i lenwi’r ffurflen gais ar-lein, gan gynnwys gwneud yr asesiad cymhwysedd a dewis amser ar gyfer y cyfweliad rhithiol. Bydd yr holl ohebiaeth ynghylch eich cais hefyd ar ffurf negeseuon e-bost.

Gwiriwch eich bod yn gymwys

O ran y gofynion penodol, bydd angen i chi fod rhwng 18 a 74 mlwydd oed. Noder, mai 75 yw’r oed ymddeol mandadol ar gyfer ynadon, a bod disgwyl iddynt eistedd am isafswm o 5 mlynedd. Gall fod yn 12 – 18 mis rhwng cyflwyno cais a chael eich penodi. Os ydych yn agos at yr oed ymddeol mandadol, dylech ystyried hynny cyn gwneud cais. Bydd arnoch angen bod â chymeriad da a barn gadarn hefyd. Mae ‘cymeriad da’ yn cynnwys eich cymhellion ar gyfer gwneud cais, eich ymrwymiad i’r rôl ac a oes unrhyw reswm dros gredu y byddai eich penodi yn effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ynadaeth. Cyn gwneud cais, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin i wirio a ydych yn gymwys, gan gynnwys oedran, isafswm y cyfnodau eistedd, a pha swyddi a allai eich atal rhag gwirfoddoli. 

Cam 2: Cais a chyfweliad

Gall gwneud cais i ddod yn ynad gymryd hyd at 12 mis o’r adeg y
cyflwynir cais.  Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir adolygu pob cais yn
drylwyr, a gwneud gwiriadau angenrheidiol.  Mae’r amser a gymerir yn
amrywio ac yn dibynnu a oes ceisiadau ar agor yn eich ardal leol ai peidio, yn
ogystal â’r amser mae eich cais a’ch gwiriadau cymhwysedd yn eu cymryd i’w
cwblhau.

Dros y cyfnod hwn, bydd eich cais yn mynd trwy nifer o gamau.  Ar bob cam, byddwch yn cael eich
asesu i weld a ydych yn dangos y pum priodoledd allweddol canlynol:

  • Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol
  • Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw
  • Cyfathrebu â sensitifrwydd a pharch
  • Dangos hunan ymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu
  • Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol

Mae rhagor o wybodaeth am y priodoleddau hyn i’w cael yn ein Cwestiynau Cyffredin.  

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am eich taith fel ymgeisydd.

1. Application 

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein a fydd yn cynnwys cwestiynau sylfaenol yn gofyn am wybodaeth bersonol a manylion cyswllt, yn ogystal â chwestiynau ar eich cymhwysedd a chymeriad da. Bydd angen i chi hefyd gadarnhau eich bod wedi gwneud yr ymweliadau llys gofynnol neu ymchwil ar gyfer eich maes dewisol a darparu dau eirda. Os ydych mewn cyflogaeth, rhaid i un geirda fod gan eich cyflogwr. 

Unwaith y byddwch yn cyflwyno eich cais, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth yn cadarnhau ei fod wedi’i dderbyn.

2. Asesiad cymhwyso recriwtio ynadon

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn eich cais, fe’ch gwahoddir i gymryd yr asesiad cymhwyso recriwtio ynadon.

Yn yr asesiad hwn, byddwch yn cael cyfres o senarios realistig a allai ddod i ran ynad a gofynnir chi beth fyddai’r ffordd orau o ymateb i bob un ohonynt fel pe baech yn ynad yn eistedd yn y llys.  Mae rhagor o wybodaeth am yr asesiad ar gael isod, ynghyd â rhai cwestiynau enghreifftiol i chi ymarfer

Byddwch yn derbyn canlyniad y prawf yn fuan ar ôl i chi ei gwblhau. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cadarnhad o hyn, gan gynnwys gwybodaeth am gam nesaf y broses, y cyfweliad.

Os nad ydych wedi bod yn llwyddiannus, cewch wybod hynny. Yn anffodus, ni fyddwch yn gallu gofyn am adborth ar y cam hwnnw. Byddwch yn gymwys i ail-ymgeisio ymhen chwe mis.

3. Cyfweliad

O fewn tua 12 wythnos, fe’ch gwahoddir i gyfweliad. Mae cyfweliadau’n digwydd yn rhithiol; fodd bynnag, gallwch ofyn am gyfweliad wyneb yn wyneb drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol.

Gofynnir ichi ddangos y pum prif briodoledd hyn ochr yn ochr â ‘chymeriad da’. Mae hyn yn cynnwys eich cymhellion dros wneud cais, eich ymrwymiad i’r rôl ac a oes unrhyw reswm pam y byddai eich penodi yn effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr ynadaeth.

Ni fydd y cyfweliad yn cymryd mwy na 75 munud, a bydd eich atebion yn cael eu gwerthuso gan y Pwyllgor Ymgynghorol y gwnaethoch gais iddo. Mae ymgeiswyr yn cael canllawiau cyfweld cyn eu cyfweliad.  

4. Canlyniad y cyfweliad

Ar ôl i’ch cyfweliad gael ei sgorio, byddwch yn cael gwybod y canlyniad. Gall hyn gymryd sawl mis, gan y bydd Pwyllgorau Ymgynghorol yn cynnal cyfweliadau gyda’r garfan gyfan o ymgeiswyr cyn cyhoeddi’r canlyniadau. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn destun rhai gwiriadau cyn penodi yn derfynol.

Os byddwch yn aflwyddiannus yn y cyfweliad, cewch wybod hynny. Ar y cam hwnnw, gallwch ofyn am adborth gan y Pwyllgor Ymgynghorol.

5. Gwiriadau cyn penodi

Cyn eich penodi, byddwch yn cael nifer o archwiliadau terfynol, gan gynnwys gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), i gadarnhau nad oes gennych unrhyw euogfarnau a fyddai’n eich anghymhwyso rhag eistedd fel ynad. Gall y cam hwn gymryd sawl mis. Os byddwch yn pasio’r gwiriadau terfynol, byddwch yn cael eich argymell i’ch penodi.  

Cam 3: Penodi

Wedi ichi ddangos i ni eich bod yn addas fod yn ynad yn y cyfweliad, byddwch yn cael cynnig y rôl yn ffurfiol. Rydyn ni’n credu y bydd yn un o’r cyfrifoldebau mwyaf gwerth chweil y byddwch chi byth yn ymgymryd ag ef.

Mae hon yn rôl wirfoddol ond gan ei bod hefyd yn benodiad cyhoeddus i’r farnwriaeth, os argymhellir eich penodi, bydd angen i Uwch Farnwr Llywyddol gymeradwyo’r penodiad ar ran yr Arglwydd Brif Ustus.

Bydd disgwyl i chi neilltuo o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn, ynghyd â diwrnodau hyfforddi, am o leiaf bum mlynedd, ar gyfer dyletswyddau ynad.

Asesiad cymhwyso recriwtio ynadon: Cwestiynau enghreifftiol 

Os byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn eich cais, fe’ch gwahoddir i gymryd asesiad rhagbrofol recriwtio ynadon.

Yn yr asesiad hwn, byddwch yn cael cyfres o senarios realistig a allai ddod i ran ynad. Ar gyfer pob cwestiwn, byddwch yn cael sefyllfa ddamcaniaethol y gallech ddod ar ei thraws fel ynad a gofynnir sut orau i ymateb i bob un ohonynt fel petaech yn ynad sy’n eistedd. Ar gyfer pob sefyllfa, cyflwynir rhestr o bedair gweithred y gellid eu dewis i ddelio â’r sefyllfa.

Eich tasg fydd gosod trefn ar yr opsiynau ymateb yn seiliedig ar ba mor effeithiol rydych chi’n meddwl yw pob opsiwn ymateb, o’r mwyaf effeithiol i’r lleiaf effeithiol.

Nid ydym yn disgwyl i chi gael unrhyw wybodaeth neu brofiad blaenorol er mwyn ateb y cwestiynau hyn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn seilio’ch atebion ar yr wybodaeth a ddarperir ar gyfer pob sefyllfa. Mae geirfa o dermau a fydd ynghlwm wrth bob senario y gellir cyfeirio ati am ddiffiniadau o eiriau technegol neu gweithdrefnol os oes angen.  

Enghraifft 1

Rydych yn eistedd mewn achos llys lle mae mam yn ceisio gorfodi ei mab 14 oed yn gyfreithiol i’w gweld bob pythefnos ar ôl bod yn absennol o’i fywyd am 9 mlynedd. Nid yw’r mab eisiau cael cyswllt â’i fam ac mae’n anghytuno â’r trefniant. Rydych chi a’r ynadon eraill wedi cytuno na ddylai’r mab gael ei orfodi i weld ei fam. Rydych chi i gyd hefyd yn cytuno eich bod yn ofni y gallai’r mab ddifaru yn ddiweddarach. Mae’r Ynad Llywyddol wedi gofyn i chi am gyngor ar y ffordd orau o gyfleu’r penderfyniad i’r fam a’r mab. Fyddech chi’n gwneud y canlynol:

  1. Esbonio nad oes angen i’r Ynad Llywyddol roi eglurhad manwl yn yr achos hwn, a dylai ganolbwyntio ar gyfleu’r canlyniad yn glir
  2. Awgrymu bod yr Ynad Llywyddol yn annog y fam i aros yn bositif ac y bydd hi’n gallu ailadeiladu perthynas gyda’i mab dros amser
  3. Awgrymu y dylai’r Ynad Llywyddol roi esboniad manwl i’r ddau ohonynt ynglŷn â pham y cafodd y penderfyniad ei wneud
  4. Awgrymu y dylai’r Ynad Llywyddol roi gwybod i’r mab y bydd yn rhaid iddo gysylltu â’i fam yn y dyfodol os yw’n newid ei feddwl.

Enghraifft 1 ateb

Yr ymateb mwyaf effeithiol fyddai opsiwn 3 (awgrymu y dylai’r Ynad Llywyddol roi esboniad manwl i’r ddau ohonynt ar pam y gwnaed y penderfyniad). Mae’n bwysig bod ynadon yn cyfathrebu’n glir, a gyda pharch, i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu deall ac yn dryloyw.  

Yr  ymateb lleiaf effeithiol fyddai opsiwn 1 (Esbonio nad oes angen i’r Ynad Llywyddol roi esboniad manwl yn yr achos hwn  ac y dylai ganolbwyntio ar gyfathrebu’r canlyniad yn glir). Er ei bod yn bwysig cyfleu’r canlyniad yn glir, mae hefyd yn bwysig cyfathrebu mewn ffordd barchus, a rhoi digon o esboniad i’r rhai y mae’r penderfyniad yn effeithio arnynt.  

Enghraifft 2

Rydych mewn ystafell ymneilltuo gyda dau ynad arall, Nathanial a Joost. Rydych yn ystyried a ddylid cael diffynnydd yn euog neu’n ddieuog. Mae Nathanial a Joost yn credu  bod y diffynnydd yn euog am fod rhan helaethaf  y dystiolaeth yn awgrymu bod y diffynnydd wedi cyflawni’r drosedd. Rydych yn ansicr a yw’r diffynnydd yn euog ai peidio. Rydych chi hefyd yn teimlo bod Nathanial a Joost wedi anwybyddu darn bach a pherthnasol o dystiolaeth. Fyddech chi’n gwneud y canlynol:

  1. Cyfeirio sylw Nathanial a Joost at y darn bach o dystiolaeth y maent wedi’i anwybyddu a sut y gallai fod yn berthnasol i’r achos
  2. Dweud wrth Nathanial a Joost eich bod yn ansicr a yw’r diffynnydd yn euog a gofyn a allwch gymharu nodiadau llys i helpu i ddod i benderfyniad
  3. Adolygu eich nodiadau llys i weld beth mae baich y dystiolaeth yn ei awgrymu a’i  ddefnyddio i benderfynu a yw’r diffynnydd yn euog
  4. Gofyn i Nathanial a Joost archwilio’r posibilrwydd bod y diffynnydd yn ddieuog drwy adolygu tystiolaeth sy’n cefnogi achos y diffynnydd

Enghraifft 2 ateb

Yr ymateb mwyaf effeithiol fyddai opsiwn 1 (Cyfeirio Nathanial a Joost at y darn bach o dystiolaeth y maent wedi’i anwybyddu a sut y gallai fod yn berthnasol i’r achos). Rhaid i ynadon wneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw, ac mae’n bwysig sicrhau fod proses ac ystyriaeth ddyledus yn cael ei ddangos i’r holl dystiolaeth wrth wneud y penderfyniadau hyn.  

Yr  ymateb lleiaf effeithiol fyddai opsiwn 3 (Adolygu eich nodiadau llys i weld beth  mae baich y dystiolaeth yn ei awgrymu a’i ddefnyddio i benderfynu a yw’r diffynnydd yn euog). Mae ynadon yn gweithio gyda’i gilydd fel mainc gydag ynadon eraill i ddod i benderfyniad. Er mwyn gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw, mae’n bwysig cyfathrebu â chydweithwyr.  

Canllawiau Ymgeisio

Darllenwch yr isod am arweiniad gyda’ch cais. Am ragor o wybodaeth am fod yn ynad, ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Swyddi gwag

Mae’n rhaid i chi wneud cais i eistedd mewn ardal sy’n lleol i ble rydych chi’n byw neu’n gweithio, boed hynny ar gyfer y llys teulu neu’r llys troseddol.  
Os nad yw eich ardal yn recriwtio ar hyn o bryd, gallwch gofrestru eich diddordeb i fod y cyntaf i glywed pan fydd swyddi gwag yn eich ardal yn agor. Os nad yw eich ardal yn ‘fyw’ eto, daliwch ar y cyfle hwn i gwblhau’r arsylwadau neu ymchwil llys ynadon gofynnol cyn gwneud cais.  

Gallwch ddod o hyd i fanylion ymgyrchoedd recriwtio sydd ar y gweill yn ein Cynllun Recriwtio Pwyllgorau Ymgynghorol.   

Y broses ymgeisio: llys troseddol

Y ffurflen gais

Rhaid i bob cais gael ei gwblhau ar-lein oddieithr mewn amgylchiadau eithriadol. Os oes angen, gallwch ofyn am gopi caled neu fersiynau braille drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol lleol. 

 Bydd y ffurflen gais yn gofyn:

  • Cwestiynau gwybodaeth bersonol, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a manylion cyswllt.
  • Cwestiynau rhagarweiniol. Mae’r rhain yn cynnwys – Sut gawsoch chi wybod am y swydd wag? I ba faes rydych chi’n gwneud cais? Os yn ymgeisio yng Nghymru, ydych chi’n siarad Cymraeg ac ydych chi’n gallu cwrdd â’r gofynion Cymraeg?
  • Cwestiynau cymhwysedd. Bydd y rhain yn ymdrin â phethau fel eich oedran, lle rydych chi’n byw yn barhaol, ydych chi, neu ydych chi’n bwriadu, ceisio lloches neu wneud cais am gyfnod amhenodol i aros yn y DU? A allwch chi ymrwymo i wasanaethu am 5 mlynedd? Ydych chi wedi gwneud cais yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf? Gofynnir i chi hefyd roi manylion eich dau gyfnod o arsylwi yn y  llys ynadon. Gallwch ddod o hyd i ragor yn yr adran gymhwysedd ymysg ein Cwestiynau Cyffredin.
  • Cwestiynau cyflogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys nodi eich galwedigaeth bresennol chi a’ch priod neu bartner yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac a ydych chi’n gwneud unrhyw fath arall o waith/gweithgaredd gwirfoddol ar hyn o bryd.
  • Cwestiynau cymeriad. Mae’r rhain yn cynnwys darparu manylion am unrhyw Hysbysiad Cosb Benodedig, collfarnau/rhybuddion/troseddau traffig/achosion methdaliad yn y gorffennol neu’r presennol. A yw eich priod, partner, aelod agos o’r teulu neu ffrind agos wedi derbyn euogfarnau neu rybuddion a allai effeithio ar eich cais i fod yn ynad? A oes unrhyw beth arall yn eich bywyd preifat neu waith, yn y gorffennol neu’r presennol, a allai niweidio eich hygrededd fel ynad pe bai’n dod yn hysbys i’r cyhoedd?
  • Gwybodaeth ychwanegol, megis addasiadau rhesymol a geirda.
  • Cwestiynau monitro amrywiaeth

Y broses ymgeisio: llys teulu

Dylech wneud eich cais ar-lein.

Os oes angen, gallwch ofyn am gopi caled neu fersiynau braille drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol lleol.

Bydd y ffurflen gais yn gofyn:

  • Cwestiynau gwybodaeth bersonol, fel eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni a manylion cyswllt.
  • Cwestiynau rhagarweiniol. Mae’r rhain yn cynnwys – Sut gawsoch chi wybod am y swydd wag? I ba faes rydych chi’n gwneud cais? I ba banel teulu rydych chi’n gwneud cais? Os yn ymgeisio yng Nghymru, ydych chi’n siarad Cymraeg ac ydych chi’n gallu cwrdd â’r gofynion ynglŷn â’r Gymraeg?
  • Cwestiynau cymhwysedd. Bydd y rhain yn ymdrin â phethau fel eich oedran, lle rydych chi’n byw yn barhaol, ydych chi, neu ydych chi’n bwriadu, ceisio lloches neu wneud cais am gyfnod amhenodol i aros yn y DU? Ydych chi yn y broses o gael ysgariad? A ydych ar hyn o bryd neu ar fin bod yn rhan o achos llys yn ymwneud ag unrhyw blentyn o dan 18 oed? A allwch chi ymrwymo i wasanaethu am 5 mlynedd? Ydych chi wedi gwneud cais yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf? Gofynnir i chi hefyd roi manylion eich ymchwil ar rôl ynadon y llys teulu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran ar gymhwysedd ymysg ein Cwestiynau Cyffredin.
  • Cwestiynau cyflogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys nodi eich galwedigaeth bresennol chi a’ch priod neu bartner yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac a ydych chi’n gwneud unrhyw fath arall o waith/gweithgaredd gwirfoddol ar hyn o bryd.
  • Cwestiynau cymeriad. Mae’r rhain yn cynnwys darparu manylion am unrhyw Hysbysiad Cosb Benodedig, collfarnau/rhybuddion/troseddau traffig/achosion methdaliad yn y gorffennol neu’r presennol. A yw eich priod, partner, aelod agos o’r teulu neu ffrind agos wedi derbyn euogfarnau neu rybuddion a allai effeithio ar eich cais i fod yn ynad? A oes unrhyw beth arall yn eich bywyd preifat neu waith, yn y gorffennol neu’r presennol, a allai niweidio eich hygrededd fel ynad pe bai’n dod yn hysbys i’r cyhoedd?
  • Gwybodaeth ychwanegol, megis addasiadau rhesymol a geirda.
  • Cwestiynau monitro amrywiaeth

Y pum prif briodoledd

Trwy gydol y broses ymgeisio, gan gynnwys yr asesiad a’r cyfweliad cymhwyso, byddwch yn cael eich asesu yn erbyn y pum prif briodoledd:

  • Deall a gwerthfawrogi safbwyntiau gwahanol
  • Gwneud penderfyniadau teg, diduedd a thryloyw
  • Cyfathrebu â sensitifrwydd a pharch
  • Dangos hunan ymwybyddiaeth a bod yn agored i ddysgu
  • Gweithio ac ymgysylltu â phobl yn broffesiynol

Mae rhagor o wybodaeth am y priodoleddau hyn i’w cael yn ein Cwestiynau Cyffredin.

Geirda

Pan fyddwch yn ymgeisio, bydd gofyn i chi ddarparu enwau dau ganolwr. Gall y rhain fod yn ganolwyr o’r gwaith neu’n ganolwyr sy’n eich adnabod yn bersonol, ond dylent fod yn rhywun sy’n eich adnabod yn dda.  
Os ydych yn cael eich cyflogi, rhaid i un geirda fod gan eich rheolwr neu eich cyflogwr. Mae rhagor o wybodaeth a chyngor i gyflogwyr ar gael a all eich helpu chi i ddechrau’r sgwrs gyda’ch cyflogwr.  

Gofynnir i’ch canolwyr a fyddent yn argymell eich penodi’n ynad, ac a oes ganddynt unrhyw bryderon neu sylwadau am eich addasrwydd. Os mai hwy yw eich cyflogwyr, gofynnir iddynt gadarnhau y byddant yn eich cefnogi i ymgymryd â’r rôl, gan gynnwys drwy roi amser i ffwrdd o’r gwaith lle bo angen. Mae’n bwysig sicrhau bod eich canolwyr yn gallu cyflwyno geirda o fewn yr amserlen.

Os byddwch yn pasio’r cam cychwynnol, bydd y Pwyllgor Ymgynghorol yn cysylltu â’ch canolwyr ac yn gofyn iddynt roi geirda erbyn dyddiad penodol.  

 Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y bobl rydych chi’n bwriadu eu henwi’n ganolwyr yn barod ac yn gallu darparu geirda o fewn yr amserlen angenrheidiol.  

Os na fydd eich canolwyr yn cwblhau’r cyfeirnod mewn pryd ni fydd eich cais yn gallu mynd yn ei flaen.  

 Rydym yn argymell rhoi gwybod i’ch canolwyr ymlaen llaw fel eu bod yn gallu dychwelyd y ffurflen mewn pryd.

Noder, wrth ddewis eich canolwyr:

  • Os ydych yn gyflogedig, rhaid i un geirda fod gan eich rheolwr neu eich cyflogwr.
  • Mae’n rhaid eich bod yn adnabod eich canolwyr am o leiaf tair blynedd (oni bai bod y canolwr yn gyflogwr ichi a’ch bod wedi gweithio yno am lai na thair blynedd).
  • Ni ellir enwebu perthynas neu unrhyw un rydych chi’n byw gydag ef/hi ar hyn o bryd.
  • Os ydych chi wedi byw yn yr  ardal  rydych chi’n gwneud cais i eistedd ynddi am o leiaf tair blynedd, mae’n rhaid i un o’ch canolwyr fyw yn yr un ardal.
  • Peidiwch ag enwi canolwr a allai ymddangos o flaen y llysoedd y byddwch yn gwasanaethu ynddynt – er enghraifft, heddwas o’r un ardal.
  • Gallwch enwebu deiliad swydd ynadon neu farnwrol (ond dim ond un) fel canolwr.
  • Os ydych chi’n gwneud cais am rôl lle mae gofyn medru siarad Cymraeg, dylai eich canolwr hefyd allu rhoi barn ynghylch eich rhuglder yn y Gymraeg i gwrdd â gofynion y rôl.

Mae gwybodaeth a ddarperir gan ganolwr yn gyfrinachol.

Ni fydd manylion cynnwys geirdaon yn cael eu datgelu i ymgeiswyr.

Canllawiau cyfweld

Os ydych yn llwyddiannus wrth gyflwyno’r ffurflen gais ar-lein, fe’ch gwahoddir i gyfweliad. Byddwch yn derbyn e-bost gyda dewis o slotiau cyfweld a gofynnir i chi archebu’r amser a’r diwrnod sy’n gweddu orau i chi. 

Cewch wybod am ganlyniad y cyfweliad drwy e-bost cyn gynted â phosib ar ôl y cyfweliad.  

Y cyfweliad – beth i’w ddisgwyl
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal gan banel o ddau i dri o bobl, a fydd yn cynnwys aelodau o’r Pwyllgor Ymgynghorol, yn ynadon a rhai nad ydynt yn ynadon.  

Gallwch ddisgwyl i’r cyfweliad bara tua 75 munud.  

Ni fydd gan y panel cyfweld fynediad at eich ffurflen gais. Ni fyddant yn cael unrhyw wybodaeth amdanoch chi, heblaw am eich enw a’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthynt yn y cyfweliad.

Paratoi ar gyfer eich cyfweliad

Bydd yn ddefnyddiol i chi fod wedi gwneud eich ymchwil drwy ddarllen unrhyw adnoddau ar rôl ynad, yn ogystal â meddwl yn ôl i’r arsylwadau llys y byddwch wedi’u cwblhau os ydych yn gwneud cais am y llys troseddol. Myfyriwch ar y priodoleddau sydd eu hangen ar gyfer y rôl a sut y gallwch eu dangos.   

 Meddyliwch yn ofalus am eich atebion i’r cwestiynau. Dylech eu strwythuro gan ddefnyddio’r dull Problem, Gweithredu, Canlyniad, fel yr eglurir isod:

  • Problem. Disgrifiwch y digwyddiad neu’r sefyllfa benodol lle cododd problem. Dylai hyn gynnwys disgrifiad byr i osod cyd-destun a manylion y broblem. 
  • Cam gweithredu. Esboniwch sut roeddech chi’n arddangos yr ymddygiadau a’r ddealltwriaeth berthnasol. Beth wnaethoch chi? Sut wnaethoch chi hynny? Pam wnaethoch chi hynny felly? Pa sgiliau oeddech chi’n eu defnyddio? 
  • Canlyniad. Crynhoi canlyniadau eich gweithredoedd. Beth oedd y canlyniad? Beth wnaethoch chi ei ddysgu? 

Gallwch gymryd amser i ystyried eich ateb cyn siarad. Rhaid i chi ateb hyd eithaf eich gallu, yn onest, a chynnwys pam y byddech chi’n ymateb yn y ffordd rydych chi’n meddwl sydd orau. Gall y panel cyfweld ofyn cwestiynau dilynol, a holi ymhellach am eich atebion.

Fformat cyfweliad
Bydd cyfweliadau fel arfer yn cael eu cynnal o bell gan ddefnyddio technoleg fideo drwy Microsoft Teams. Gallwch ofyn am ei gynnal wyneb yn wyneb. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â’ch Pwyllgor Ymgynghorol lleol ar ôl i chi gael gwahoddiad i gyfweliad.

Ceisiadau aflwyddiannus

Yn anffodus, ni fydd pob ymgeisydd yn llwyddiannus. Rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn fod yn siomedig, felly mae croeso i bawb sy’n cyrraedd y cam cyfweld ofyn am adborth. 

Efallai y byddwch hefyd yn gofyn i’r penderfyniad hwn gael ei adolygu gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar recriwtio. Fodd bynnag, ni chaiff hyn ond ei ystyried os oes gennych reswm i gredu na ddilynwyd y broses ddethol yn iawn neu fod aelod o’r panel cyfweld wedi ymddwyn yn amhriodol.  

 Os byddwch yn penderfynu gofyn am adolygiad, rhaid i chi ofyn am adborth yn gyntaf, ac yna datgan yn glir ac yn gryno eich sail dros wneud hynny. Nid yw’n ddigon dweud eich bod yn anghytuno â’r penderfyniad. Bydd y pwyllgor ymgynghorol y gwnaethoch gais iddo yn rhoi adborth i chi o’ch cyfweliad o fewn 30 diwrnod gwaith wedi ichi ofyn amdano. Yna rhaid ichi ofyn am adolygiad o’r penderfyniad o fewn 15 diwrnod o dderbyn adborth.

Os ydych yn credu bod gennych sail i apêl, bydd angen i chi:

  • Gofyn am adborth gan y Pwyllgor Ymgynghorol y gwnaethoch gais iddo.
  • Anfonir e-bost at ffurflen apelio atoch a bydd gennych 15 diwrnod ar ôl derbyn yr adborth i apelio yn erbyn y penderfyniad.
  • Aros i’r Pwyllgor Ymgynghorol adolygu ac ymateb.

NODER: Nid oes hawl i apelio ar gyfer ymgeiswyr nad oeddent yn symud ymlaen i’r cam cyfweld neu sy’n cael eu hasesu fel rhai y gellid eu penodi ond nad ydynt yn cael eu hargymell oherwydd bod ymgeiswyr eraill yn sgorio’n uwch. Fodd bynnag, os byddwch yn cael cyfweliad ac yn cael eich asesu fel ymgeisydd y gellid ei benodi, efallai y gofynnir i chi a fyddech yn ystyried eistedd mewn awdurdodaeth arall, troseddol neu deulu, os oes swyddi gwag ar adeg y broses recriwtio.